Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Addasu eich cartref i’w warchod rhag llifogydd

Gallwch wneud newidiadau parhaol i’ch cartref i leihau difrod gan lifogydd yn y dyfodol. Gall yr addasiadau hyn leihau'r amser a’r gost o ddod dros lifogydd yn sylweddol. Yma, cewch wybod pa fath o newidiadau allwch chi eu gwneud a lle i geisio cyngor proffesiynol.

Addasu eich cartref

Sicrhewch eich bod yn siarad â’ch cwmni yswiriant cyn ymgymryd ag unrhyw waith er mwyn cael gwybod pa waith y gallai eich polisi dalu amdano. Bydd eich cwmni yswiriant fel arfer yn talu am atgyweiriadau a fydd yn adfer eich cartref i gyflwr tebyg i'r hyn ydoedd cyn y llifogydd. Rydych chi’n debygol o orfod talu am unrhyw waith y tu hwnt i hynny eich hun. Mae’r gost o wneud eich cartref yn fwy abl i allu delio â llifogydd yn debygol o fod lawer yn llai na chost clirio ar ôl llifogydd.

Dyma rai addasiadau y byddwch am eu hystyried, o bosib:

  • gosod teils ceramig ar y llawr gwaelod
  • defnyddio rygiau yn hytrach na charpedi wedi’u gosod yn eu lle
  • codi uchder socedi trydanol at o leiaf 1.5 metr uwchben lefel y llawr gwaelod
  • defnyddio plastr calch ar y waliau yn hytrach na phlastr gypswm
  • gosod ceginau dur di-staen, plastig neu bren soled yn hytrach na cheginau asglodfwrdd
  • gosod unedau cegin sy’n sefyll ar eu pennau eu hunain fel y gallwch eu symud os oes angen
  • rhoi prif rannau system wresogi neu system awyru, megis boeler, i fyny’r grisiau neu eu codi'n uwch na’r llawr gwaelod
  • gosod falfiau di-droi-nôl ar bob draen a phibell a fyddai’n gadael i ddŵr ddod drwyddo, fel bod dŵr ond yn llifo un ffordd
  • newid drysau a fframiau ffenestri pren i rai o ddeunydd artiffisial megis UPVC - maent yn haws eu glanhau

Defnyddiwch y diagram oddi ar y ddolen isod i weld lle gallai newidiadau gael eu gwneud yn eich cartref chi.

Ceisiwch gyngor proffesiynol cyn addasu eich cartref

Cyn i chi addasu eich cartref, sicrhewch eich bod yn ceisio cyngor proffesiynol. Gallwch chi ddod o hyd i unigolyn proffesiynol cymwys drwy gysylltu â’r canlynol:

  • Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig,
  • Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain
  • Sefydliad y Peirianwyr Sifil

Dilynwch yr awgrymiadau a welir yn ‘Dewis adeiladwr da’ i’ch helpu i ddod o hyd i rywun i’ch helpu i ymgymryd ag unrhyw waith adeiladu.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU