Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’n syniad da i bob cwch fod ag offer diogelwch ar ei fwrdd, ond rhaid i gychod 13.7 metr o hyd fod ag offer achub bywyd a diogelwch tân penodol ar eu bwrdd. Dylech wybod beth ddylai fod ar fwrdd eich cwch ar gyfer unrhyw fordaith.
Rhaid i chi fod â chopi o’r signalau achub bywyd cydnabyddedig ar fwrdd eich cwch, beth bynnag ei faint
Rhaid i chi gael offer achub bywyd penodol ar fwrdd eich cwch pleser os yw’n fwy na 13.7 metr o hyd. Mae’r offer hyn yn cynnwys:
Mae’r rheoliadau sy’n datgan beth fydd ei angen arnoch yn ddibynnol ar faint eich cwch a pha mor bell y byddwch yn hwylio oddi wrth yr arfordir.
Mae’r gofynion hyn wedi’u hamlinellu mewn canllawiau manwl gan yr Asiantaeth Morol a Gwylwyr y Glannau.
Os yw’ch cwch yn fwy na 13.7 metr o hyd, rhaid i chi fod â siacedi achub ar ei fwrdd. Hyd yn oed os nad yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith, mae’n synhwyrol i sicrhau bod pawb yn gwisgo siaced achub rhag ofn i rywun syrthio dros yr ochr.
Os ydych yn gyfrifol am y cwch, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod siacedi achub y criw yn eu ffitio’n iawn a’u bod yn gwybod:
Gallwch brynu sawl math o siaced achub – ystyriwch amodau’r dŵr ac i ble byddwch yn hwylio cyn eu prynu.
Am gyngor ar ddewis siaced achub addas, gweler gwefan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI).
Rhaid i chi gario o leiaf ddau fwi achub os yw’ch cwch yn fwy na 13.7 metr o hyd. Gwnewch yn siŵr eu bod wedi’u cadw mewn man lle gellir eu taflu ar unwaith mewn argyfwng.
Dylai bwiau achub fod wedi’u marcio ag enw’ch cwch ac yn cynnwys:
Dylai’r bwi achub fod wedi’i gysylltu wrth lein daflu sy’n nofio ar wyneb y dŵr (sydd o leiaf 18 metr o hyd). Gellir cadw’r lein liwgar hon y tu mewn i sach daflu gyda dolen y gellir ei glymu i’r cwch mewn argyfwng. Dylech ymarfer taflu’r lein gyda’ch criw – gall fod yn anodd ei thaflu’n gywir.
Bydd radio môr ar fwrdd eich cwch yn eich helpu i gyfathrebu â gwylwyr y glannau neu gwch arall os byddwch mewn trafferthion.
Gwnewch yn sicr eicb bod yn defnyddio fflerau’n ddiogel
Rhaid i gwch pleser dros 13.7 metr o hyd fod â’r canlynol ar ei fwrdd:
Cyn cychwyn ar eich taith, dangoswch i’r criw lle mae’r fflerau’n cael eu cadw a gwnewch yn siŵr eu bod yn deall y cyfarwyddiadau ar gyfer eu tanio. Cadwch fflerau mewn cynhwysydd diddos ac archwiliwch hwy’n rheolaidd.
Os yw dyddiad y fflerau wedi dod i ben neu wedi’u difrodi, rhaid i chi gael gwared arnynt yn briodol ac yn ddiogel cyn gynted â phosibl.
Gallwch hurio rafftiau achub – maent yn hanfodol ar gyfer mordeithiau hir. Bydd yn rhaid i chi gael digon o rafftiau achub i ddal o leiaf pawb sydd ar fwrdd eich cwch.
Dylai’ch rafft achub gael ei gwasanaethu’n rheolaidd a’i chadw mewn man lle mae’n barod i gael ei lansio ar unwaith – nid o dan y dec neu o dan offer arall.
Gweler ganllawiau’r MCA ar sawl rafft achub dylai fod ar eich cwch a’r safonau y dylent eu cyrraedd.
Os yw’ch cwch pleser yn fwy na 13.7 metr o hyd, bydd yn rhaid i chi gario o leiaf:
Dylech gynnal a chadw ac archwilio blancedi a diffoddwyr tân yn rheolaidd. Gwnewch yn siŵr bod eich criw yn gwybod lle mae’r offer yn cael ei gadw a sut mae ei ddefnyddio.
Gweler ganllawiau’r MCA ar y safonau y mae’n rhaid i’ch offer diffodd tan eu cyrraedd.
Rhag ofn i rywun gael ei anafu, gwnewch yn siŵr bod gennych gyfarpar cymorth cyntaf ar fwrdd eich cwch, a bod rhywun wedi’i hyfforddi i’w ddefnyddio.
Dilynwch y ddolen isod am arweiniad i’r eitemau ddylai gael eu cynnwys mewn blwch cymorth cyntaf a sut mae eu defnyddio.
Casglwch ddeunyddiau ar gyfer blwch trwsio sy’n cynnwys eitemau fel:
Ymunwch â chynllun gwybodaeth er diogelwch gwirfoddol Gwylwyr y Glannau EM - os ydych yn dod i drafferthion, bydd gan wylwyr y glannau gwybodaeth ynghylch eich cwch a fydd yn gymorth i’ch canfod chi