Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Adnabod anghenion addysgol arbennig plant dan bump oed

Mae blynyddoedd cynnar eich plentyn yn gyfnod pwysig yn eu datblygiad. Os oes ganddynt anghenion addysgol arbennig, mae'n bwysig gweld beth yw'r anghenion hynny cyn gynted ag y bo modd. Os ydych chi'n poeni y gall eich plentyn fod yn cael anhawster cyn mynd i'r ysgol, mae help ar gael.

Poeni am ddatblygiad eich plentyn

Bydd eich plentyn yn dysgu drwy fod gyda phobl eraill ac archwilio'r byd o'u cwmpas.

Fodd bynnag, bydd rhai plant yn cael mwy o anhawster na'r rhan fwyaf o blant o'r un oedran:

  • wrth gyfathrebu
  • wrth ddeall a dysgu
  • o ran datblygiad eu synhwyrau a'u datblygiad corfforol
  • o ran eu hymddygiad neu ymwneud â phobl eraill

Dywedir bod gan blant sydd â'r math hwn o anhawster dysgu neu anabledd 'anghenion addysgol arbennig'.

Cael gwybod mwy

Mae’n bwysig gweithredu os ydych chi'n meddwl y gall fod gan eich plentyn angen addysgol arbennig (AAA) ac nad oes neb wedi sylweddoli hyn. Dylech chi siarad â'r person sydd â chyfrifoldeb penodol dros anghenion addysgol arbennig yn ysgol feithrin, grŵp chwarae neu leoliad blynyddoedd cynnar eich plentyn. Y cydgysylltydd AAA fydd y person hwn.

Os nad yw'ch plentyn yn mynychu meithrinfa neu leoliad blynyddoedd cynnar arall, gallwch siarad â'ch cyngor lleol – gall eu tîm blynyddoedd cynnar a gofal plant eich helpu i ddod o hyd i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar a gofal plant priodol. Gall eu tîm AAA roi cyngor i chi am anghenion addysgol arbennig. Fel arall, gallech gysylltu â Chanolfan Blant Cychwyn Cadarn yn eich ardal i gael help. Fe allech hefyd gael sgwrs â'ch meddyg neu'ch ymwelydd iechyd.

Mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol rwydwaith o wasanaethau i blant dan bump oed. Bydd awdurdodau lleol, mudiadau gwirfoddol a'r gwasanaethau cymdeithasol yn cydweithio'n agos i gefnogi plant sydd ag anghenion addysgol arbennig.

Cael help

Dylai meithrinfa neu ddosbarth derbyn eich plentyn allu ei helpu i oresgyn y rhwystrau sy'n codi o'i anawsterau. Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn ar gyfer rhywfaint o'r amser y bydd yn ei dreulio ym myd addysg neu drwy'r cyfnod i gyd. Os nad yw'ch plentyn mewn meithrinfa neu ddosbarth derbyn gall y cyngor lleol eich cynghori am ddarpariaeth addas yn lleol.

Dyma ambell bwynt i'w gofio:

  • fel arfer caiff anghenion eich plentyn eu diwallu mewn meithrinfa, cylch chwarae neu ysgol brif ffrwd, weithiau gyda help arbenigwyr
  • dylai rhywun ofyn i chi am yr holl benderfyniadau sy'n effeithio ar eich plentyn
  • dylai eich barn chi gael ei hystyried bob tro

Mae help ychwanegol ar gael i'ch plentyn gan arbenigwyr, athrawon a chydlynwyr AAA, a chan fudiadau gwirfoddol sy'n cynnig cyngor, a hwnnw'n aml yn gysylltiedig ag anghenion penodol.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU