Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd y ffordd orau o alw am gymorth ar y môr yn dibynnu ar eich cyfarpar sydd gennych a pha mor bell o’r arfordir yw eich cwch. Yma, cewch wybod sut mae defnyddio’r offer sydd gennych i wneud galwad cyfyngder a sut ymateb a gewch.
Dylai cyfarpar cyfathrebu eich cwch gynnwys radio VHF o leiaf.
Mae VHF yn gweithio o fewn 30 môr-filltir i’r darn agosaf o dir y DU.
Mewn argyfwng, anfonwch neges lais Mayday neu Pan-Pan ar VHF sianel 16 (amledd 156.8MHz).
Os oes gennych chi DSC, defnyddiwch y botwm cyfyngder i anfon hysbysiad cyfyngder. Bydd pob cwch sydd â DSC a phob Canolfan Cydlynu Achub Morol (MRCC) yn yr ardal yn cael gwybodaeth yn awtomatig am y canlynol:
Caiff yr hysbysiad hwn ei ailadrodd bob pedwar munud nes iddo gael ei gydnabod. Mae DSC VHF gan bob MRCC yn y DU a gan y rhan fwyaf o wylwyr glannau Ewrop, a byddant yn ymateb yn gyflym i alwadau.
Ar ôl yr hysbysiad DSC, anfonwch neges lais Mayday neu Pan-Pan ar sianel 16. Os derbyniwch gynnig o gymorth gan gwch arall, rhowch wybod i’r gwyliwr glannau a chanslo’r hysbysiad DSC fel ei fod yn stopio trawsyrru.
I anfon lleoliad manwl yn awtomatig, gofalwch fod y DSC wedi’i gysylltu â System Leoli Fyd-eang (GPS). Fel arall, bydd angen i chi ddiweddaru eich lleoliad â llaw yn rheolaidd.
Peidiwch byth ag anfon galwad cyfyngder yn ddiangen na fel jôc
Os yw eich sefyllfa’n ddifrifol, er enghraifft, bod bywyd rhywun mewn perygl, anfonwch neges lais Mayday. Os yw’n sefyllfa frys, ond nad oes bywyd rhywun mewn perygl, er enghraifft os yw eich mast wedi torri, anfonwch neges Pan-Pan.
Dywedwch yn araf ac yn glir:
Gellir anfon y neges lais Mayday heb ddefnyddio DSC.
Dywedwch yn araf ac yn glir:
Os ydych chi’n agos at arfordir y DU, gallwch ddeialu 999/112 a gofyn am wyliwr y glannau. Peidiwch â dibynnu ar ffôn symudol ar y môr i roi gwybod i wyliwr y glannau, oherwydd gall fod yn anodd cael signal.
Mewn argyfwng, cewch danio naill ai:
Peidiwch â dibynnu ar fflerau goleuo’n unig i anfon hysbysiad. Rhaid i rywun arall ddweud eu bod wedi gweld eich fflêr oleuo er mwyn i chi gael cymorth. Gofalwch nad ydych chi’n tanio fflerau coch na fflerau goleuo parasiwt yn agos i hofrenyddion neu awyrennau.
Os yw’r EPIRB ar waith bydd hyn yn golygu y bydd gan wylwyr y glannau fanylion llawn eich cwch
Bydd angen cyfarpar cyfathrebu ychwanegol arnoch i anfon hysbysiad cyfyngder pan ydych chi dros 30 môr-filltir oddi ar arfordir y DU. Gallwch:
Mae’r gweithdrefnau cyfyngder a map o ble mae VHF yn gweithio ar y môr ar gael yn y daflen o’r ddolen isod. Gallwch hefyd ofyn am sticer i’w lynu’n agos at eich radio – cysylltwch ag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (MCA).
Pan fydd Gwylwyr Glannau EM yn derbyn galwad cyfyngder, byddant yn ei chydnabod, yn ymateb iddi ac yn gofyn am fwy o wybodaeth am y canlynol:
Yna, bydd y gwyliwr glannau’n penderfynu sut mae ymateb i’r hysbysiad cyfyngder, a allai olygu anfon badau achub, hofrenyddion chwilio ac achub neu dimau achub gwylwyr y glannau.
Byddant hefyd yn cysylltu ag unrhyw longau neu gychod sy’n agos at y digwyddiad ac yn gofyn iddynt helpu os gallant. Pan gewch gymorth gan wylwyr y glannau, byddant yn eich arwain drwy’r broses achub.
Bydd Gwylwyr Glannau EM yn ymateb i ddigwyddiadau chwilio ac achub (SAR) sy’n digwydd yn rhanbarth SAR y DU. Os gwnewch alwad cyfyngder y tu allan i ranbarth SAR y DU, awdurdod SAR y rhanbarth hwnnw fydd yn ymateb iddi.
Rhaid i chi ymateb i unrhyw signalau cyfyngder y byddwch yn eu gweld neu’n eu clywed, a helpu unrhyw un neu unrhyw gwch sydd mewn cyfyngder hyd eithaf eich gallu. Ond ni ddylech beryglu eich cwch na’ch criw i wneud hynny.
Ymunwch â chynllun gwybodaeth er diogelwch gwirfoddol Gwylwyr y Glannau EM - os ydych yn dod i drafferthion, bydd gan wylwyr y glannau gwybodaeth ynghylch eich cwch a fydd yn gymorth i’ch canfod chi