Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Anghenion addysgol arbennig: dewis ysgol

Os oes gan eich plentyn ddatganiad anghenion addysgol arbennig, bydd fel arfer yn mynd i un o ysgolion neu sefydliadau addysg prif ffrwd (ysgol gyffredin). Fodd bynnag, gallwch hefyd ofyn a gânt fynd i ysgol arbennig.

Dewis ysgol i'ch plentyn

Os oes gan eich plentyn ddatganiad anghenion addysgol arbennig (AAA) mae gennych hawl i ddweud pa un o ysgolion y wladwriaeth yr ydych am iddyn nhw'i mynychu, ai ysgol prif ffrwd ynteu ysgol arbennig. Efallai mai'r ysgol y maen nhw'n ei mynychu eisoes fydd hon.

Rhaid i'ch awdurdod lleol gytuno i anfon eich plentyn i'r ysgol y dymunwch iddo ei fynychu, cyn belled â:

  • bod yr ysgol ddewiswch chi'n addas ar gyfer oedran, gallu, sgiliau ac AAA eich plentyn
  • bod eich plentyn yn bodloni unrhyw feini prawf dethol sydd gan yr ysgol (er nad yw'r rhan fwyaf o ysgolion y wladwriaeth yn dewis disgyblion yn ôl gallu academaidd)
  • bod presenoldeb eich plentyn yn annhebygol o gael effaith negyddol ar addysg plant eraill sydd eisoes yn yr ysgol
  • bod rhoi'ch plentyn yn yr ysgol yn ffordd effeithlon o ddefnyddio adnoddau'r awdurdod lleol

Fel arfer, bydd ysgolion arbennig yn derbyn plant sydd â mathau penodol o anghenion arbennig. Bydd gan lawer o ysgolion cyffredin ddarpariaeth arbennig hefyd ar gyfer plant sydd ag anghenion penodol. Er enghraifft, mae'n bosib bod ganddyn nhw fynediad da ar gyfer disgyblion ag anabledd corfforol neu ddulliau dysgu arbennig ar gyfer disgyblion sydd ag anawsterau clyw neu olwg neu ddyslecsia.

Gallwch ofyn am gael gweld polisi AAA ysgol i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth y gallant ei gynnig. Gallwch chi hefyd drefnu i ymweld â nifer o ysgolion os dymunwch chi.

Efallai y dymunwch i'ch plentyn fynd i ysgol nad yw'n cael ei rhedeg gan eich awdurdod lleol, er enghraifft:

  • ysgol arbennig nas cynhelir (sy'n cael eu rhedeg gan elusennau fel rheol)
  • ysgol annibynnol sy'n gallu diwallu anghenion eich plentyn
  • ysgol sy'n cael ei chynnal gan awdurdod lleol arall

Fodd bynnag, os oes ysgol addas ar gael dan y wladwriaeth, nid oes dyletswydd gyfreithiol ar yr awdurdod lleol i anfon eich plentyn i ysgol nas cynhelir neu ysgol annibynnol.

Help i ddewis

Wrth ddewis ysgol mae'n bwysig i chi ofyn am yr holl wybodaeth, help a chyngor sydd eu hangen arnoch a'ch bod yn cael yr help hwnnw. Mae'n bwysig hefyd eich bod yn cael cyfle i drafod unrhyw beth sy'n eich poeni. Bydd eich awdurdod lleol, eich gwasanaeth partneriaeth â rhieni lleol, mudiadau gwirfoddol lleol (elusennau) a grwpiau rhieni'n gallu'ch helpu i ddewis.

Allweddumynediad llywodraeth y DU