Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Treth a’ch pensiwn personol

Mae amryw o bethau yn dylanwadu ar werth eich cronfa bensiwn. Yma cewch wybod sut mae eich cyfraniadau pensiwn a’r arian y byddwch yn ei hawlio yn rhwym wrth lwfansau a gostyngiad treth, a sut y gall y rhain effeithio ar eich pensiwn personol.

Terfynau ar ostyngiad treth

Os taloch eich cyfraniadau cyn i chi gyrraedd 75 oed, cewch gynilo faint a fynnoch mewn unrhyw nifer ac unrhyw fath o gynlluniau pensiwn cofrestredig. Gallwch hefyd gael gostyngiad treth ar gyfraniadau o hyd at 100 y cant o’ch enillion (cyflog ac incwm a enillwyd) bob blwyddyn. Mae’r swm y byddwch yn cynilo pob blwyddyn tuag at bensiwn yn amodol ar lwfans blynyddol.

Y lwfans blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth 2010-11 yw £255,000, ond caiff ei ostwng i £50,000 ar gyfer y flwyddyn dreth 2011-12.

Lwfans Blynyddol Arbennig

O fis Ebrill 2009 ymlaen cafodd lwfans blynyddol arbennig ei gyflwyno. Cyflwynwyd y lwfans i atal pobl rhag gwneud cyfraniadau pensiwn mawr ychwanegol a chael cyfraddau gostyngiad treth uwch arnynt cyn mis Ebrill 2011. Bydd y lwfans blynyddol arbennig yn effeithio arnoch os yw pob un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • mae cyfanswm cynilion eich pensiwn – gan gynnwys cyfraniadau cyflogwyr – yn fwy na £20,000
  • rydych yn newid y swm yr ydych yn ei gynilo tuag at eich pensiwn yn arferol – ar 22 Ebrill 2009 neu ar ôl hynny
  • mae eich incwm yn £150,000 neu ragor yn y flwyddyn dreth gyfredol neu yn un o’r ddwy flynedd dreth flaenorol

Bydd eich lwfans blynyddol arbennig yn £20,000 fel arfer, llai eich cynilion pensiwn arferol. Mae’n rhaid i chi gynnwys ar eich ffurflen dreth unrhyw swm y mae eich cynilion pensiwn wedi mynd dros eich lwfans blynyddol arbennig.

Mae’r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi y bydd y lwfans blynyddol arbennig yn berthnasol o 9 Rhagfyr 2009 os yw eich incwm yn £130,000 neu fwy. Bydd y lwfans yn gweithio gan amlaf yn yr un ffordd ag i bobl sydd ag incwm o £150,000 neu fwy. Bydd y gwahaniaeth rhwng y lwfansau yn berthnasol yng nghyswllt newidiadau y byddwch yn eu gwneud i’r swm yr ydych yn ei gynilo tuag at eich pensiwn yn arferol ar 9 Rhagfyr neu ar ôl hynny. Bydd y cyfyngiad hwn yn berthnasol tan 6 Ebrill 2011.

Lwfansau treth pan fyddwch yn hawlio’ch pensiwn

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis aros nes byddant yn 60 neu’n 65 oed cyn hawlio eu pensiwn. Fodd bynnag, does dim rhaid i chi ymddeol o’r gwaith i gael eich buddion pensiwn.

Pan fyddwch yn ymddeol, cewch gymryd hyd at 25 y cant o werth eich holl gynilion pensiwn personol fel taliad un-swm di-dreth, hyd at uchafswm o 25 y cant o'r lwfans oes. Y lwfans oes ar gyfer y blynyddoedd treth 2010-11 a 2011-12 yw £1.8 miliwn. Caiff ei ostwng i £1.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn dreth 2012-13.

Bydd gennych wedyn ddau opsiwn:

  • defnyddio gweddill y gronfa rydych wedi’i chronni i brynu blwydd-dal (incwm rheolaidd sy'n daladwy am oes) gan gwmni yswiriant bywyd – does dim rhaid i chi ddefnyddio'r cwmni sy’n darparu eich cynllun pensiwn
  • cymryd incwm (wedi'i drethu yn ôl eich cyfraddau Treth Incwm arferol) o weddill eich cronfa tra byddwch yn dal i fuddsoddi ynddi – fel 'pensiwn heb ei sicrhau' hyd at 75 oed neu fel 'pensiwn wedi ei sicrhau mewn ffordd arall' pan fyddwch yn 75 oed

Os yw cyfanswm eich cynilion pensiwn yn uwch na'r lwfans oes mae gennych ddau ddewis:

  • os cymerwch yr hyn sy'n weddill fel taliad un-swm, caiff y swm hwnnw ei drethu ar gyfradd o 55 y cant
  • os cymerwch yr hyn sy’n weddill fel incwm, caiff y swm hwnnw ei drethu at gyfradd o 25 y cant; bydd incwm a gymerir o’ch cronfa bensiwn yn cael ei drethu ar eich cyfradd Treth Incwm arferol

Os yw cyfanswm eich cynilion pensiwn o bob ffynhonnell yn is na £18,000 neu lai yn y flwyddyn dreth 2010-11, mae’n bosib y gallech gymryd y swm cyfan fel taliad un-swm, gyda 25 y cant yn ddi-dreth. Gelwir y swm hwn yn ‘trivial amount’ yn Saesneg.

I gael gwybodaeth fanylach ynghylch ffyrdd o gymryd eich pensiwn ymwelwch â gwefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU