Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os bydd eich plentyn yn cael mwy o anawsterau na'r rhan fwyaf o blant o'r un oedran gyda gwaith ysgol, wrth gyfathrebu neu gyda'u hymddygiad, mae digon o help a chyngor ar gael gan arbenigwyr anghenion addysgol arbennig, athrawon a mudiadau gwirfoddol.
Mae diffiniad cyfreithiol i'r term 'anghenion addysgol arbennig' (AAA). Mae'n cyfeirio at blant sy'n cael anawsterau dysgu neu anableddau sy'n ei gwneud hi'n anos iddyn nhw ddysgu neu fanteisio ar addysg na'r rhan fwyaf o blant o'r un oedran â nhw.
Bydd gan lawer o blant AAA o ryw fath ar ryw adeg yn ystod eu haddysg. Fel arfer, darperir help drwy gyfrwng eu sefyllfa addysg gynnar neu eu hysgol yn y brif ffrwd arferol, weithiau gyda help arbenigwyr o'r tu allan.
Os oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig, mae'n bosib y bydd angen help ychwanegol arnyn nhw mewn amrywiaeth o feysydd, er enghraifft:
Bydd plant yn gwneud cynnydd ar wahanol gyflymder i'w gilydd ac mae'r ffordd maen nhw'n dysgu'n gallu amrywio. Wrth gynllunio gwersi ar sail y Cwricwlwm Cenedlaethol, bydd athro/athrawes eich plentyn yn rhoi sylw i hyn drwy edrych yn ofalus ar sut maen nhw'n trefnu eu gwersi, yr ystafell ddosbarth, y llyfrau a'r deunyddiau.
Yna, byddan nhw'n dewis y ffyrdd fwyaf priodol o helpu'ch plentyn i ddysgu o blith ystod o weithgareddau (a ddisgrifir yn aml fel 'amrywio'r cwricwlwm').
Os yw eich plentyn yn gwneud cynnydd arafach neu'n cael anhawster arbennig mewn un maes, mae'n bosib y rhoddir help ychwanegol neu wersi gwahanol i'w helpu i lwyddo.
Felly, ddylech chi ddim tybio bod gan eich plentyn AAA dim ond oherwydd ei f/bod yn gwneud cynnydd arafach nag yr oeddech yn ei ddisgwyl neu oherwydd bod yr athrawon yn rhoi cefnogaeth, help neu weithgareddau gwahanol i'ch plentyn yn y dosbarth.
Mae blynyddoedd cynnar eich plentyn yn adeg bwysig iawn o safbwynt eu datblygiad corfforol, emosiynol, deallusol a chymdeithasol. Pan fydd yr ymwelydd iechyd neu'r meddyg yn cynnal archwiliad rheolaidd, mae'n bosib y byddan nhw'n awgrymu y gall fod problem. Os ydych chi eich hun yn poeni am rywbeth, dylech geisio cyngor ar unwaith.
Y person cyntaf y dylech gysylltu ag ef/hi yw athro/athrawes dosbarth eich plentyn, y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (pwy bynnag sy'n gyfrifol am gydlynu help i blant sydd ag anghenion addysgol arbennig yn yr ysgol neu'r ddarpariaeth gyn-ysgol) neu'r pennaeth.
Efallai yr hoffech ofyn iddyn nhw:
Os bydd ysgol eich plentyn yn cytuno bod ganddo neu ganddi Anghenion Addysg arbennig mewn rhai meysydd, byddan nhw'n cytuno i ddilyn cynllun cam-wrth-gam i ddiwallu'r anghenion hyn.
Mae nifer o egwyddorion sylfaenol y bydd pawb sy'n ymwneud ag addysg eich plentyn yn eu hystyried. Wrth siarad ag athrawon eich plentyn, mae nifer o bwyntiau sylfaenol y dylech eu cofio:
Os oes gan eich plentyn AAA, mae nifer o fudiadau ar gael hefyd a all helpu.