Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael cymorth ar gyfer anghenion addysgol arbennig plant dan bump oed

Os yw dysgu yn peri anhawster i'ch plentyn, bydd eich darparwr addysg gynnar – meithrinfa neu grŵp chwarae er enghraifft – yn gallu cynnig cymorth ychwanegol. Mae'r Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig yn rhoi arweiniad ar wahanol lefelau o gefnogaeth.

Cael help - y camau cyntaf

Os ydych chi'n poeni am addysg eich plentyn, trefnwch gyfarfod gyda'i athro neu gyda'r cydlynydd anghenion addysgol arbennig (SENCO). Gallwch wneud hyn drwy feithrinfa eich plentyn neu drwy leoliad blynyddoedd cynnar arall.

Rhaid i bob canolfan cyn-ysgol a meithrinfa sy'n cael arian cyhoeddus ystyried y 'Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig'. Mae hwn yn rhoi cyfarwyddyd ymarferol ynghylch sut i adnabod plant sydd ag anghenion addysgol arbennig a'u hasesu.

Gallwch ddarllen crynodeb o'r cod yn y daflen, 'SEN: a guide for parents and carers' (Saesneg yn unig).

Os nad yw'ch plentyn yn mynychu lleoliad blynyddoedd cynnar

Os nad yw'ch plentyn yn mynychu meithrinfa, grŵp chwarae neu leoliad blynyddoedd cynnar arall, gallwch siarad â'ch cyngor lleol. Gall tîm gofal plant a blynyddoedd cynnar y cyngor eich helpu i ddod o hyd i ddarpariaeth gofal plant a blynyddoedd cynnar priodol. Gall y tîm Anghenion Addysgol Arbennig roi mwy o gyngor i chi ynghylch anghenion addysgol arbennig. Neu, gallech gysylltu â Chanolfan Blant Cychwyn Cadarn yn eich ardal i gael help.

Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar

Os oes angen cymorth arbennig ar eich plentyn i ddysgu, efallai y bydd y feithrinfa neu'r ganolfan cyn-ysgol yn darparu hyn drwy'r hyn a elwir yn 'Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar', sy'n ffordd o helpu plant. Bydd athrawon neu gydlynwyr anghenion addysgol arbennig eich plentyn yn trafod ei anghenion gyda chi, yn asesu beth yw'r anghenion, ac yn penderfynu pa help i'w roi. Dylent eich holi ynghylch y cymorth a roddir i'ch plentyn a chanlyniadau'r cymorth hwnnw.

Gallai'r cymorth a roddir dan y rhaglen Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar olygu ffordd wahanol o ddysgu rhai pethau neu gymorth gan oedolyn arall. Efallai y bydd manylion y cymorth hwn ynghyd â'r targedau tymor-byr ar gyfer eich plentyn yn cael eu hysgrifennu mewn dogfen a elwir yn Gynllun Addysg Unigol (CAU). Fel arall, gellid cofnodi cynnydd eich plentyn yn yr un modd â phob plentyn arall.

Cynllun Addysg Unigol (CAU)

Byddwch chi ac athrawon eich plentyn yn defnyddio'r CAU fel 'cyfrwng' cynllunio ac adolygu. Dylai Cynlluniau Addysg Unigol esbonio:

  • pa help arbennig sy'n cael ei ddarparu
  • pwy fydd yn darparu’r help hwnnw a pha mor aml
  • pa help y gallwch chi ei roi i'ch plentyn gartref

Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar a Mwy

Os nad yw eich plentyn yn gwneud cynnydd digon da drwy gyfrwng y rhaglen Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar, fe ddylai'r athro neu'r Cydlynydd siarad â chi am gael help ychwanegol gan athro arbenigol neu therapydd lleferydd, er enghraifft. Gelwir y math hwn o help yn 'Weithredu yn y Blynyddoedd Cynnar a Mwy'.

Mae'n bosib y bydd arbenigwyr allanol yn dechrau drwy asesu'r hyn sydd ei angen. Bydd arbenigwyr yn darparu cyngor ar gyfer y Cynllun Addysg Unigol ac weithiau'n dysgu neu'n rhoi help uniongyrchol i'ch plentyn.

Os bydd angen llawer o gymorth neu adnoddau ychwanegol ar eich plentyn, fe all eich awdurdod lleol gytuno i ddarparu hyn drwy gyfrwng y rhaglen Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar a Mwy. Mae'n bosib y byddant hefyd yn penderfynu gwneud asesiad statudol.

Bydd nifer o arbenigwyr yn cael eu cynnwys yn yr asesiad statudol (a elwir yn aml yn 'asesiad') a byddan nhw'n penderfynu pa gymorth ychwanegol sydd ei angen ar eich plentyn.

Beth yw asesiad statudol Anghenion Addysgol Arbennig?

Bydd yr asesiad yn canfod beth yn union yw anghenion eich plentyn, a pha help ychwanegol sydd ei angen arno. Dim ond os na all lleoliad blynyddoedd cynnar neu ysgol eich plentyn ddarparu'r holl help sydd ei angen arnynt y gwneir hyn. Fe'i cynhelir gan eich cyngor lleol, yn seiliedig ar gyngor arbenigol.

Cewch ofyn am asesiad i'ch plentyn a gall meithrinfa neu ysgol eich plentyn wneud hyn hefyd. Os bydd y feithrinfa am ofyn i'r awdurdod lleol gynnal asesiad, dylent bob amser siarad â chi yn gyntaf.

Beth yw datganiad AAA?

Mae datganiad anghenion addysgol arbennig (AAA) yn rhestru anghenion eich plentyn a'r cymorth y dylai ei gael. Bydd yn cael ei adolygu'n flynyddol er mwyn sicrhau bod unrhyw gymorth ychwanegol a roddir yn dal i ddiwallu anghenion eich plentyn.

Asesiadau a datganiadau os yw eich plentyn dan ddwy oed

Os yw'ch plentyn dan ddwy oed, gallwch chi neu weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'ch plentyn ysgrifennu'n ffurfiol i ofyn am asesiad statudol. Bydd adran addysg eich awdurdod lleol yn ystyried eich cais. Rhaid iddynt gytuno i wneud asesiad os oes angen un ar eich plentyn. Fodd bynnag, yn achos plant dan ddwy oed, yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu sut i gynnal yr asesiad. Y rheswm am hyn yw mai dim ond i blant sy'n ddwy oed a hŷn y mae'r rheolau cyfreithiol am sut i gynnal asesiadau'n berthnasol.

Ar ôl cwblhau'r asesiad, bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu a ddylid cyhoeddi datganiad anghenion addysgol arbennig (AAA). Dylai datganiad AAA ar gyfer plentyn dan ddwy oed ddisgrifio'r canlynol:

  • anghenion eich plentyn
  • barn y rhieni a phobl broffesiynol
  • manylion yr help a ddarperir
  • gwybodaeth am sut y caiff yr help hwn ei fonitro a'i adolygu

Mae rhoi datganiad i blant dan ddwy oed yn beth prin. Os ydych yn teimlo nad yw'r help a gynigir yn ddigonol, efallai y byddai asesiad statudol yn ffordd dda o gael help.

Asesiadau a datganiadau os yw eich plentyn dros ddwy oed

Pan fydd plentyn yn ddwy oed, bydd y rheolau cyfreithiol ar gyfer asesu plentyn a llunio datganiad yn berthnasol. Rhaid i'r awdurdod lleol ddilyn rheolau ac amserlen benodol.

Gallai meithrinfa neu ganolfan cyn-ysgol eich plentyn ofyn i'r awdurdod lleol am i'ch plentyn gael ei asesu. Gallwch chithau hefyd ofyn am i'ch plentyn gael ei asesu a gallwch apelio os bydd yr awdurdod lleol yn gwrthod.

Mae'r trefniadau ar gyfer asesu a llunio datganiadau yr un fath â'r rheini a ddilynir ar gyfer plant oed ysgol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU