Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os darganfyddwch chi ddeunydd drylliadau - er enghraifft, rhannau o long neu ei chargo neu gyfarpar - rhaid i chi roi gwybod i'r ‘Derbynnydd Drylliadau’. Yma, cewch wybod beth yw deunydd drylliadau a sut i gysylltu â’r Derbynnydd Drylliadau.
Mae deunydd ‘drylliadau’ yn cynnwys pethau a ganfyddir ar lan y môr neu mewn dŵr llanw sydd wedi dod o long, awyren neu hofrenfad (llongau). Gallai hyn fod yn rhannau o’r llong, ei chargo neu gyfarpar.
Fel arfer, daw deunydd drylliadau mewn pedwar prif gategori:
Fel arfer, nid yw deunydd drylliadau’n cynnwys y canlynol:
Mae’n cynnwys bwiau sy’n rhan o gyfarpar pysgota.
Os nad ydych chi’n siŵr a yw rhywbeth yn ddeunydd drylliadau, cysylltwch â’r Derbynnydd Drylliadau.
Yn ôl y gyfraith, y Derbynnydd Drylliadau sy’n gyfrifol am ddelio â deunydd drylliadau sy’n cael ei ddarganfod yn y DU neu sy’n cael ei gludo i’r DU.
Hyd yn oed os yw’r eitem yn fach neu’n ymddangos yn ddibwys, rhaid i chi roi gwybod amdani i’r Derbynnydd Drylliadau os ydych chi naill ai:
Dylech roi gwybod am unrhyw ddeunydd drylliadau o fewn 28 diwrnod ar ôl ei ddarganfod. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r perchennog cyfreithiol ofyn am ei eiddo’n ôl.
Os dilynwch y gyfraith a rhoi gwybod i’r Derbynnydd Drylliadau am unrhyw ddeunydd drylliadau a ddarganfyddwch, efallai y bydd gennych hawl cael ‘gwobr achub’. Gellir talu gwobrau achub i achubwyr cyfreithlon sy’n darparu gwasanaeth i berchennog cyfreithiol yr eitem. Drwy ddarganfod (achub) y deunydd drylliadau, rydych yn helpu i’w ddychwelyd i’w berchennog. Bydd gwobr achub yn cydnabod eich ymdrech i achub yr eitem rhag perygl neu ddinistr.
Os ydych chi’n meddwl eich bod o bosibl wedi darganfod drylliad o ddiddordeb hanesyddol, dylech gysylltu â’r asiantaeth treftadaeth leol cyn i chi adennill unrhyw eitemau. Gallwch anfon e-bost at yr asiantaethau treftadaeth yn y cyfeiriadau isod neu ymwelwch â'u gwefannau.
Sut i roi gwybod i’r Derbynnydd Drylliadau am ddeunydd drylliadau
I roi gwybod am ddeunydd drylliadau, llenwch ffurflen Adroddiad Drylliad ac Achub. Mae’r ffurflen hon ar gael yn uniongyrchol gan y Derbynnydd Drylliadau, neu yn eich gorsaf leol gwylwyr y glannau, neu gallwch lwytho copi oddi ar y we drwy ddefnyddio’r ddolen isod.
Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen, bydd angen i chi ei hargraffu a’i llofnodi. Hefyd, bydd arnoch angen rhywun i fod yn dyst i’ch llofnod a gofyn i’r unigolyn hwnnw lofnodi’r ffurflen. Anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi at y Derbynnydd.
Mae’n drosedd darganfod deunydd drylliadau a’i gadw heb roi gwybod i’r Derbynnydd Drylliadau. Os na rowch wybod am ddeunydd drylliadau rydych chi wedi’i ddarganfod a’i gadw o fewn 28 diwrnod (heb esgus rhesymol), gallech wynebu dirwy o £2,500 am bob trosedd. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os darganfyddwch ddau bortwll a’u cadw, heb roi gwybod am yr un o’r ddau, y gallwch gael dirwy o £2,500 am bob portwll.
Gallech hefyd orfod talu dwywaith gwerth yr hyn a ddarganfuoch i’r unigolyn sydd â hawl i’r drylliad. Ni fydd gennych hawl cael gwobr achub.
Os cuddiwch chi ddeunydd drylliadau neu os gwrthodwch ei ildio, gallech hefyd wynebu dirwy o £2,500 (am bob trosedd).
Os ewch â drylliad (heb roi gwybod amdano) o ddyfroedd y DU i borthladd tramor a’i werthu, gallech wynebu cosb o hyd at bum mlynedd mewn carchar.
Pan gaiff wybod am ddeunydd drylliadau, bydd y Derbynnydd Drylliadau’n ceisio canfod pwy yw perchennog yr eitemau drylliad. Bydd gan y perchennog flwyddyn (ar ôl y dyddiad y bydd y Derbynnydd yn derbyn y ffurflen adroddiad) i ddod ymlaen a phrofi ei fod yn berchen yr eitemau. Yn ystod y cyfnod hwn, fel arfer, caiff y sawl a ddarganfu’r eitemau drylliad eu cadw dan rai amodau penodol. Amlinellir y rhain ar gefn y ffurflen adroddiad. Os bydd y perchennog yn penderfynu yr hoffai gael yr eiddo’n ôl, efallai y bydd rhaid iddo dalu gwobr achub i’r darganfyddwr.
Os na chaiff y deunydd drylliadau ei hawlio o fewn blwyddyn, daw’n eiddo i’r Goron a bydd y Derbynnydd yn cael gwared ag ef. Gall wneud hyn drwy ei werthu neu mewn arwerthiant. Er, mewn rhai achosion, gellir gadael i’r darganfyddwr gadw drylliadau na chânt eu hawlio yn lle gwobr achub.
Os yw’r deunydd drylliadau o bwysigrwydd hanesyddol neu archaeolegol, bydd y Derbynnydd yn ceisio ei roi mewn amgueddfa briodol. I gael mwy o wybodaeth am beth sy’n digwydd i ddeunydd drylliadau, cysylltwch â’r Derbynnydd Drylliadau.
Dan Adran 2 y Ddeddf Amddiffyn Drylliadau, bydd y Derbynnydd Drylliadau yn gweinyddu safleoedd llongddrylliadau y dynodir eu bod yn beryglus. Un o’r drylliadau hyn yw’r SS Richard Montgomery, sydd ar draws y llanw’n agos at Sianel Ddynesu Medway. Mae oddeutu 1,400 tunnell o ffrwydron yn dal i fod yng nghrombiliau blaen y llong.
Mae’r Derbynnydd Drylliadau’n monitro cyflwr y drylliad – er yr ystyrir mai prin yw’r perygl o ffrwydrad mawr. Mae’r Derbynnydd yn arolygu’r safle’n rheolaidd i sicrhau bod unrhyw newidiadau i’r drylliad, neu i’r amgylchedd yn union o’i gwmpas, yn cael eu canfod yn gyflym.