Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os gwnaethoch basio eich prawf gyrru car cyn 1 Ionawr 1997 byddech wedi cael yr hawliau awtomatig ar gyfer cerbydau categori C1 (cerbyd canolig ei faint sy'n pwyso rhwng 3500kg a 7500kg) a D1 (bws mini gyda lleiafswm o 9 ac uchafswm o 16 o seddi teithwyr heb fod er eich budd nac am dâl)*.
Os oes arnoch eisiau dal gafael ar unrhyw un o'r hawliau hyn ni fydd yn bosib i chi wneud cais ar-lein. Rhaid i chi wneud cais gan ddefnyddio eich ffurflen adnewyddu D46P neu ffurflen gais D2 ynghyd ag adroddiad meddygol D4, y mae'n rhaid i feddyg ei llenwi.
Fodd bynnag, os nad oes arnoch eisiau'r hawliau hyn rhagor gallwch barhau i wneud cais ar-lein dim ond i adnewyddu eich hawl i yrru car.
* Mae heb fod er eich budd nac am dâl yn cynnwys unrhyw daliad gan deithwyr neu ar eu rhan sy’n rhoi hawl iddynt gael eu cludo.