Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yma, cewch wybod sut i roi gwybod i’ch cwmni yswiriant am ddifrod a wnaed yn sgil llifogydd. Bydd angen i chi gadw cofnod o’r difrod a wnaed yn ogystal ag unrhyw gyswllt rydych chi wedi'i gael â’r cwmni yswiriant.
Mae gwahanol bolisïau yn darparu lefelau gwahanol o yswiriant. Mae’n bosib y cewch newid eitemau sydd wedi eu difrodi gan lifogydd neu gael cymorth proffesiynol i lanhau. Sicrhewch eich bod wedi dod o hyd i’ch dogfennau polisi a'ch bod wedi edrych beth yn union sydd wedi ei yswirio cyn i chi siarad â’ch cwmni yswiriant.
Cysylltwch â’ch cwmni yswiriant – dywedwch wrthynt fod llifogydd wedi cyrraedd eich cartref a bod arnoch eisiau hawlio. Os ydych chi wedi symud i lety arall, rhowch eich manylion cyswllt newydd i’r cwmni.
Mae'n bosib fod gennych un polisi yswiriant ar gyfer difrod i strwythur eich cartref, megis waliau, nenfydau a lloriau, a pholisi arall ar gyfer difrod i gynnwys eich cartref (y pethau sy'n berchen i chi). Os oes gennych chi bolisi â dau gwmni yswiriant gwahanol, dylech chi ffonio'r ddau ohonynt.
Os ydych chi’n rhentu eich cartref, cysylltwch â’ch landlord i sicrhau ei fod wedi cysylltu â’r cwmni sy’n yswirio eich cartref. Bydd angen i chi gysylltu â’ch cwmni yswiriant os oes gennych chi yswiriant ar gynnwys eich cartref. Rhowch wybod iddynt am y llifogydd a dywedwch fod arnoch eisiau hawlio.
Bydd eich cwmni yswiriant yn anfon ‘aseswr colledion’ (rhywun a fydd yn asesu’r difrod) i’ch cartref. Mae’n bosib na fydd yr aseswr colledion yn medru dod ar unwaith os oes llawer o lifogydd wedi bod yn eich ardal.
Pan fyddwch chi’n ffonio'r cwmni yswiriant, sicrhewch eich bod yn cael gwybod:
Pan fyddwch yn dychwelyd i’ch cartref, bydd angen i chi gofnodi’r difrod a wnaed yn sgil llifogydd fel eich bod yn gallu ei ddangos i’r cwmni yswiriant.
Bydd angen i’r aseswr colledion gael gwybod faint o ddifrod y bu i’r llifogydd ei achosi ar gyfer ei asesiad, felly:
Dylech chi gadw cofnod manwl o’r holl alwadau ffôn i’ch cwmni yswiriant ac i unrhyw un sy’n glanhau neu’n atgyweirio eich cartref. Bydd hyn o gymorth i chi pan fyddwch yn siarad â’ch cwmni yswiriant ynglŷn â’ch hawliad. Pan fyddwch chi’n gwneud galwadau, sicrhewch eich bod yn nodi:
Mae hefyd yn bwysig i chi wneud y canlynol:
Sicrhewch nad ydych chi’n taflu dim byd nes bod y cwmni yswiriant yn dweud wrthych chi am wneud hyn (heblaw bwyd sydd wedi llwydo).
Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut i glirio’ch cartref mewn modd diogel ar ôl llifogydd.