Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
P’un ai a ydych yn frwdfrydig dros chwaraeon, ynteu’n hoffi archwilio traethau’r DU, bydd deall llanwau a cherhyntau yn eich helpu i gadw’n ddiogel. Yma, cewch wybod sut mae canfod tonnau diogel i nofio ynddynt a sut mae adnabod cerrynt terfol.
Wrth nofio, syrffio neu gorff-fyrddio, mae’n ddefnyddiol deall y gwahanol fathau o donnau fel y gallwch benderfynu a ydych am fynd i’r môr neu aros ar y lan.
Tonnau sy’n tasgu yw’r tonnau mwyaf diogel i nofio ynddynt - maent yn ymddangos pan fydd brig y don yn disgyn dros flaen y don ei hun.
Nid yw tonnau sy’n ymchwyddo yn torri a gallant fwrw rhywun yn hawdd, gan eu llusgo allan i’r môr.
Mae tonnau sy’n taflu yn torri’n bwerus mewn dŵr bas. Maent yn bwerus ac yn beryglus ac maent fel arfer yn torri pan fydd y llanw’n isel. Dylech osgoi mynd i’r môr pan welwch donnau sy’n taflu.
Cadwch eich llygad bob amser am donnau peryglus, fel tonnau sy’n ymchwyddo neu donnau sy’n taflu a pheidiwch byth â meddwl ei bod yn ddiogel osgoi tonnau. Ni ellir rhagweld beth mae’r môr yn ei wneud a gallai’r hyn sy’n ymddangos yn hwyl arwain at drychineb. Gallai tonnau mawr eich llusgo allan i’r môr mewn eiliadau.
Hefyd, dylech fod yn ymwybodol o ddŵr garw - gall eich gwneud yn wan ac yn rhy flinedig i nofio. Os yw’r dŵr yn arw, dewch allan o’r môr ac arhoswch nes bydd yn ddigon tawel i chi fynd i mewn eto.
Mae’n bwysig gwybod beth yw amseroedd y llanw ar y traeth rydych yn ymweld ag ef. Mae’r llanw’n mynd i mewn ac allan ddwywaith y dydd. Mae hyn yn golygu y gall y traeth y gwnaethoch chi ei gyrraedd yn y bore fod yn lle gwahanol iawn ychydig o oriau’n ddiweddarach. Er enghraifft, os byddwch yn cerdded allan pan fydd y llanw’n isel, mae’n bosibl na fydd modd i chi ddychwelyd os daw’r llanw i mewn ac os bydd y dŵr yn codi.
Os ydych chi ar y traeth gyda phlant, gwnewch yn siŵr nad ydynt yn chwarae yn rhywle a allai fynd yn ynysig os daw’r llanw i mewn.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am amseroedd y llanw gan ddefnyddio EasyTide.
Ffoniwch 999/112 a gofynnwch am wyliwr y glannau
Cadwch eich llygad bob amser am arwyddion o gerhyntau terfol (a elwir hefyd yn grychdonnau). Dyma rai o nodweddion cerrynt terfol:
Mae rhai cerhyntau terfol mor gryf gallant gludo nofwyr o’r lan cyn y byddant yn gwybod beth sy’n digwydd.
Os cewch eich dal mewn cerrynt terfol, cofiwch y canlynol:
Gwrandwch ar gyfarwyddiadau’r achubwr bywyd bob amser.
Os ydych yn credu y gallwch nofio allan o’r cerrynt terfol, nofiwch ochr yn ochr â’r lan yn hytrach na tuag at y lan. Ar ôl i’r cerrynt terfol stopio eich tynnu, ceisiwch nofio i’r lan. Os ydych yn teimlo na allwch wneud hyn, codwch eich llaw i ofyn am gymorth gan yr achubwr bywyd.
Ceir rhywfaint o beryglon ar draeth na allwch eu gweld bob amser. Bydd dyfnder y dŵr yn newid o awr i awr ac yn cuddio pethau fel cerrig, pierau a morgloddiau (strwythurau concrit yn y môr).
Mae ‘tombstoning’ yn weithgaredd peryglus, nad yw’n cael ei reoleiddio na’i oruchwylio sy’n golygu neidio neu ddeifio o uchder i mewn i ddŵr. Mae hyn yn beryglus oherwydd:
Cyn i chi neidio: