Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Beth all grwpiau gwirfoddol a chymunedol ei wneud

Yma, cewch wybod beth all grwpiau gwirfoddol a chymunedol ei wneud i baratoi at argyfyngau, a sut mae'r gwasanaethau brys ac ymatebwyr eraill yn gweithio'n agos gyda'r sector gwirfoddol.

Partneriaid yn y sector gwirfoddol

Partneriaid yn y sector gwirfoddol yw rhai o'r prif fudiadau yn y sector gwirfoddol y mae'r gwasanaethau brys ac ymatebwyr eraill yn gweithio gyda nhw i baratoi at argyfyngau. I gael gwybod mwy, dilynwch y ddolen isod.

Dod yn wirfoddolwr

Ceir llawer o fudiadau gwirfoddol ac amrywiol weithgareddau sy’n rhan bwysig o fod yn barod am argyfwng.

Os hoffech wirfoddoli, cysylltwch â mudiadau gwirfoddol yn eich ardal chi, sy'n cynnwys y Groes Goch Brydeinig a’r Fyddin Diriogaethol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r mudiadau a restrir isod.

Neu fe allwch gael gwybod am gyfleoedd gwirfoddoli a chwilio am gyfleoedd o’r fath drwy ddilyn y dolenni isod.

Sut y gall grwpiau gwirfoddol a chymunedol gymryd rhan

Gall grwpiau gwirfoddol a chymunedol gyfrannu at y gwaith o baratoi at argyfyngau a chymryd rhan mewn gwaith ymatebol, a bod yn rhan bwysig o hynny.

Ymgysylltu’r sector gwirfoddol ar lefel genedlaethol

Ar lefel genedlaethol, mae’r sector gwirfoddol wedi datblygu dull gweithredu cydlynus i gynllunio ei gyfraniad ar gyfer paratoi at argyfyngau.

Mae Gweithgor a Fforwm Diogelwch Sifil y Sector Gwirfoddol wedi cael eu cynllunio gan yr Ysgrifenyddiaeth Argyfyngau Sifil Posibl a’r Groes Goch Brydeinig.

Nod y gweithgor a’r fforwm yw adnabod cyfraniad y sector gwirfoddol at drefniadau diogelu’r cyhoedd yn y DU a sicrhau bod y defnydd gorau posib yn cael ei wneud o’r cyfraniad hwnnw. Ar hyn o bryd, mae yna 20 mudiad gwirfoddol sy’n aelodau o’r fforwm, ac mae ganddynt swyddogaeth genedlaethol neu ar draws y DU i ddiogelu’r cyhoedd. Mae’r fforwm yn darparu cysylltiadau rhwng y sector gwirfoddol, y llywodraeth ganolog ac awdurdodau statudol.

Pwrpas Pwyllgor Brys y Cymdeithasau Cymorth Gwirfoddol Cenedlaethol (NVASEC) yw cydlynu swyddogaeth gynorthwyol y tair cymdeithas cymorth gwirfoddol: y Groes Goch Brydeinig, Ambiwlans Sant Ioan a Chymorth Cyntaf Sant Andreas.

Mae NVASEC yn sicrhau bod y cymdeithasau cymorth gwirfoddol yn datblygu polisïau cydlynol sy’n cyd-fynd â’r fframwaith cyffredin a sefydlwyd gan y llywodraeth ganolog. Mae hefyd yn caniatáu i’r cymdeithasau cymorth gwirfoddol gysylltu'n effeithiol â chyrff cynrychioliadol mudiadau ymateb lleol.

Ymgysylltu’r sector gwirfoddol ar lefel ranbarthol

Ar lefel ranbarthol, bydd cynrychiolydd o’r sector gwirfoddol yn un o aelodau craidd y Fforymau Gwrthsefyll Rhanbarthol. Mae’r cynrychiolydd yn gweithredu fel pont rhwng Gweithgor Diogelwch Sifil y Sector Gwirfoddol, NVASEC a'r lefel leol.

Gallwch ddod o hyd i’ch Fforwm Gwrthsefyll Rhanbarthol agosaf ar wefan UK Resilience.

Mewn rhai amgylchiadau, gall argyfyngau olygu bod mwy o ofyn am adnoddau na’r hyn y gall y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol ac ymatebwyr lleol eraill ei gynnig. Mae gan y sector gwirfoddol swyddogaeth bwysig o ran cynorthwyo’r gwasanaethau statudol i ymateb mewn rhai argyfyngau.

Bydd yr asiantaethau statudol yn ymwybodol o’r mathau o wasanaethau y gall y sector gwirfoddol eu cynnig, ac yn eu cynnwys mewn trefniadau cynllunio lleol pan fydd hynny’n briodol. Felly, er enghraifft, mae’n bosib y bydd gwasanaethau chwilio ac achub a chymorth dyngarol yn cael eu cynnwys yn rhan o’r trefniadau ymateb. Mae'n bosib y bydd yr asiantaethau statudol hefyd yn defnyddio mudiadau gwirfoddol i ôl-lenwi rhai gwasanaethau na fyddai'n cael yr un sylw wrth i adnoddau gael eu defnyddio at ddibenion eraill, i ddelio â chanlyniadau digwyddiad mawr.

Gall y sector gwirfoddol ddarparu cymorth mewn nifer o feysydd generig: lles; gofal cymdeithasol a seicolegol ar ôl y digwyddiad; cymorth meddygol; gwasanaeth chwilio ac achub; trafnidiaeth, a chyfathrebu, er enghraifft drwy ddarparu cyfieithwyr neu ddehonglwyr.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU