Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth y dylech chi ei wneud gyda hen fflerau neu fflerau wedi’u difrodi

Defnyddir fflerau pyrotechnegau i roi arwydd eich bod mewn trallod ar y môr ac i helpu i ddod o hyd i leoliad cwch. Mae angen i chi wneud profion arnynt yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod eich fflerau mewn cyflwr da, a dylech gael gwared ar hen fflerau neu fflerau wedi’u difrodi yn ddiogel. Yma, cewch wybod sut mae trefnu i gael gwared ar eich fflerau’n ddiogel.

Y rheolau ar gyfer cael gwared ar fflerau’n ddiogel

Llun o fflêr wedi’i difrodi

Gall hen fflerau neu fflerau wedi’u difrodi fod yn beryglus iawn. Gall fflerau ladd felly mae’n bwysig dod â nhw i’r lan cyn gynted â phosibl er mwyn cael gwared arnynt yn ddiogel.

Mae’n anghyfreithlon defnyddio fflerau mewn sefyllfa heb fod yn argyfwng neu eu taflu i’r môr. Ni ddylech fyth gael gwared ohonynt yn anghyfrifol - peidiwch byth â gwneud y canlynol:

  • rhoi fflerau mewn bagiau plastig neu eu rhoi gyda sbwriel cyffredinol y cartref neu mewn biniau sbwriel cyhoeddus
  • gadael fflerau ar garreg drws siopau offer achub gwylwyr y glannau, mewn sectorau neu yn nhai cychod Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub
  • eu gadael yn unrhyw le lle gallai aelodau o’r cyhoedd ddod ar eu traws

Sut mae trefnu i gael gwared ar fflerau

Os oes gennych hen fflerau neu fflerau wedi’u difrodi, yn gyntaf, dylech gysylltu â’r lle y gwnaethoch brynu’r fflerau’n wreiddiol. Efallai eu bod yn cynnig cynllun ‘cymryd-yn-ôl’. Os nad ydynt, cysylltwch â’ch Canolfan Cydlynu Achub ar y Môr leol, a wnaiff roi cyngor i chi ar sut y gellir cael gwared ar y fflerau’n ddiogel. Rhestrir y rhifau cyswllt ar gyfer y canolfannau hyn yn y tabl isod.

Bydd angen i chi roi gwybod i’r Ganolfan Cydlynu Achub ar y Môr am y canlynol:

  • faint o fflerau yr ydych am gael gwared ohonynt
  • pa mor hen ydynt
  • sut fath o gyflwr sydd arnynt

Yna, bydd y Ganolfan Cydlynu Achub ar y Môr yn eich helpu i wneud trefniadau i fynd â’ch fflerau i safle gwaredu trwyddedig.

Bydd y Ganolfan Cydlynu Achub ar y Môr yn dweud wrthych chi lle mae eich safle gwaredu agosaf a’i amseroedd agor. Bydd yn rhaid i chi ddosbarthu’r fflerau i’r safle gwaredu ar amser y cytunir arno. Mae’n debygol y bydd yn rhaid i chi deithio ymhell, gan ddibynnu ar y cyfleusterau sydd ar gael yn eich ardal.

Os byddwch yn mynd i un o’r safleoedd hyn heb apwyntiad, cewch eich gwrthod. Dim ond hen fflerau neu fflerau sydd wedi’u difrodi y gall y safleoedd gwaredu eu derbyn gan aelodau o’r cyhoedd. Os ydych yn fudiad masnachol, bydd angen i chi wneud eich trefniadau eich hun.

Os bydd fflêr wedi cael cymaint o ddifrod nes ei bod mewn cyflwr peryglus, bydd y Ganolfan Cydlynu Achub ar y Môr yn trefnu i gael gwared ohoni ar unwaith. Eu penderfyniad nhw yw hyn.

Manylion cyswllt ar gyfer canolfannau a wnaiff dderbyn eich hen fflerau neu’ch fflerau wedi’u difrodi

Canolfan

Rhif Ffôn

MRCC Aberdeen (safle trwyddedig: Sector Buchan)

01224 592 334

MRCC Aberdeen (safle trwyddedig: Sector Inverness)

01224 592 334

MRCC Belfast

02891 463 933

MRCC Brixham

01803 882 704

MRCC Clyde (safle trwyddedig: Gwasanaeth Achub Gwylwyr y Glannau Girvan)

01475 729 988

MRCC Dover

01304 210 008

MRCC Falmouth

01326 317 575

MRCC Forth (safle trwyddedig: Safle Sector St Andrews)

01333 450 666

MRCC Caergybi

01407 762 051

MRCC Humber

01262 672 317

MRCC Lerpwl

01519 313 341

MRCC Aberdaugleddau

01646 690 909

MRCC Shetland

01595 692 976

MRCC Solent

02392 552 100

MRCC Stornoway

01851 702 013

MRCC Thames

01255 675 518

MRCC Yarmouth (safle trwyddedig: Safle Sector Gogledd Norfolk)

01493 851 338

Pencadlys RNLI Poole

01202 336 336


Additional links

Cofrestru eich cwch gyda gwylwyr y glannau

Ymunwch â chynllun gwybodaeth er diogelwch gwirfoddol Gwylwyr y Glannau EM - os ydych yn dod i drafferthion, bydd gan wylwyr y glannau gwybodaeth ynghylch eich cwch a fydd yn gymorth i’ch canfod chi

Register your boat with the coastguard

Join HM Coastguard's voluntary safety identification scheme - if you get into difficulty, the coastguard will have information about your boat to help identify you

Allweddumynediad llywodraeth y DU