Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ar ôl llifogydd - clirio

Yma, cewch wybod sut i gael gwared ar ddŵr a mwd ar ôl llifogydd, a’r camau y mae angen i chi eu cymryd er mwyn cadw’n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys archwilio offer trydanol a gwisgo dillad gwarchodol.

Cyn i chi ddechrau clirio ar ôl llifogydd

Cyn i chi ddechrau clirio, dylech:

  • sicrhau ei bod yn ddiogel i chi ddychwelyd i’ch tŷ
  • siarad â’ch cwmni yswiriant i gael gwybod a wnânt drefnu i lanhawyr proffesiynol glirio eich cartref

Os ydych chi wedi gorfod gadael eich cartref oherwydd llifogydd, dywedir wrthych pryd y bydd yn ddiogel i chi ddychwelyd i’ch cartref gan un o’r canlynol:

  • y gwasanaethau brys
  • eich cwmni yswiriant
  • eich cyngor lleol
  • eich cwmni dŵr a charthffosiaeth

Archwilio eich cyflenwad trydan a’ch offer trydanol

Cyn i chi ddechrau clirio:

  • sicrhewch fod y prif gyflenwad trydan wedi cael ei ddiffodd
  • os nad ydych chi’n sicr bod y trydan wedi cael ei ddiffodd, gofynnwch i rywun cymwys wneud hyn
  • peidiwch â chyffwrdd ffynonellau trydan wrth sefyll yn y dŵr
  • sicrhewch fod trydanwr wedi archwilio unrhyw offer trydanol sydd wedi cyffwrdd â’r dŵr cyn i chi eu defnyddio nhw eto

Gwarchod eich hun wrth glirio

Sicrhewch eich bod yn gwisgo dillad gwarchodol wrth glirio ar ôl llifogydd. Gall y dŵr gael ei halogi â charthion, cemegau a gwastraff anifeiliaid, felly bydd rhaid i chi ddiheintio unrhyw beth sydd wedi cyffwrdd â’r dŵr.

Dylech wneud y canlynol bob tro:

  • gwisgo dillad gwarchodol, fel menig rwber a throwsus a siaced sy’n dal dŵr
  • defnyddio mwgwd wyneb
  • golchi eich dwylo â diheintydd os ydych chi wedi cyffwrdd â’r dŵr, â’r mwd neu os ydych chi wedi cyffwrdd ag eitemau sydd wedi cyffwrdd â’r dŵr
  • sicrhau fod unrhyw doriadau neu friwiau agored ar groen sydd yn y golwg yn cael eu gorchuddio gan blastar sy’n dal dŵr

Gofalu am eich iechyd wrth glirio

Gall clirio ar ôl llifogydd fod yn straen, a gallwch ddal afiechydon o’r llygredd neu’r carthion yn y dŵr. Os ydych chi’n dechrau teimlo’n sâl, ffoniwch Galw Iechyd Cymru neu cysylltwch â’ch meddyg teulu.

Dilynwch y dolenni isod i gael mwy o gyngor ynghylch gofalu am eich iechyd ar ôl llifogydd.

Cael gwared ar y dŵr

Ar ôl i lefel y dŵr y tu allan i’ch tŷ ostwng yn is na lefel y dŵr y tu mewn i’ch tŷ, gallwch ddechrau cael gwared ar y dŵr gan ddefnyddio pwmp neu fwced. Gallwch un ai logi neu brynu pwmp a generadur o siop DIY. Sicrhewch eich bod yn rhoi’r generadur y tu allan i osgoi gwenwyn carbon monocsid o’r egsôst.

Glanhau arwynebau yn eich cartref

Yn gyntaf, bydd angen i chi lanhau pob arwyneb sydd wedi cyffwrdd â’r dŵr, yna’u diheintio.

Gallwch chi lanhau arwynebau sydd wedi cyffwrdd â’r dŵr gan ddefnyddio brwsh, dŵr poeth a hylif glanhau’r cartref. Peidiwch ag anghofio glanhau mannau amgaeedig o dan unedau'r gegin neu o dan fyrddau'r llawr. Os yw’r dŵr wedi cael ei halogi ag olew neu ddisel, bydd angen i chi ddefnyddio glanedydd fel hylif golchi llestri.

Ar ôl i chi orffen glanhau, defnyddiwch ddiheintydd y cartref ar bopeth sydd wedi cyffwrdd â’r dŵr.

Bydd angen golchi dillad a dillad gwely sydd wedi cael eu halogi ar dymheredd uchel.

Sychu’r adeilad

Gall sychu gymryd wythnosau neu fisoedd, gan ddibynnu ar ba mor ddifrifol oedd y llifogydd yn ogystal â math a thrwch y deunyddiau adeiladu. Gallwch ddefnyddio eich gwres canolog neu nwy i’ch helpu i sychu'r tŷ ar ôl i’r system wresogi gael ei harchwilio gan beiriannydd cymwysedig. I gael y canlyniadau gorau, dylai’r tymheredd gael ei osod rhwng 20 a 22 gradd canradd.

Gallwch gyflymu’r broses sychu drwy sicrhau bod yr adeilad wedi’i awyru’n dda drwy agor cymaint o ffenestri a drysau â phosib a defnyddio gwyntyll. Fodd bynnag, os ydych chi’n defnyddio dadleithydd i gael gwared ar y dŵr o’r aer yn eich cartref, bydd angen i chi gadw'r drysau a’r ffenestri allanol ar gau

Gwaith ailaddurno mawr – ceisio cyngor proffesiynol

Ewch i geisio cyngor proffesiynol gan adeiladwr os oes arnoch angen gwneud unrhyw waith ailaddurno neu atgyweirio mawr ar eich cartref ar ôl llifogydd. Sicrhewch eich bod yn dewis adeiladwr sydd wedi cael ei argymell gan eich cyngor lleol neu eich cwmni yswiriant. Dilynwch y ddolen isod i gael cyngor cam-wrth-gam ar sut i ddewis adeiladwr da.

Addasu eich cartref i’w warchod rhag llifogydd yn y dyfodol

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod pa newidiadau y gallwch chi eu gwneud i’ch cartref i’w warchod rhag llifogydd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU