Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwasanaethau cefnogi eraill ar gyfer anghenion addysgol arbennig plant dan bump

Mae cynlluniau ar gael i gefnogi teuluoedd â phlant ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig, gan gynnwys Cymorth Cynnar, gwasanaethau partneriaeth â rhieni a gwasanaethau ymweld â'r cartref. Mae’r cynlluniau hyn yn ystyried anghenion eich plentyn a’ch anghenion chi.

Cael cymorth

Cysylltwch â'ch awdurdod lleol i gael gwybodaeth am yr holl wasanaethau sydd ar gael yn eich ardal chi megis:

  • yr amrywiaeth eang o wasanaethau sydd ar gael gan y llywodraeth yn lleol a sut i gael gafael arnynt
  • cymorth sydd ar gael gan grwpiau rhieni a mudiadau gwirfoddol lleol
  • cynlluniau sy'n 'cydgysylltu' y bobl y dewch chi i gysylltiad â nhw i'ch cefnogi chi a'ch plentyn

Hefyd, bydd gan bob awdurdod lleol 'Gynllun Datblygiad a Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar'. Mae hwn yn rhestru'r canolfannau cyn-ysgol sydd ar gael yn lleol i blant ifanc ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau.

Fe gewch fwy o wybodaeth am y cynlluniau hyn i gyd ar wefan eich awdurdod lleol.

Cymorth Cynnar

Nod Cymorth Cynnar yw sicrhau bod gan ddau riant plant ag anableddau, a'r gweithwyr proffesiynol sy'n eu cefnogi, well dealltwriaeth o anghenion a gofynion teuluoedd. Yna mae’n canfod y ffyrdd gorau o'u diwallu.

Mae'n darparu adnoddau defnyddiol y gallwch eu defnyddio gyda'r gweithwyr proffesiynol sy'n darparu cymorth a chefnogaeth i'ch plentyn. Hefyd mae’n cynnig gwybodaeth fanwl am fathau penodol o anabledd a'r hyn y mae angen i chi fel rhiant fod yn ymwybodol ohono.

Gwasanaethau partneriaeth â rhieni

Mae gwasanaethau partneriaeth â rhieni'n cynnig cymorth a chyngor i rieni â phlant sydd ag anghenion addysgol arbennig, yn enwedig yn ystod y broses asesu. Maen nhw'n darparu gwybodaeth gywir a diduedd am yr holl ddewisiadau sydd ar gael a'u pwrpas yw eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am addysg eich plentyn.

Gwasanaethau ymweld â'r cartref

Ceir nifer o wahanol fathau o wasanaeth ymweld â'r cartref:

  • mae gan rai awdurdodau lleol dimau o athrawon yn gweithio mewn Tîm Cynhwysiant Blynyddoedd Cynnar
  • mae gan Ganolfannau Plant Cychwyn Cadarn hefyd weithwyr cefnogi sy'n ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi
  • gall teuluoedd hefyd dderbyn ymweliadau rheolaidd drwy Cefnogaeth Gartref, sy'n cynnig rhwydwaith o rieni gwirfoddol wedi'u hyfforddi sy'n cefnogi rhieni os oes arnynt angen mwy o help am nifer o wahanol resymau

Gwasanaeth arall sy'n darparu addysg drwy ymweld â'r cartref yw Portage ac fe'i darperir ar gyfer plant cyn-ysgol sydd ag angen cymorth ychwanegol ac ar gyfer eu teuluoedd. Fe'i darperir yng nghartref y plentyn, gan roi'r sgiliau a'r hyder i rieni iddyn nhw allu helpu eu plentyn. Gall ymwelwyr cartref Portage fod yn athrawon, yn therapyddion lleferydd neu alwedigaethol, yn nyrsys meithrin, yn ymwelwyr iechyd, yn nyrsys cymuned, yn weithwyr cymdeithasol neu'n rhieni neu'n wirfoddolwyr sydd â'r profiad perthnasol.

Maen nhw i gyd wedi cael eu hyfforddi gan Gymdeithas Genedlaethol Portage. Mae'r cynlluniau hyn yn cael eu cynnal mewn sawl ardal. Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy gysylltu â Chymdeithas Genedlaethol Portage ar 01935 471 641 (dydd Llun a dydd Iau, 9.00 am tan 1.00 pm).

Grwpiau cefnogi rhieni

Mae grwpiau cefnogi rhieni'n rhoi cyfle i chi gyfarfod â theuluoedd eraill â phlant ifanc anabl. Hefyd, ceir sawl mudiad gwirfoddol sy'n cynnig cefnogaeth i rieni plant sydd ag anghenion addysgol arbennig.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU