Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheoliadau diogelwch ar gyfer cychod pleser

Os ydych yn defnyddio cychod pleser, fel iotiau, cychod hwylio a chychod modur, mae’n rhaid i chi ddilyn rhai rheoliadau diogelwch. Dylech gael cyngor ar ddiogelwch a darganfod yr hyn sy’n rhaid i chi ei wneud er mwyn sicrhau eich bod chi a’r sawl sy’n teithio gyda chi’n ddiogel ar y cwch.

Diogelwch cyffredinol ar y cwch

Pan fyddwch chi allan o’r dŵr, mae rhai cynghorion diogelwch sy’n berthnasol i bob math o gwch. Efallai nad yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith, ond dylech wneud yn siŵr eich bod yn:

  • cael hyfforddiant – manteisiwch ar unrhyw hyfforddiant diogelwch y mae ei angen ar gyfer eich gweithgarwch
  • edrychwch i weld y tywydd a’r llanw cyn cychwyn
  • gwisgwch siaced achub – gwnewch yn siŵr ei bod yn un addas ar gyfer yr hyn y byddwch yn ei wneud
  • cadwch mewn cysylltiad – ewch â rhyw fath o gyfrwng cyfathrebu gyda chi
  • dywedwch wrth rywun ble’r ydych yn mynd a pha bryd y byddwch yn cyrraedd yn ôl
  • peidiwch ag yfed alcohol cyn mynd i mewn neu ar y dŵr

Dylech gael hyfforddiant a meistroli’r sgiliau sylfaenol

Gwnewch yn siŵr bod gennych chi a’ch criw ddigon o sgiliau a phrofiad i ddefnyddio’r cwch yn ddiogel. Mae’r Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA) yn cynnig hyfforddiant i bobl o bob gallu.

Rheoliadau diogelwch – yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud i gadw’n ddiogel

Rhaid i bawb sy’n defnyddio cwch pleser ddilyn rhannau o’r rheoliadau diogelwch rhyngwladol. Amlinellir y rhain ym Mhennod V Confensiwn Rhyngwladol Diogelwch Bywyd ar y Môr ('SOLAS V'). Os byddwch mewn damwain cwch a chithau heb ddilyn y rheoliadau hyn, gallwch gael eich erlyn.

Rhaid i chi:

  • gynllunio’ch mordaith
  • fod ag adlewyrchydd radar
  • fod â thabl darluniadol o’r signalau achub bywyd cydnabyddedig
  • cynnig cymorth i gychod eraill, os bydd angen

Cynllunio’ch mordaith

Cyn cychwyn:

  • dylech wybod beth yw’ch cyfyngiadau – gwnewch yn siŵr bod y cwch mewn cyflwr digon da i ymgymryd â’r fordaith, bod yr offer diogelwch angenrheidiol gennych ynghyd â chyflenwadau digonol
  • gwnewch yn siŵr y gall eich criw hefyd ddygymod â’r daith – meddyliwch am eu profiad a’u gallu corfforol
  • astudiwch siart a llyfr peilot neu almanac cyfredol er mwyn i wneud yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r daith ac unrhyw beryglon posibl
  • dylech wybod sut mae hwylio’r cwch i ddiogelwch pe bai’ch system leoli fyd-eang (GPS) yn methu
  • dylai fod gennych gynllun wrth gefn ac yn gwybod am rywle a all gynnig lloches pe bai’r amodau’n dirywio neu pe bai rhywbeth yn mynd o’i le.

Adlewyrchyddion radar

Mae rhai llongau’n dibynnu ar radar i weld cychod eraill felly mae’n hanfodol bod radar yn gallu gweld eich cwch i atal gwrthdrawiad.

Beth bynnag fo maint eich cwch, dylech geisio gosod yr adlewyrchydd radar mwyaf posibl sy’n addas i faint eich cwch. Dylai’r adlewyrchydd gael ei osod yn ôl cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’i osod cyn uched â phosibl er mwyn iddo fod mor effeithiol â phosibl.

Mae’r Asiantaeth Morol a Gwylwyr y Glannau (MCA) wedi cyhoeddi canllawiau ar ddefnyddio adlewyrchyddion radar.

Signalau achub bywyd

Rhaid i chi gael tabl darluniadol o’r signalau achub bywyd cydnabyddedig ar fwrdd eich cwch. Bydd hyn yn eich galluogi i gyfathrebu â’r gwasanaethau chwilio ac achub neu gychod eraill os byddwch yn mynd i drafferthion.

Mewn argyfwng

Ffoniwch wylwyr y glannau ar sianel VHF 16 neu ffoniwch 999 neu 112

Rhoi cymorth i gychod eraill

Rhaid i chi ymateb i unrhyw arwydd cyfyngder a welwch neu a glywch a helpu unrhyw un neu unrhyw gwch mewn cyfyngder gystal ag y gallwch. Rhaid i chi hefyd roi gwybod i wylwyr y glannau os oes angen cymorth ar unrhyw gwch yn y cyffiniau.

Peidiwch byth ag anfon arwyddion cyfyngder ffug neu ddiangen – gallai eu camddefnyddio beryglu’ch bywyd chi neu fywyd rhywun arall.

Atal gwrthdrawiadau

Rhaid i bawb sy’n defnyddio cychod pleser ddilyn y Rheoliadau Rhyngwladol i Atal Gwrthdrawiadau ar y Môr ('Colregs'). Mae’n ofynnol bod goleuadau mordwyo, siapiau a dyfeisiadau signalau sain ar bob cwch (wrth hwylio yn y nos neu os yw’r golau’n wael).

Er mwyn osgoi gwrthdrawiadau:

  • cadwch bellter diogel a chychod eraill a chychod plymio sy’n arddangos y lluman ‘Alffa' glas a gwyn
  • dylech gadw golwg barhaus i weld beth sy’n dod i’ch cyfeiriad.

Am wybodaeth fanwl am y rheoliadau a’r gofynion ar gyfer goleuadau mordwyo, gweler canllawiau’r MCA.

Atal llygredd

Pan fyddwch yn defnyddio cychod pleser, rhaid i chi beidio â gollwng olew na sbwriel i’r môr. Rhaid i gychod dros 12 metr o hyd hefyd arddangos hysbyslen sy’n egluro sut mae gwaredu sbwriel yn briodol.

Mae canllawiau manwl ar y rheoliadau ar atal llygredd yn y môr ar gael gan yr MCA.

Offer diogelwch – yr hyn y mae’n rhaid i chi ei gael ar fwrdd y cwch

Os yw hyd eich cwch pleser yn fwy na 13.7 metr, rhaid i chi gael rhywfaint o offer achub bywyd a diogelwch tân penodol ar ei fwrdd. Gweler ‘Cychod pleser - offer diogelwch’ am ragor o wybodaeth.

Additional links

Cofrestru eich cwch gyda gwylwyr y glannau

Ymunwch â chynllun gwybodaeth er diogelwch gwirfoddol Gwylwyr y Glannau EM - os ydych yn dod i drafferthion, bydd gan wylwyr y glannau gwybodaeth ynghylch eich cwch a fydd yn gymorth i’ch canfod chi

Cofrestru eich cwch gyda gwylwyr y glannau

Ymunwch â chynllun gwybodaeth er diogelwch gwirfoddol Gwylwyr y Glannau EM - os ydych yn dod i drafferthion, bydd gan wylwyr y glannau gwybodaeth ynghylch eich cwch a fydd yn gymorth i’ch canfod chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU