Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi’n defnyddio cychod pleser, bydd angen sgiliau radio da arnoch rhag ofn y bydd angen i chi gysylltu â gwyliwr y glannau neu gwch arall i gael cymorth. I’ch helpu i gadw’n ddiogel ar y môr, dylech gael gwybod am y cyfarpar y mae ei angen arnoch a sut mae cael hyfforddiant radio.
Os nad ydych chi’n mynd â’ch cwch fwy na 30 môr-filltir oddi ar arfordir y DU, bydd angen i chi gludo:
Mae DSC, Navtex ac EPIRB yn gydrannau’r System Cyfyngder a Diogelwch Morol Fyd-eang (GMDSS) – y system ddiogelwch gyfathrebu ryngwladol i longau ar y môr.
Caiff ei defnyddio ar gyfer pob math o gyfathrebu, gan gynnwys:
Mae’n rhaid i rai llongau osod cyfarpar GMDSS, er enghraifft, llongau masnachol sy’n pwyso dros 300 tunnell gros. Nid yw’n gyfreithiol ofynnol i chi ei gosod ar eich cwch pleser, ond argymhellir yn gryf rhai o’r cydrannau, megis radio VHF gyda DSC.
O leiaf, dylai fod gennych radio VHF ar eich cwch pleser. Bydd hyn yn golygu y gallwch gyfathrebu â gwyliwr y glannau neu â chwch arall os cewch anhawster. Bydd gwyliwr y glannau hefyd yn darlledu gwybodaeth am ddiogelwch, megis gwybodaeth am y tywydd a rhybuddion mordwyo, drwy gyfrwng VHF.
Gallwch gysylltu â Chanolfannau Cydlynu Achub Morol (MRCC) Gwylwyr Glannau EM drwy gyfrwng VHF o fewn 20-30 milltir oddi wrth yr arfordir.
Mae’r rhan fwyaf o radios VHF modern yn cynnwys DSC, sef system signalau tôn sy’n gweithredu ar VHF sianel 70. Gallwch wneud galwadau rheolaidd i gychod eraill neu MRCC sydd â DSC drwy ddefnyddio eu rhif adnabod naw digid unigryw. (Hunaniaeth y gwasanaeth symudol morol, neu MMSI, yw hwn.)
Rhoddir rhifau MMSI pob MRCC yn y DU isod.
MRCC yn ôl lleoliad a’u rhifau MMSI
MRCC | MMSI |
---|---|
Aberdeen |
002320004 |
Belfast |
002320021 |
Brixham |
002320013 |
Clyde |
002320022 |
Dover |
002320010 |
Falmouth |
002320014 |
Forth |
002320005 |
Caergybi |
002320018 |
Humber |
002320007 |
Lerpwl |
002320019 |
Aberdaugleddau |
002320017 |
Portland |
002320012 |
Shetland |
002320001 |
Solent |
002320011 |
Stornoway |
002320024 |
Abertawe |
002320016 |
Tafwys |
002320009 |
Yarmouth |
002320008 |
Mewn argyfwng, gallwch ddefnyddio DSC i anfon gwybodaeth bwysig am eich cwch a’ch sefyllfa drwy bwyso un botwm.
Gyda derbynnydd Navtex, byddwch yn gallu derbyn gwybodaeth am ddiogelwch morol rhyngwladol yn awtomatig, gan gynnwys:
Mae’r rhan fwyaf o dderbynyddion yn eich galluogi i recordio’r wybodaeth neu ei hargraffu.
Mae EPIRB yn fath o dywysydd lleoli, sy’n trawsyrru signal cyfyngder un ffordd drwy gyfrwng lloeren. Mewn argyfwng, er enghraifft os yw eich cwch yn suddo, gellir rhoi’r EPIRB ar waith â llaw neu’n awtomatig. Bydd yn anfon ei leoliad i’r MRCC agosaf. Mae rhai EPIRB hefyd yn darparu tywysydd dychwel, sy’n helpu timau chwilio ac achub i ganfod eich cwch.
Mae angen i chi gofrestru eich EPIRB er mwyn i fanylion llawn eich cwch fod yn hysbys os caiff ei roi ar waith. Mae cofrestru’n ddi-dâl – gallwch ei wneud ar y we neu drwy lwytho ffurflen gais i lawr.
Os ewch â’ch cwch fwy na 30 môr-filltir oddi ar arfordir y DU, bydd angen i chi gludo cyfarpar cyfathrebu ychwanegol:
Mae ffôn lloeren yn fath o ffôn symudol sy’n cysylltu â lloerennau’n hytrach na’r rhwydwaith ffôn arferol. Gallwch ddefnyddio ffonau lloeren ar y môr pan na allwch gyrraedd rhwydwaith ffôn symudol. Bydd ffonau lloeren hefyd yn defnyddio rhifau ffôn a chodau deialu safonol rhyngwladol. Mae hyn yn golygu y gallwch roi rhifau ffôn unrhyw MRCC y gallai fod arnoch angen cysylltu â hwy mewn argyfwng yn newislen cysylltiadau’r ffôn ymlaen llaw.
Mae radios amledd canolig (MF) ac amledd uchel (HF) yn debyg i radios VHF, ond maent yn gweithio mewn gwahanol ardaloedd ymhellach o’r arfordir. Mae MF yn gweithio hyd at 150 môr-filltir o’r arfordir ac mae HF yn gweithio ymhobman yn y byd, gan ddibynnu ar amodau atmosfferig a’r amledd a ddefnyddir.
Mae Inmarsat C yn eich galluogi i anfon a derbyn data, e-bost a negeseuon ffôn yn gyflym drwy gyfrwng lloeren pan na allwch gyrraedd systemau cyfathrebu tir.
Fel perchennog cwch pleser, bydd angen dwy drwydded radio arnoch:
Mae angen Trwydded Radio Llong ar gyfer pob radio VHF gyda DSC neu hebddo. Pan gewch eich trwydded, cewch arwydd galw sy’n rhoi hunaniaeth unigryw i’ch llong ac y gellir ei adnabod ledled y byd. Byddwch yn defnyddio eich arwydd galw er mwyn i wyliwr y glannau a chychod eraill allu eich adnabod pan fyddwch yn cysylltu â hwy. Os oes gennych chi DSC, dylech hefyd ofyn am MMSI pan gewch eich trwydded.
I wneud cais am Drwydded Radio Llong yn ddi-dâl, ewch i wefan Ofcom.
Mae Tystysgrif Cyrhaeddiad Byr yn rhoi trwydded i’r gweithredwr ddefnyddio’r radio VHF. Chewch chi ddim anfon trawsyriadau VHF cyffredinol heb un. Os oes gennych chi DSC, bydd angen i chi gael ardystiad DSC ar eich tystysgrif. I ddefnyddio MF, HF a chyfarpar cyfathrebu lloeren, bydd angen Tystysgrif Cyrhaeddiad Hir arnoch.
Ymunwch â chynllun gwybodaeth er diogelwch gwirfoddol Gwylwyr y Glannau EM - os ydych yn dod i drafferthion, bydd gan wylwyr y glannau gwybodaeth ynghylch eich cwch a fydd yn gymorth i’ch canfod chi