Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Achubwyr bywydau a baneri diogelwch

Mae llawer o draethau Prydain wedi ennill gwobrau am fod yn ddiogel, ond nid yw diogelwch yn rhywbeth y gallwch ei gymryd yn ganiataol. Os yn bosibl, ceisiwch chwilio am draeth lle mae achubwr bywyd ar ddyletswydd a dilynwch gyfarwyddiadau’r baneri ac arwyddion diogelwch bob amser. Dysgwch fwy am sut mae aros yn ddiogel ar yr arfordir.

Lle gallwch ddod o hyd i achubwr bywyd

Os ydych yn gweld rhywun mewn trafferthion

Peidiwch â cheisio’u hachub – dywedwch wrth achubwr bywyd, neu ffoniwch 999/112 a gofynnwch am wylwyr y glannau

Mae 11 miliwn o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr a gweithgareddau hamdden mewn dros 1,200 o draethau yn y DU bob blwyddyn. Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel, chwiliwch am draeth gydag achubwr bywyd. Gallwch ofyn cyngor i’r achubwr bywyd am yr amodau yn y dŵr, fel pa mor gryf yw’r tonnau, a lle sy’n ddiogel i nofio. Gall achubwyr bywyd helpu hefyd os ydych yn mynd i drafferthion yn y dŵr neu ar y traeth. Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) yn bresennol ar dros 100 o draethau yn y DU yn ystod misoedd yr haf (mis Mai i fis Medi).

I weld ar ba draethau mae achubwyr bywyd yn bresennol, gweler y Good Beach Guide.

Talwch sylw i’r baneri diogelwch ar y traeth

Pan ydych ar y traeth, talwch sylw i’r baneri a’r arwyddion diogelwch. Maent yn rhoi gwybodaeth bwysig am ddiogelwch yr ardal, gan gynnwys:

  • a yw hi’n ddiogel i nofio
  • a yw’r traeth yn addas ar gyfer syrffio neu ddefnyddio cychod pleser, fel iotiau
  • a oes peryglon yn y cyffiniau

Mae’r canlynol yn rhestru’r gwahanol faneri lliw sydd i’w gweld ar draethau a’r hyn maent yn ei olygu. Gallwch hefyd ofyn i achubwr bywyd.

Baner goch a melyn

Baneri coch a melyn

Mae’r baneri hyn yn dynodi’r mannau lle mae achubwyr bywyd yn bresennol. Dyma’r mannau mwyaf diogel i nofio neu ddefnyddio bwrdd corff.

Baner goch

Baneri coch

Mae baner goch yn arwydd o berygl. Peidiwch byth a mynd i mewn i’r dŵr pan mae’r faner goch yn cael ei dangos.

Baner sgwariau du a gwyn

Baneri sgwariau du a gwyn

Os byddwch yn gweld baner sgwariau du a gwyn, mae’n golygu bod y môr yn ddiogel ar gyfer byrddau syrffio, a chanwod ac ati. Nid yw’n ddiogel i nofio na defnyddio byrddau corff yma.

Hosanau gwynt oren

Os gwelwch hosan wynt oren yn hedfan, mae hynny’n arwydd o amodau gwynt peryglus. Peidiwch â defnyddio cwch gwynt fel tiwb neu ddingi pan mae’r hosan wynt oren yn hedfan – gallai’r gwynt eich chwythu allan i’r môr.

Arwyddion eraill ar y traeth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn cymryd sylw o’r arwyddion diogelwch wrth y fynedfa i’r traeth. Mae’r arwyddion hyn yn rhoi gwybodaeth am yr hyn y cewch ac na chewch ei wneud ar y traeth.

Beth i’w wneud os nad oes achubwr bywyd ar y traeth

Nid yw achubwyr bywyd ar ddyletswydd drwy gydol y flwyddyn ac nid oes achubwyr bywyd nac arwyddion o gwbl ar rai traethau. Os nad oes achubwyr bywyd ar y traeth pan ydych yn cyrraedd, bydd yn rhaid i chi gadw golwg am unrhyw beryglon neu risgiau eich hun.

Gweler 'Deall tonnau, llanwau a cherhyntau’ am ragor o wybodaeth am sut mae adnabod peryglon ar y traeth.

Additional links

Cynlluniwr siwrnai

Cynllunio’ch siwrnai llawn ar drafnidiaeth gyhoeddus neu yn y car a chael gwybodaeth teithio byw

Allweddumynediad llywodraeth y DU