Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Nod y llywodraeth yw lleihau risg argyfyngau fel y gall pobl barhau â’u gwaith bob dydd yn ddi-rwystr ac yn hyderus. Mae hyn yn golygu bod y llywodraeth yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod y DU mor barod ag y bo modd pe ceid argyfwng.
Mae gan y llywodraeth raglen waith gynhwysfawr ar gyfer sicrhau y gellir ymateb yn effeithiol i amrywiaeth o argyfyngau a allai darfu ar y DU ac effeithio ar y wlad.
Mae’r cysyniad o’r ‘gallu i wrthsefyll’ neu ddycnwch yn cael ei ddefnyddio ers tro i ddisgrifio gallu unigolion i wrthsefyll neu i adfer yn rhwydd ac yn sydyn ar ôl gwaeledd neu galedi. Mae’n hawdd ei ddefnyddio i ddisgrifio mudiadau a chymdeithasau hefyd.
Mae’r llywodraeth yn defnyddio ‘gallu i wrthsefyll’ wrth sôn am ddiogelwch cenedlaethol a bod yn barod am argyfyngau. Yn yr ystyr hwn, mae’n golygu gwneud yn siŵr y gall y wlad drwyddi draw ymdopi ag unrhyw argyfwng, ac adfer yn sydyn, boed yr argyfwng hwnnw’n llifogydd mawr, yn ymosodiad terfysgol neu’n ddamwain ddiwydiannol. Mae gan y llywodraeth raglen waith gynhwysfawr er mwyn sicrhau bod y DU yn meddu ar y gallu gorau posib i wrthsefyll amrywiaeth o argyfyngau a allai darfu ar y wlad ac effeithio arni.
Mae’r llywodraeth ganolog yn gweithio i leihau risg argyfyngau, er mwyn sicrhau bod y wlad mor barod â phosib, ac i wneud yn siŵr bod yr ymateb i unrhyw argyfwng yn effeithiol, ni waeth beth sydd wedi ei achosi (ee terfysgaeth, trychineb naturiol, damwain ddiwydiannol).
Mae gweinyddiaethau datganoledig yn gweithio’n agos â’r llywodraeth ganolog i sicrhau dull gweithredu sy’n effeithiol ac wedi ei gydlynu. Defnyddiwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth.
Mae gan ranbarthau Lloegr swyddogaeth bwysig o ran paratoi at argyfyngau ac ymateb iddynt. Mae’r ddolen isod yn disgrifio gwaith y timau rhanbarthol yn swyddfeydd y llywodraeth yn y rhanbarthau.
Mae’r ddolen isod yn disgrifio’r gwaith sy’n cael ei wneud gan ymatebwyr lleol dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (ee gwasanaethau brys, awdurdodau lleol), a rôl fforymau gwrthsefyll lleol fel y brif ffordd i ymatebwyr gydweithredu ar lefel leol.
Gallwch weld gwybodaeth fanylach am y testunau hyn i gyd ar wefan UK Resilience drwy ddefnyddio’r dolenni isod.