Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Profion gyrru a basiwyd cyn 1 Ionawr 1997

Mae’r tablau isod yn dangos i chi beth gewch chi ei yrru os bu i chi basio eich prawf gyrru cyn 1 Ionawr 1997. Ceir tri thabl gwahanol ar gyfer profion a basiwyd rhwng Ionawr 1976 a Rhagfyr 1996.

Mae’r tabl sy’n berthnasol i chi yn dibynnu ar ba fath o drwydded yrru sydd gennych.

Mathau o gerbydau - roedden nhw’n arfer cael eu galw’n grwpiau, ond maent yn cael eu galw’n gategorïau erbyn hyn

Hyd at Mehefin 1990, roedd y mathau o gerbydau y gellid eu gyrru yn cael eu dangos ar drwyddedau gyrru fel ‘grwpiau’. Hefyd, roedd trwydded yrru ar wahân yn dangos hawl i yrru cerbydau mwy.

Ers Mehefin 1990, mae’r holl hawliau gyrru wedi cael eu dangos ar drwyddedau fel ‘categorïau’ ac ar yr un drwydded.

Trwyddedau a gyhoeddwyd rhwng Ionawr 1976 ac Ionawr 1986

Rhwng 1976 a 1986, byddai eich trwydded yrru wedi cael ei gwneud o bapur gyda chefndir gwyrdd.

Ystyr y term ‘uchafswm màs awdurdodedig' (MAM) yw cyfanswm pwysau’r cerbyd yn ogystal â’r llwyth mwyaf y gall ei gario yn ddiogel.

Grŵp

Disgrifiad

Categori ar ôl 1997

A

Car a cherbyd nwyddau ysgafn gyda hyd at 9 sedd, a MAM o hyd at 3,500 kg

B
A

Cerbyd nwyddau gyda MAM o rhwng 3,500 a 7,500 kg

C1
A

Cerbyd nwyddau gyda MAM o rhwng 3,500 a 7,500 kg ac yn tynnu ôl-gerbyd, cyn belled nad yw cyfanswm pwysau'r ddau gerbyd yn fwy na 8,250 kg

C1E (gyda chod cyfyngiad 79 neu 107)

A

Cerbyd cludo teithwyr gyda rhwng 9 a 17 sedd (gyrru heb fod am dâl na gwobr)

D1 (gyda chod cyfyngiad 79 neu 101)

A

Cerbydau yng Ngrwpiau B, C, E, F, K, L, N isod

Gweler isod

B

Fel grŵp A, ond wedi’i gyfyngu i geir awtomatig yn unig

Y categorïau uchod gyda chod cyfyngiad 78

C

Unrhyw dreisicl modur (ar wahân i gerbyd pobl anabl) nad yw’n pwyso mwy na 410 kg heb lwyth (500 kg gyda llwyth)

B1 (ac eithrio cerbydau pobl anabl a beiciau pedair olwyn)

D

Unrhyw sgwter neu feic modur (gyda cherbyd ochr neu heb gerbyd ochr)

A1 ac A (yn dibynnu ar faint y beic)

E

Moped - gydag injan o faint hyd at 50 cc a chyflymder uchaf o hyd at 50 cilometr yr awr

P
F

Tractor amaethyddol sydd wedi’i osod ar olwynion

F
G

Rholer ffordd

G
H

Cerbyd gosod traciau sy’n cael ei lywio gan ei draciau

H
J

Cerbyd pobl anabl

B1 (wedi’i gyfyngu i gerbydau pobl anabl)

K

Peiriant torri gwair neu gerbyd a reolir gan rywun ar droed

K
L

Cerbyd sy’n cael ei yrru ymlaen yn drydanol (ar wahân i gerbyd pobl anabl)

L
M

Cerbyd troli

M
N

Cerbyd sydd wedi’i eithrio rhag treth cerbyd o dan Adran 7(1) o Ddeddf (Trethu) Cerbydau 1971 - sydd wedi’i eithrio rhag treth cerbyd gan nad yw’n teithio mwy na 6 milltir yr wythnos ar ffyrdd, a dim ond wrth basio rhwng darnau o dir ym meddiant ei berchennog

N

Dangos hawl i yrru cerbydau mwy ar drwydded ar wahân

Grŵp

Disgrifiad

Categori ar ôl 1997

HGV 1

Cerbyd dros 3,500 kg, gydag ôl-gerbyd dros 750 kg

CE

HGV 2 neu 3

Cerbyd dros 3,500 kg, gydag ôl-gerbyd hyd at 750 kg

C

HGV 2 neu 3

Cerbyd dros 3,500 kg, gydag ôl-gerbyd dros 750 kg, wedi’i gyfyngu i ôl-gerbydau bariau tynnu yn unig

CE (gyda chod cyfyngiad 79 neu 102)

PSV 1 neu 2

Bws gyda mwy nag 8 o seddi teithwyr, gydag ôl-gerbyd dros 750 kg

DE

PSV 3

Bws gyda mwy nag 8 o seddi teithwyr, gydag ôl-gerbyd hyd at 750 kg

D

PSV 4

Bws gyda mwy na 8 o seddi teithwyr ond nad yw’n fwy na 5.5 metr o hyd

D (gyda chod cyfyngiad 105 neu 79)

HGV 1-3A

Fel grŵp HGV 1, 2 neu 3 ond wedi’i gyfyngu i gerbydau awtomatig yn unig

C neu CE gyda chod cyfyngiad 78

PSV 1-4A

Fel grŵp PSV 1, 2, 3 neu 4 ond wedi’i gyfyngu i gerbydau awtomatig yn unig

D neu DE gyda chod cyfyngiad 78

Trwyddedau a gyhoeddwyd rhwng Ionawr 1986 a Mehefin 1990

Rhwng 1986 a 1990, byddai eich trwydded yrru wedi cael ei gwneud o bapur gyda chefndir pinc.

Grŵp

Disgrifiad

Categori ar ôl 1997

A

Car a cherbyd nwyddau ysgafn gyda hyd at 9 sedd, a MAM o hyd at 3,500 kg

B
A

Cerbyd nwyddau gyda MAM o rhwng 3,500 a 7,500 kg

C1
A

Cerbyd nwyddau gyda MAM o rhwng 3,500 a 7,500 kg ac yn tynnu ôl-gerbyd, cyn belled nad yw cyfanswm pwysau'r ddau gerbyd yn fwy na 8,250 kg

C1E (gyda chod cyfyngiad 79 neu 107)

A

Cerbyd cludo teithwyr gyda rhwng 9 a 17 sedd (gyrru heb fod am dâl na gwobr)

D1 (gyda chod cyfyngiad 79 neu 101)

A

Cerbydau yng Ngrwpiau B, C, F, K, L, N isod

Gweler isod

B

Fel grŵp A, ond wedi’i gyfyngu i gerbydau awtomatig yn unig ac eithrio treisiclau modur awtomatig

Y categorïau uchod gyda chod cyfyngiad 78 ac eithrio B1 awtomatig

C

Unrhyw dreisicl modur (ar wahân i gerbyd pobl anabl) nad yw’n pwyso mwy na 425 kg heb lwyth

B1 (ac eithrio cerbydau pobl anabl a beiciau pedair olwyn)

D

Unrhyw sgwter neu feic modur (gyda cherbyd ochr neu heb gerbyd ochr)

A1 ac A (yn dibynnu ar faint y beic)

E

Moped - gydag injan o faint hyd at 50 cc a chyflymder uchaf o hyd at 50 cilometr yr awr

P
F

Tractor amaethyddol sydd wedi’i osod ar olwynion

F
G

Rholer ffordd

G
H

Cerbyd gosod traciau sy’n cael ei lywio gan ei draciau

H
J

Cerbyd pobl anabl

B1 (wedi’i gyfyngu i gerbydau pobl anabl)

K

Peiriant torri gwair neu gerbyd a reolir gan rywun ar droed

K
L

Cerbyd sy’n cael ei yrru ymlaen yn drydanol (ar wahân i gerbyd pobl anabl neu feic modur)

L
N

Cerbyd sydd wedi’i eithrio rhag treth cerbyd o dan Adran 7(1) o Ddeddf (Trethu) Cerbydau 1971 - sydd wedi’i eithrio rhag treth cerbyd gan nad yw’n teithio mwy na 6 milltir yr wythnos ar ffyrdd, a dim ond wrth basio rhwng darnau o dir ym meddiant ei berchennog

N

Dangos hawl i yrru cerbydau mwy ar drwydded ar wahân

Grŵp

Disgrifiad

Categori ar ôl 1997

HGV 1

Cerbyd dros 3,500 kg, gydag ôl-gerbyd dros 750 kg

CE

HGV 2 neu 3

Cerbyd dros 3,500 kg, gydag ôl-gerbyd hyd at 750 kg

C

HGV 2 neu 3

Cerbyd dros 3,500 kg, gydag ôl-gerbyd bar tynnu dros 750 kg

CE (gyda chod cyfyngiad 79 neu 102)

PSV 1 neu 2

Bws gyda mwy nag 8 o seddi teithwyr, gydag ôl-gerbyd dros 750 kg

DE
PSV 3

Bws gyda mwy nag 8 o seddi teithwyr, gydag ôl-gerbyd hyd at 750 kg

D
PSV 4

Bws gyda mwy na 8 o seddi teithwyr ond nad yw’n fwy na 5.5 metr o hyd

D (gyda chod cyfyngiad 105 neu 79)

HGV 1-3A

Fel grŵp HGV 1, 2 neu 3 ond wedi’i gyfyngu i gerbydau awtomatig yn unig

C neu CE gyda chod cyfyngiad 78

PSV 1-4A

Fel grŵp PSV 1, 2, 3 neu 4 ond wedi’i gyfyngu i gerbydau awtomatig yn unig

D neu DE gyda chod cyfyngiad 78

Trwyddedau a gyhoeddwyd rhwng Mehefin 1990 a Rhagfyr 1996

Rhwng 1990 a 1996, byddai eich trwydded yrru wedi cael ei gwneud o bapur gyda chefndir pinc a gwyrdd.

Cate

Disgrifiad

Categori ar ôl 1997

A

Beic modur gyda cherbyd ochr neu heb gerbyd ochr, gyda chyflymder mwyaf o dros 50 cilometr yr awr neu gyda chynhwysedd injan o dros 50 cc

A1 ac A (yn dibynnu ar faint y beic)

B1

Treisicl modur gyda chyflymder uchaf o dros 50 cilometr yr awr a phwysau heb lwyth nad yw’n fwy na 500 kg

B1 (ac eithrio beiciau pedair olwyn)

B

Cerbyd modur ar wahân i’r rheini yng nghategori A, gyda MAM o hyd at 3,500 kg a gyda ddim mwy na 8 o seddi teithwyr

B *
C1

Cerbyd o faint canolig sy’n pwyso rhwng 3,500 kg a 7,500 kg

C1
C

Cerbyd mawr sy’n pwyso dros 3,500 kg

C
D1

Bws gyda lleiafswm o 9 ac uchafswm o 16 o seddi teithwyr

D1
D

Bws mawr gyda mwy nag 8 o seddi teithwyr

D
E

Cyfuniad o gerbydau yng nghategorïau B, C a D uchod, sy’n tynnu ôl-gerbydau

BE, CE, DE
F

Tractor amaethyddol

F
G

Rholer ffordd

G
H

Cerbyd trac

H
K

Peiriant torri gwair neu gerbyd a reolir gan rywun ar droed

K
L

Cerbyd sy’n cael ei yrru ymlaen yn drydanol

L
N

Cerbyd sydd wedi’i eithrio rhag treth cerbyd o dan Adran 7(1) o Ddeddf (Trethu) Cerbydau 1971 - sydd wedi’i eithrio rhag treth cerbyd gan nad yw’n teithio mwy na 6 milltir yr wythnos ar ffyrdd, a dim ond wrth basio rhwng darnau o dir ym meddiant ei berchennog

N
P

Moped - gydag injan o faint hyd at 50 cc a chyflymder uchaf o hyd at 50 cilometr yr awr

P

*Os bu i chi basio eich prawf categori B (car) cyn 1 Ionawr 1997 byddech chi hefyd wedi cael yr hawl i yrru cerbydau rhwng 3,500 kg a 7,500 kg (a adwaenir bellach fel cerbydau C1 a C1E).

Fodd bynnag, chewch chi ond yrru cerbyd o’r fath a thynnu ôl-gerbyd pan na fydd cyfanswm pwysau'r ddau yn fwy na 8,250 kg.

Gallwch hefyd yrru bws mini gyda hyd at 16 o seddi teithwyr (a adwaenir bellach fel cerbydau D1 a D1E) cyn belled â’ch bod chi ddim yn gyrru am dâl na gwobr.

Additional links

Dod o hyd i hyfforddwyr gyrru

Dod o hyd i’ch hyfforddwyr gyrru wedi’u cymeradwyo agosaf

Allweddumynediad llywodraeth y DU