Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyngor am argyfyngau cyffredinol

Mae yna lawer o bethau y gallwch chi eich hun ei wneud mewn argyfwng. Boed yr argyfwng yn dân, yn fom neu’n ddamwain, cofiwch beidio â chynhyrfu, a gwrandewch ar gyngor y gwasanaethau brys.

Diogelwch ac atal tân

  • ewch ati i wneud yn siŵr bod cyn lleied â phosib o bethau a allai achosi tân yn eich cartref
  • gosodwch larymau mwg – o leiaf un ar bob llawr – a gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio
  • mae’r rhan fwyaf o farwolaethau a damweiniau'n digwydd pan fydd pobl yn cysgu - cynlluniwch lwybr dianc i'w ddefnyddio pe bai tân yn cychwyn yn ystod y nos
  • os oes tân, ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999
  • peidiwch byth â defnyddio’r lifft
  • os oes mwg, arhoswch yn agos at y llawr, lle mae'r aer yn lanach
  • os yw drws yn teimlo’n boeth, peidiwch â’i agor, gan fod hynny fwy na thebyg yn golygu fod yna dân ar yr ochr arall

Bomiau

Os ceir rhybudd o fom yn eich gweithle, dilynwch gyngor y rheini sy’n gyfrifol. Os bydd bom yn ffrwydro yn eich adeilad, ceisiwch ddod o hyd i’r ffordd fwyaf diogel o ddianc.

Os ydych yn sownd mewn rwbel:

  • arhoswch yn agos at wal a tharo'r peipiau fel y gall achubwyr eich clywed
  • peidiwch â defnyddio matsis na thanwyr rhag ofn fod nwy yn gollwng

Os oes bom yn ffrwydro y tu allan i’ch adeilad, arhoswch y tu mewn (yn ddigon pell o ffenestri, lifftiau a drysau allanol) rhag ofn fod yna fom arall yn yr ardal. Os gwelsoch y ffrwydrad, arhoswch yn yr ardal mewn man diogel a rhoi gwybod i’r heddlu beth welsoch chi.

Erbyn heddiw, mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn meddu ar y gallu i ddiheintio nifer fawr o bobl yn gyflym. Mae hyn yn cynnwys:

  • golchi gyda dŵr a sebon
  • gwisgo mewn dillad dros dro

Mae’n bwysig bod hyn yn digwydd yn y fan a’r lle fel nad yw mannau eraill, gan gynnwys cartrefi, yn cael eu heintio. Os byddai angen, byddech yn cael eich asesu gan un o weithwyr y gwasanaeth iechyd hefyd.

Digwyddiad cemegol, biolegol neu radiolegol

Ym mhob un o’r sefyllfaoedd hyn – peidiwch â chynhyrfu, meddyliwch cyn gwneud rhywbeth a gwrandewch ar gyngor y gwasanaethau brys

Os ceir digwyddiad cemegol, biolegol neu radiolegol, ewch o'r man peryglus.

Arhoswch i’r gwasanaethau brys gyrraedd a'ch archwilio ac, os oes angen, eich diheintio. Os byddwch yn mynd adref heb eich trin fe allech heintio eraill a gwneud unrhyw ddigwyddiad yn waeth.

Os ceir toriad pŵer difrifol, diffoddwch offer trydanol a fydd yn dod ymlaen yn awtomatig pan fydd y pŵer yn dod yn ôl. Y rheswm dros hyn yw osgoi gorlwytho’r pŵer os bydd amryw o bethau’n ailddechrau'r un pryd. Gwrandewch ar orsaf radio leol i gael cyngor a'r wybodaeth ddiweddaraf, gan ddefnyddio radio sy'n gweithio gyda batri.

Ceir cynlluniau argyfwng ym mhob ardal yn y DU

Mae gan wasanaeth yr heddlu, y gwasanaeth tân a'r gwasanaeth ambiwlans gynlluniau cymeradwy ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau. Mae’r rhain yn ymdrin ag unrhyw argyfwng, o danau i ffrwydradau, boed yn eich cartref, yn eich ysgol neu’n effeithio ar y rhwydwaith trafnidiaeth.

Mae offer brys, brechlynnau a gwrthfiotigau yn cael eu storio o amgylch y DU ac ar gael yn gyflym i feddygon.

Ymarferion cynllunio ar gyfer argyfwng

Bob blwyddyn, bydd nifer o ymarferion yn cael eu cynnal gyda'r gwasanaethau brys a'r holl asiantaethau sy'n gyfrifol am adfer. Mae’r ymarferion hyn yn gweld sut rydym yn ymateb i amrywiaeth o argyfyngau, gan gynnwys terfysgaeth, drwy brofi pa mor barod ydyn ni.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU