Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Beth y mae angen i chi ei wybod

Porth y Llywodraeth

Wrth wneud cais, cewch Rif Adnabod defnyddiwr Porth y Llywodraeth. Os oes gennych Rif Adnabod defnyddiwr Porth y Llywodraeth eisoes, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw teipio hwnnw a'ch cyfrinair.

Pwysig

Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) eisiau gweithio gyda chi i sicrhau bod eich hunaniaeth a’ch data personol yn cael eu diogelu, a bydd yn cynnal profion adnabod er mwyn eich diogelu a'ch gwarchod.

Drwy wneud cais ar-lein byddwch yn rhoi caniatâd i DVLA wirio eich data personol, gan gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol. Bydd DVLA yn cadarnhau eich manylion gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau EM. Os na all DVLA gadarnhau a dilysu pwy ydych chi'n llwyr, byddwch yn cael gwybod beth i’w wneud ar ddiwedd eich cais.

Os oes gennych drwydded bapur

Bydd angen i chi ddarparu llun a llofnod ar gyfer eich trwydded newydd. Os oes gennych basbort y DU, bydd DVLA yn ceisio cael y rhain yn electronig gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau.

Oni fydd hyn yn bosib, neu os nad ydych am i DVLA ddefnyddio'r llun ar eich pasbort, bydd angen i chi anfon llun drwy'r post. Ar ddiwedd eich cais ar-lein bydd DVLA yn anfon eich ffurflen gais gwblhau atoch er mwyn i chi ei dychwelyd gyda’ch llun.

Os oes gennych drwydded cerdyn-llun

Os yw'r llun ar eich trwydded ar fin dod i ben a'ch bod eisiau adnewyddu eich llun neu'ch bod angen gwneud hynny, mae’n rhaid i chi ddarparu eich rhif pasbort y DU a’r pasbort ac mae’n rhaid i’r pasbort wedi cael ei gyhoeddi o fewn y pum mlynedd diwethaf. Bydd DVLA yn ceisio cofnodi’ch llun a llofnod yn electronig gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Os nad oes modd gwneud hyn, neu os nad ydych chi eisiau i DVLA ddefnyddio’r llun ar eich pasbort, chewch chi ddim adnewyddu’r llun ar eich trwydded ar-lein. Defnyddiwch y ddolen ‘adnewyddu'r llun ar eich trwydded yrru’ ar yr ochr dde, sy’n dangos ffyrdd eraill i adnewyddu’r llun ar eich trwydded.

Os ydych wedi darllen a deall yr wybodaeth uchod a'ch bod am wneud cais ar-lein, cliciwch ar y ddolen isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU