Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Fel rhan o adolygiad blynyddol, bydd eich awdurdod lleol yn penderfynu a ddylent wneud unrhyw newid i ddatganiad eich plentyn. Rhaid i'ch awdurdod lleol edrych i weld sut mae'ch plentyn yn gwneud cynnydd a sicrhau bod y datganiad yn dal i ddiwallu ei h/anghenion.
Os ydy datganiad eich plentyn wedi cael ei adolygu, bydd yr awdurdod lleol yn ysgrifennu atoch, at ysgol eich plentyn ac at y bobl broffesiynol sy'n cyfrannu at yr adolygiad. Byddant yn rhoi gwybod i chi beth yw'r rhesymau dros unrhyw newid, ac yn gofyn i chi am eich barn. Gofynnir i chi bob tro beth yw eich barn cyn gwneud unrhyw newid.
Er enghraifft, mae'n bosib y bydd angen newid rhywbeth:
Unwaith yr ydych wedi clywed wrth eich awdurdod lleol, mae gennych 15 diwrnod i ofyn am gyfarfod i drafod y newidiadau y maen nhw'n eu cynnig. Rhaid i'r awdurdod lleol ddweud wrthych beth yw eu penderfyniad terfynol ac am unrhyw newidiadau maen nhw wedi'u gwneud o fewn wyth wythnos iddyn nhw awgrymu newid.
Os mai i ran pedwar y datganiad y gwneir y newidiadau (hynny yw, bod yr awdurdod lleol eisiau newid enw'r ysgol), bydd gennych yr un hawliau i ddewis ysgol ag a oedd gennych pan luniwyd datganiad eich plentyn yn y lle cyntaf.
Hefyd, bydd gennych yr hawl i ofyn i'r awdurdod lleol newid enw'r ysgol yn natganiad eich plentyn. Fe gewch chi ofyn am ysgol awdurdod lleol arall os oes o leiaf 12 mis wedi mynd heibio ers i chi ofyn am newid enw neu ers i'r datganiad gael ei wneud neu ei newid.
Pan fydd eich plentyn yn y flwyddyn ddiwethaf o’r ysgol cyn symud i ysgol arall, er enghraifft pan maent yn symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd, mae argymhellion yr adolygiad blynyddol diwethaf cyn y trosglwyddo'n bwysig er mwyn eich helpu chi a'r awdurdod lleol i benderfynu pa fath o ysgol y dylai'ch plentyn fynd iddi. Rhaid i'r awdurdod lleol newid rhan 4 o'r datganiad erbyn 15 Chwefror yn y flwyddyn y mae'ch plentyn i fod i newid ysgol.
Os byddwch chi'n anghytuno â'r newidiadau i'r datganiad, bydd gennych yr un hawliau ag a oedd gennych chi pan luniwyd y datganiad am y tro cyntaf. Dylai'r awdurdod lleol ddweud wrthych am y trefniadau lleol ar gyfer datrys anghydfodau a'ch hawl i apelio i'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig.