Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig, bydd pawb sy'n ymwneud ag addysg y plentyn hwnnw'n dilyn cynllun cam-wrth-gam gyda'u haddysg, gan ddilyn y Cod Ymarfer ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig yn ganllaw.
Mae ysgolion a lleoliadau addysg gynnar yn rhoi pwys mawr ar adnabod anghenion addysgol arbennig er mwyn helpu'ch plentyn cyn gynted ag y bo modd. Gellir diwallu anghenion y rhan fwyaf o blant sydd ag anghenion addysg arbennig mewn ysgol brif ffrwd.
Unwaith i'r penderfyniad gael ei wneud bod gan eich plentyn AAA, bydd yr athrawon yn cynllunio addysg y plentyn. Er mwyn gwneud hyn byddant yn defnyddio’r canllawiau a geir mewn dogfen a elwir yn God Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig.
Canllaw ar gyfer darpariaeth addysg gynnar (megis meithrinfeydd a chylchoedd chwarae), ysgolion y wladwriaeth ac awdurdodau lleol yw'r Cod Ymarfer. Mae’n eu cynghori ynglŷn â sut y dylent fynd ati i adnabod plant sydd ag anghenion addysgol arbennig, eu hasesu a darparu help ar eu cyfer.
Gallwch ddarllen crynodeb o'r cod yn y daflen 'AAA: canllaw i rieni a gofalwyr'.
Bydd plant yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd, ac fe all fod ganddyn nhw wahanol lefelau neu wahanol fathau o anghenion addysgol arbennig. Felly, os oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig, bydd yr ysgol yn dod â mwy a mwy o help arbenigol i mewn, gam wrth gam, i'w helpu gyda'r anawsterau a all godi. Mae'r cynllun wedi ei gosod allan cam-wrth-gam ('wedi'i raddoli') hwn yn y Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig.
Rhaid i ysgol roi gwybod i chi os bydd yn dechrau rhoi help ychwanegol neu help gwahanol i'ch plentyn ar gyfer anghenion addysgol arbennig. Gelwir help ychwanegol ar y lefel sylfaenol yn Weithredu gan yr Ysgol, ac fe all hyn fod:
Mae'n bosib y bydd angen help ar eich plentyn gan y cynllun cam-wrth-gam am gyfnod byr, neu am flynyddoedd lawer. Cofiwch y dylai'r ysgol ymgynghori â chi ar hyd pob cam o'r ffordd, ac fe ddylech gael gwybod am y cynnydd y mae'ch plentyn yn ei wneud.
Athro/athrawes eich plentyn sy'n gyfrifol am weithio gyda'ch plentyn o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd yn penderfynu cofnodi'r camau gweithredu a gymerir i helpu'ch plentyn ar ffurf Cynllun Addysg Unigol.
Gallai'r Cynllun hwn gynnwys:
Weithiau, bydd yr ysgol yn dewis peidio ag ysgrifennu Cynllun fel hyn. Yn lle hynny byddant yn cofnodi sut mae hi'n diwallu anghenion eich plentyn mewn ffordd arall, fel rhan o'u cynlluniau gwersi o bosib. Ond dylent bob amser fod yn gallu dweud wrthych chi sut maen nhw'n helpu'ch plentyn a pha gynnydd mae'r plentyn yn ei wneud.
Os nad yw eich plentyn yn gwneud cynnydd digon da drwy gyfrwng cynllun Gweithredu gan yr Ysgol, fe ddylai'r athro/athrawes neu'r Cydlynydd AAA gysylltu â chi. Efallai y byddant yn eich cynghori chi i ofyn am gyngor gan bobl eraill y tu allan i'r ysgol. Gallai'r rhain gynnwys athro/athrawes arbenigol, neu therapydd lleferydd neu iaith. Gelwir y math hwn o help ychwanegol yn Weithredu a Mwy gan yr Ysgol.
Mae’n bosib y bydd ysgol eich plentyn dal i fod yn methu rhoi'r holl help angenrheidiol i'ch plentyn. Os felly, gallwch chi neu berson proffesiynol sydd wedi bod yn ymwneud â'ch plentyn ofyn am 'asesiad statudol'. Ymchwiliad manwl yw hwn i gael gwybod beth yw anghenion addysgol arbennig eich plentyn a pha help arbennig sydd ei angen.