Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Anghenion addysgol arbennig: datganiadau

Mae datganiad anghenion addysgol arbennig (AAA) yn rhestru anghenion eich plentyn a'r cymorth y dylai ei gael. Bydd yn cael ei adolygu'n flynyddol er mwyn sicrhau bod unrhyw gymorth ychwanegol a roddir yn dal i ddiwallu anghenion eich plentyn.

Datganiadau - pennu anghenion eich plentyn

Unwaith y bydd eich awdurdod lleol wedi cynnal asesiad, fe allan nhw benderfynu cofnodi'r wybodaeth y maen nhw wedi'i chasglu mewn dogfen datganiad anghenion addysgol arbennig (a elwir yn 'ddatganiad' yn unig fel rheol).

Mae'r datganiad hwn yn disgrifio anghenion addysgol arbennig eich plentyn a'r holl help arbennig y dylai ei gael. Fel arfer bydd awdurdod lleol yn gwneud datganiad os ydynt yn penderfynu naill ai:

  • nad yw eich plentyn yn ymddangos fel petai’n gwneud cynnydd dan Gweithredu gan yr Ysgol na Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy
  • bod angen llawer o help ychwanegol arno

Fel arfer, dylai eich awdurdod lleol ysgrifennu a dweud wrthych chi a ydyn nhw'n bwriadu llunio datganiad o fewn 12 wythnos ar ôl dechrau'r asesiad.

I gael rhagor o wybodaeth am asesiadau, edrychwch ar 'Anghenion addysgol arbennig: asesiadau’. I gael gwybodaeth am Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy, edrychwch ar ‘Anghenion addysgol arbennig: cynllun cam-wrth-gam'.

Datganiadau - beth sydd ynddynt

Mae chwe rhan i ddatganiad AAA:

  • mae rhan un yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am eich plentyn a rhestr o’r cyngor a dderbyniodd yr awdurdod fel rhan o’r asesiad
  • mae rhan dau yn disgrifio anghenion eich plentyn yn dilyn yr asesiad
  • mae rhan tri yn disgrifio'r holl help arbennig a roddir i ddiwallu anghenion eich plentyn
  • mae rhan pedwar yn enwi’r ysgol y dylai eich plentyn ei mynychu gan nodi pa fath o ysgol yw hi a sut gwneir unrhyw drefniadau y tu allan i oriau ysgol neu oddi ar dir yr ysgol
  • mae rhan pump yn disgrifio unrhyw anghenion anaddysgol sydd gan eich plentyn
  • mae rhan chwech yn disgrifio pa fath o help a gaiff eich plentyn er mwyn diwallu unrhyw anghenion anaddysgol

Anfonir datganiad drafft atoch cyn i'ch awdurdod lleol ysgrifennu'r datganiad terfynol. Bydd y datganiad yn gyflawn ar wahân i ran pedwar, lle disgrifir y math o ysgol neu addysg a ddarperir y tu allan i'r ysgol, a'u henwi. Bydd rhan pedwar yn cael ei adael yn wag fel y gallwch chi ddweud pa ddarpariaeth addysgol yr ydych yn dymuno i'ch plentyn ei chael.

Faint o amser sydd gennych i wneud sylwadau

Bydd gennych amser i adolygu'r datganiad drafft a bydd gennych yr hawl i anghytuno â'i gynnwys. Bydd gennych 15 diwrnod i roi eich sylwadau a dweud pa un o ysgolion y wladwriaeth, pa ysgol arbennig nas cynhelir neu ba ysgol annibynnol y dymunwch i'ch plentyn fynd iddi.

Fe gewch hefyd ofyn am gyfarfod gyda'r awdurdod lleol ac mae gennych 15 diwrnod arall i ofyn am gyfarfodydd eraill ar ôl hynny. O fewn 15 diwrnod i'ch cyfarfod diwethaf, cewch anfon unrhyw sylwadau ychwanegol. Os hoffech gael mwy o amser i roi sylwadau, siaradwch â'r 'Swyddog Enwebedig' yn eich awdurdod lleol. Dyma'r swyddog yn eich awdurdod lleol sy'n delio ag achos eich plentyn.

Rhaid i'r awdurdod lleol wneud y datganiad terfynol o fewn wyth wythnos i'r datganiad drafft. Bydd yn anfon copi atoch gyda rhan pedwar wedi'i llenwi gan enwi ysgol. Bydd y datganiad yn cychwyn cyn gynted ag y bydd yr awdurdod lleol yn ei gwblhau.

Os ydych chi'n anghytuno â'r datganiad

Os byddwch chi'n anghytuno â'r datganiad, siaradwch yn gyntaf â'ch Swyddog Enwebedig. Gallai fod o fudd i chi gysylltu â’ch gwasanaeth partneriaeth â rhieni lleol, a all roi cyngor a chefnogaeth diduedd i chi.

Bydd gennych chi hefyd yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (SENDIST) yn erbyn rhannau dau, tri a phedwar - bydd yr awdurdod lleol yn dweud wrthych chi beth yw'r trefniadau lleol.

Mae gennych chi hawl i apelio i SENDIST hyd yn oed os ydych chi'n ceisio datrys yr anghydfod yn anffurfiol gyda'r awdurdod lleol.

Cyfarfod ac adolygiad blynyddol

Rhaid i'ch awdurdod lleol adolygu datganiad eich plentyn o leiaf unwaith y flwyddyn, edrych i weld sut mae'ch plentyn yn dod ymlaen a sicrhau bod y datganiad yn dal i ddiwallu ei h/anghenion.

Bydd ysgol eich plentyn yn eich gwahodd i gyfarfod adolygu ac yn gofyn i chi anfon eich barn am gynnydd eich plentyn dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn y cyfarfod adolygu, edrychir ar adroddiadau ysgrifenedig ac ar ddatganiad eich plentyn, gan ystyried a oes angen ei newid o gwbl. Gofynnir i chi hefyd am eich barn am gynnydd eich plentyn.

Cewch fynd â ffrind neu oedolyn annibynnol gyda chi, a dylai eich plentyn gael mynychu rhan o'r cyfarfod o leiaf.

Ar ôl y cyfarfod, bydd yr ysgol yn anfon copi o'i adroddiad atoch. Bydd y pennaeth yn anfon adroddiad i'r awdurdod lleol yn argymell unrhyw newidiadau i'r datganiad y cytunwyd arnynt. Rhaid i hyn ddigwydd o fewn 10 diwrnod i'r cyfarfod adolygu blynyddol neu erbyn diwedd y tymor, pa un bynnag fydd gyntaf.

Yna, fe gaiff yr awdurdod lleol benderfynu a oes angen newid datganiad eich plentyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU