Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yma, fe welwch wybodaeth am y risgiau penodol rydych chi’n eu hwynebu yn eich ardal chi, a sut y mae’r wybodaeth honno’n cael ei chydlynu.
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i ddarparu cyngor a chymorth i'r cyhoedd ac i fusnesau yn eu hardaloedd. Bydd diogelwch sifil yn cael ei drefnu’n lleol drwy Fforymau Gwrthsefyll Rhanbarthol a’r gweinyddiaethau datganoledig, ac yn lleol drwy’r Fforymau Gwrthsefyll Lleol.
Mae Fforymau Gwrthsefyll Rhanbarthol yn cael eu sefydlu ar sail rhanbarthau swyddfeydd y llywodraeth. Maent yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr o’r gwasanaethau brys ac ymatebwyr eraill er mwyn cydlynu’r gwaith cynllunio ar lefel ranbarthol. Gallwch ddod o hyd i’ch Fforwm Gwrthsefyll Rhanbarthol agosaf ar wefan UK Resilience.
Drwy’r Fforwm Gwrthsefyll Lleol yn bennaf y mae gwasanaethau brys ac ymatebwyr eraill yn cydweithredu ar lefel leol. Mae Fforymau Gwrthsefyll Lleol yn cael eu sefydlu ar sail ardaloedd yr heddlu. Fe’u sefydlir gan y gyfraith, ac maent yn dwyn ynghyd y sefydliadau hynny y mae’r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl yn berthnasol iddynt, sef y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, cyrff y GIG, rhai o asiantaethau’r llywodraeth, cwmnïau cyfleustodau a thrafnidiaeth.
Bydd Fforymau Gwrthsefyll Lleol yn cynnig proses i’r asiantaethau hyn allu darparu cyngor cyffredinol am risgiau, cytuno ar gynlluniau amlasiantaethol a chynnal trefniadau ar gyfer rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd.
Hefyd, o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl, o fis Mai 2006 ymlaen, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i roi cyngor a chymorth i fusnesau a mudiadau gwirfoddol o ran rheoli parhad y busnes.
Mae Cofrestrau Risg Cymunedol wedi cael eu llunio ledled y DU gan y gwasanaethau brys ac ymatebwyr eraill fel ffordd o asesu’r risgiau y gallai ardal benodol eu hwynebu ac effaith y rhain ar yr ardal honno.
I weld eich Cofrestr Risg Gymunedol dewiswch eich rhanbarth yn y rhestr isod: