Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cyngor am argyfyngau penodol

Mae staff y gwasanaethau brys yn cael eu hyfforddi i ymdopi ag amrywiaeth eang o argyfyngau, ond mae yna dipyn o bethau y gallwch chi eu gwneud i'w helpu nhw ac i helpu eich hun.

Argyfyngau iechyd y cyhoedd

Gwybodaeth a chyngor ynghylch epidemigau a phandemigau sy'n peri risg i iechyd y cyhoedd, gan gynnwys y sefyllfa bresennol gyda ffliw moch.

Tywydd garw, llifogydd a sychder

Gwybodaeth am rybuddion tywydd, sut mae cynllunio ar gyfer tywydd garw ac awgrymiadau ar gyfer delio â llifogydd, sychder a phrinder dŵr.

Terfysgaeth

Mae mwy a mwy o angen i'r cyhoedd fod yn rhan o’r gwaith o atal terfysgaeth, ac mae bygythiadau i ddiogelwch ar gynnydd. Yma, cewch wybod sut y gallwch helpu.

Damweiniau Trafnidiaeth

Gwybodaeth a chysylltiadau y bydd arnoch eu hangen os ceir damwain yn ymwneud â thrafnidiaeth. Mae’r manylion yn sôn am ddamweiniau ar y rheilffordd a’r ffordd a damweiniau’n ymwneud â’r môr ac awyrennau.

Clefydau anifeiliaid a phlanhigion

Epidemigau a phandemigau sy’n effeithio ar anifeiliaid, gan gynnwys ffliw adar a chlwy’r traed a’r genau.

Protestiadau cyhoeddus ac anghydfodau masnach

Canllawiau ar gyfer trefnu a chymryd rhan mewn protestiadau a digwyddiadau gweithredu diwydiannol a chadw o fewn ffiniau’r gyfraith (dilynwch y ddolen gyntaf). I gael mwy o wybodaeth gyffredinol am eich hawl i brotestio, dilynwch yr ail ddolen.

Argyfyngau a digwyddiadau rhyngwladol

Gwybodaeth am ddigwyddiadau rhyngwladol sy’n tarfu ar wasanaethau hanfodol yn y DU, a chyfyngiadau ar deithio dramor. Sut i amddiffyn eich hun mewn ardaloedd lle mae'r risg yn uchel a swyddogaeth yr asiantaethau sy’n darparu cymorth mewn argyfyngau rhyngwladol.

Ynni, cyflenwad pŵer a chyfleustodau

Mae gennych hawl i wasanaeth a threfniadau da pan fydd rhywbeth yn amharu ar eich cyflenwad ynni a dŵr.

Yr amgylchedd adeiledig

Gall methiannau strwythurol gael effaith ddifrifol ar bobl mewn adeiladau ac o’u hamgylch. Gellir osgoi problemau drwy ddilyn y safonau a nodir yn y rheoliadau adeiladu.

Dyma flaenoriaethau'r rheoliadau:

  • diogelu iechyd a diogelwch pawb
  • sicrhau bod yr adeiladau’n defnyddio ynni’n effeithlon
  • gwneud yn siŵr bod yr adeiladau wedi’u cynllunio’n dda ac yn hwylus i gael mynediad atynt

Damweiniau diwydiannol, llygredd amgylcheddol a dadheintio

Sut mae cynllunio ar gyfer adfer ar ôl trychineb yn dilyn tanau mawr a damweiniau diwydiannol. Y broses adfer a chadw’n ddiogel os bydd deunyddiau cemegol, biolegol neu ymbelydrol wedi’u rhyddhau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU