Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth ar gyfer anghenion addysgol arbennig: gwasanaethau partneriaeth â rhieni a mudiadau eraill

Mae eich rôl chi'n hollbwysig wrth gefnogi addysg eich plentyn. Dylai eich barn chi gael ei ystyried a dylid gwrando ar ddymuniadau eich plentyn. Hefyd, ceir sawl grŵp a mudiad a all roi cyngor i chi am anghenion addysgol arbennig (AAA).

Cael help ychwanegol

Os nad ydych chi'n hapus â'r hyn y mae'r ysgol yn ei wneud dros eich plentyn, siaradwch yn y lle cyntaf â'r cydlynydd anghenion addysgol arbennig, athro/athrawes dosbarth eich plentyn, yr athrawon pwnc neu'r pennaeth. I osgoi camddealltwriaeth mae'n bwysig eich bod yn cydweithredu gymaint ag y gallwch gydag ysgol eich plentyn.

Mae'n bosib hefyd y gwelwch fod sgwrsio â rhieni eraill drwy gyfrwng eich gwasanaeth partneriaeth â rhieni lleol yn help, neu gysylltu â mudiadau gwirfoddol lleol a chenedlaethol ac â grwpiau rhieni.

Gwasanaethau partneriaeth i rieni

Mae gan bob awdurdod lleol ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni plant ag anghenion addysgol arbennig. Dylai hyn gael ei ddarparu gan staff pwrpasol yn gweithio ar wahân i dîm anghenion addysgol arbennig yr awdurdod lleol. Bydd hyn yn eich sicrhau bod y cyngor a'r wybodaeth yn ddiduedd, ac nad yw'r bobl sy'n eu rhoi yn gysylltiedig â'r broses gwneud penderfyniadau yng nghyswllt anghenion addysgol arbennig.

Daw rhai gwasanaethau partneriaeth â rhieni dan adain y sector gwirfoddol ond mae'r rhan fwyaf yn parhau dan ofal yr awdurdod lleol. Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau hefyd yn cynnig mynediad at Gynhalwyr Annibynnol i Rieni, sef gwirfoddolwyr wedi'u hyfforddi i ddarparu cymorth personol i rieni.

Beth mae gwasanaethau partneriaeth â rhieni yn ei wneud?

Dylai'r rhan fwyaf o wasanaethau partneriaeth â rhieni gynnig y canlynol i chi:

  • mynediad at linell gymorth gyfrinachol
  • gwybodaeth a chyngor diduedd am faterion yn ymwneud ag anghenion addysgol arbennig
  • cymorth i baratoi at gyfarfodydd a'u mynychu
  • cymorth i lenwi ffurflenni ac ysgrifennu llythyrau/adroddiadau
  • cymorth cychwynnol i ddatrys anghydfodau ag ysgol eich plentyn a'r awdurdod lleol
  • manylion cyswllt gwasanaethau gwirfoddol a statudol eraill
  • cysylltiadau â fforymau a grwpiau cefnogi lleol i rieni
  • cyfle i gyflwyno'ch safbwyntiau, a fydd yn helpu i ategu a dylanwadu ar arferion a pholisïau lleol
  • cyfleoedd hyfforddi

Bydd gan ysgol eich plentyn neu'ch awdurdod lleol fanylion am eich gwasanaeth lleol. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth hon hefyd drwy'r Rhwydwaith Partneriaeth â Rhieni Cenedlaethol.

Cyngor i rieni sydd â phlant anabl

Gwasanaeth Contact a Family

Mae Cyswllt Teulu'n cynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth i deuluoedd sydd â phlant anabl gydag unrhyw agwedd ar addysg eu plentyn.

Parents for Inclusion

Elusen genedlaethol yw Parents for Inclusion a'i nod yw galluogi plant anabl i ddysgu, gwneud ffrindiau a chael llais mewn ysgolion cyffredin a thrwy gydol eu bywyd.

Cyngor i rieni sydd â phlant ag anghenion addysgol arbennig

Panel Annibynnol ar gyfer Cyngor Addysgol Arbennig (IPSEA)

Mae gan y Panel hwn arbenigwyr annibynnol a all roi cyngor am ddim i chi am anghenion addysgol arbennig eich plentyn.

Mae'r Panel Annibynnol ar gyfer Cyngor Addysgol Arbennig yn darparu'r canlynol:

  • cyngor cyffredinol
  • cyngor ar apelio i'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd, gan gynnwys cynrychiolaeth pan fo angen
  • cyngor a hyfforddiant ym maes gwahaniaethu ar sail anabledd

Network 81

Mae Network 81 yn elusen gofrestredig ac yn gorff ymbarél o grwpiau cymorth i rieni. Ei nod yw gwella addysg i blant ag anghenion addysgol arbennig.

Datrys anghytundebau

Os ydych chi'n dal yn methu datrys yr anghydfodau ynghylch anghenion eich plentyn gyda'r ysgol neu'r awdurdod lleol, fe allwch gael help cychwynnol drwy'r gwasanaeth partneriaeth â rhieni neu ddefnyddio'r trefniadau anffurfiol ar gyfer datrys anghydfod. Dylai eich awdurdod lleol ddarparu manylion. Nid yw defnyddio'r gwasanaeth yn effeithio ar eich hawl i apelio wrth y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd.

Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (SENDIST)

Yn ogystal â chymorth answyddogol ynglŷn â datrys anghydfodau, efallai y gallech chi hefyd apelio wrth y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (SENDIST). Mae hwn yn gorff annibynnol sy'n gwrando ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol ynghylch asesiadau a datganiadau AAA.

Allweddumynediad llywodraeth y DU