Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Chwaraeon dŵr a gweithgareddau arfordirol – cyngor diogelwch

Mae traethau a morlinau’n lleoedd gwych i fwynhau chwaraeon dŵr. Pa bynnag weithgaredd y byddwch yn cymryd rhan ynddo, cymerwch gyfrifoldeb dros eich diogelwch drwy ofalu eich bod wedi cael hyfforddiant priodol ac wedi paratoi am yr amodau. Dilynwch y cynghorion hyn ar ddiogelwch ac i gael gwybod ble i gael yr hyfforddiant priodol.

Diogelwch cyffredinol yn y dŵr neu ar y dŵr

Os gwelwch rywun mewn anhawster

Peidiwch â cheisio eu hachub – dywedwch wrth achubwr bywydau neu ffoniwch 999/112 a gofyn am wyliwr y glannau

Mae gan bob chwaraeon eu rheolau eu hun, ond dyma rai cynghorion diogelwch cyffredinol sy’n berthnasol i bob gweithgaredd dŵr:

  • cael hyfforddiant – cymryd rhan mewn unrhyw hyfforddiant diogelwch y mae ei angen ar gyfer eich chwaraeon neu weithgaredd
  • edrych i weld sut mae’r tywydd a’r llanw cyn cychwyn
  • gwisgo siaced achub – gan ofalu ei bod yn addas i’r gweithgaredd
  • cadw mewn cysylltiad – mynd â rhyw fath o offer cyfathrebu gyda chi, fel radio band llongau neu ffôn symudol
  • dweud wrth rywun i ble rydych chi’n mynd a phryd y byddwch yn ôl
  • peidio ag yfed alcohol cyn mynd i’r dŵr neu ar y dŵr

Gofalwch eich bod yn deall unrhyw faneri diogelwch ar y traeth ac yn ufuddhau iddynt, ac yn rhoi sylw i’r achubwr bywydau os oes un ar ddyletswydd.

Cael yr hyfforddiant priodol ar gyfer eich gweithgaredd dŵr

Bydd angen i chi gymryd gwahanol ragofalon diogelwch gan ddibynnu pa weithgaredd y byddwch yn cymryd rhan ynddo. Gallwch gael cyngor arbenigol ar yr hyfforddiant a’r cyfarpar diogelwch y bydd eu hangen arnoch ar gyfer pob gweithgaredd gan weithiwr proffesiynol neu gorff llywodraethu. Efallai yr hoffech hefyd ystyried ymuno â chlwb lleol i gael cefnogaeth a chyngor cymwysedig.

Genweirio a physgota


Er nad oes rheoliadau diogelwch ar gyfer genweirio fel gweithgaredd hamdden, mae’n syniad da bod yn aelod o sefydliad megis yr Ymddiriedolaeth Genweirio. Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Genweirio i gael mwy o fanylion am glybiau lleol.

Canŵio a chaiacio

Os ydych chi’n newydd i ganŵio a chaiacio, dylech ymuno â chlwb neu gael hyfforddiant gan ganolfan gymeradwy. Gallwch ddefnyddio gwefan Undeb Canŵio Prydain i weld y clybiau a’r canolfannau yn eich ardal.

Os ydych chi’n defnyddio eich canŵ neu gaiac ar ddyfrffyrdd mewndirol, bydd angen trwydded fordwyo arnoch. Gweler ‘Defnyddio eich cwch ar ddyfrffyrdd mewndirol’ i gael mwy o wybodaeth.

Dringo clogwyni

Mae’n bwysig cael hyfforddiant dringo clogwyni fel eich bod yn deall technegau dringo a sut i ddefnyddio’r offer a’r cyfarpar diogelwch priodol. I gael cyngor ar ddiogelwch, hyfforddiant a ble i ddringo, cysylltwch â Chyngor Mynydda Prydain.

Syrffio barcud

Camp eithafol yw syrffio barcud lle bydd barcud yn eich tynnu drwy’r dŵr ar fwrdd syrffio bach.
Peidiwch â cheisio syrffio barcud heb gael cyfarwyddyd priodol. Gallwch gael gwersi mewn ysgol gymeradwy, er enghraifft, un a reolir gan Gymdeithas Syrffio Barcud Prydain.

Badau dŵr personol

Bad dŵr personol yw cerbyd dŵr y bydd y gyrrwr yn eistedd arno neu’n sefyll arno. Fel arfer, cânt eu galw yn ôl enwau brand megis Jet Ski, Wave Runner neu Sea Doo. Gall gyrru bad dŵr personol fod yn weithgaredd peryglus os ydych chi’n ddibrofiad neu heb baratoi. Mae’n syniad da bod yn aelod o glwb neu sefydliad badau dŵr personol, gan eu bod yn trefnu diwrnodau hyfforddi.

Gall y Gymdeithas Hwylio Frenhinol a’r Bartneriaeth Badau Dŵr Personol roi mwy o gyngor i chi ar ddiogelwch, hyfforddiant a ble i lansio. Mae gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) hefyd ganllaw da am ddefnyddio badau dŵr personol yn ddiogel.

Hwylio

Corff llywodraethu cenedlaethol hwylio yw’r Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA). Ewch i wefan yr RYA i gael gwybodaeth am hyfforddiant. Dilynwch y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth am hyfforddiant a diogelwch ar gychod hwylio a badau pleser eraill.

Sgwba-blymio

Argymhellir bod pawb sy’n dechrau plymio yn cofrestru ar gwrs hyfforddiant cydnabyddedig a fydd yn arwain at dystysgrif sgwba-blymio.

Y pedair prif asiantaeth sy’n cynnig hyfforddiant yw:

  • Clwb Tanddwr Prydain (BSAC)
  • Cymdeithas Broffesiynol yr Hyfforddwyr Plymio (PADI)
  • Y Gymdeithas Danddwr (SAA)
  • Clwb Tanddwr yr Alban (SSAC)

Syrffio

Mae gan Gymdeithas Syrffio Prydain (BSA) restr o ysgolion syrffio cymeradwy yn eich ardal.

Diogelwch dŵr a hyfforddiant achub bywyd


I gael hyfforddiant mewn diogelwch dŵr ac achub bywydau, cysylltwch â Chymdeithas Frenhinol Achub Bywydau.

Ymuno â chynllun adnabod diogelwch gwirfoddol Gwylwyr Glannau EM

Gallwch gofrestru eich bad pleser neu long hamdden, megis canŵ neu fad dŵr personol, gyda gwyliwr y glannau drwy gyfrwng y cynllun adnabod diogelwch gwirfoddol (CG66). Mae hyn yn golygu, os cewch anhawster, bod gan wyliwr y glannau wybodaeth am eich llong a fydd yn helpu i’ch adnabod. Dilynwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth.

Additional links

Cynlluniwr siwrnai

Cynllunio’ch siwrnai llawn ar drafnidiaeth gyhoeddus neu yn y car a chael gwybodaeth teithio byw

Allweddumynediad llywodraeth y DU