Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gwerthuso swyddi yw lle mae cyflogwr yn penderfynu pa mor bwysig yw swyddi unigol mewn cwmni. Mae arfarnu swydd yn ffordd i chi a’ch cyflogwr adolygu eich perfformiad yn y gwaith. Yma, cewch wybod sut mae gwerthuso ac arfarnu swyddi yn gweithio, beth yw'r buddion, a sut mae apelio os ydych chi'n anghytuno â nhw.
Gwerthuso swydd yw lle mae cyflogwr yn penderfynu pa mor bwysig yw nifer o wahanol swyddi yn y cwmni.
Caiff swyddi eu gwerthuso yn aml ar yr adegau canlynol:
Wrth werthuso swydd, mae'n rhaid i gyflogwr edrych ar rôl eich swydd, ac nid arnoch chi fel person, er mwyn bod yn deg.
Mae ar nifer o gwmnïau angen gwerthuso swyddi gan ei bod yn anodd i’r adran Adnoddau Dynol wybod am bob swydd yn fanwl.
Bydd gwerthuso swyddi yn dod yn bwysicach pan fydd nifer cyflogeion y cwmni’n tyfu. Os yw eich cwmni wedi tyfu’n ddiweddar, mae’n bwysig bod y cwmni’n sicrhau’r canlynol:
Mae'n bwysig bod eich cyflogwr yn rhoi digon o wybodaeth i chi pan fydd yn gwerthuso swydd.
Dylai sicrhau’r canlynol:
Gall gwerthuso eich swydd fod o fudd i chi a’ch rôl. Wrth i’r cwmni edrych yn agos ar rolau, bydd yn ei alluogi i wneud y canlynol:
Os ydych yn teimlo i werthusiad eich swydd fod yn annheg, dylech gysylltu â’r adran Adnoddau Dynol.
Os nad oes gan eich cwmni adran Adnoddau Dynol, gallwch geisio cyngor annibynnol gan Acas.
Bydd cyflogwyr yn arfarnu swyddi, neu weithiau'n arfarnu perfformiad, er mwyn adolygu eich perfformiad presennol yn y gwaith, ac er mwyn helpu i wella eich perfformiad yn y dyfodol. Gellir hefyd arfarnu swydd i benderfynu a fyddwch yn cael bonws am berfformiad da yn y gwaith ai peidio.
Bydd y rhan fwyaf o gyflogeion yn cael eu harfarnu'n ffurfiol unwaith y flwyddyn, er y mae'n bosib y bydd cyflogeion newydd yn cael eu harfarnu mwy nag unwaith.
Er y byddwch yn cael eich arfarnu’n ffurfiol unwaith y flwyddyn, dylai eich perfformiad gael ei adolygu yn barhaus. Mae’n bosib y cewch adolygiadau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Bydd yr adolygiadau hyn yn rhoi cyfle i chi eistedd i lawr gyda’ch rheolwr a phenderfynu sut rydych chi’n dod yn eich blaen a sut gallwch chi wella.
Dylech weld adroddiadau eich asesiadau i gyd a chael y cyfle i ddweud a ydych chi’n cytuno â nhw ai peidio.
Mae’n bwysig bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei gadw o unrhyw asesiad.
Bydd golwg y ffurflenni hyn yn wahanol ar gyfer pob cwmni, ond dylai’r rhan fwyaf o ffurflenni gynnwys y canlynol:
Bydd y dull hwn o arfarnu fel arfer yn rhestru’r gwahanol bethau sy’n cael eu hasesu, megis ansawdd eich gwaith. Yna, cewch eich graddio yn unol â pha mor dda rydych chi wedi perfformio yn y maes hwnnw, er enghraifft:
Gyda’r dull hwn o arfarnu, bydd yn rhaid i chi a’ch rheolwr gytuno ar amcanion ar ddechrau’r asesiad. Yna, cewch eich arfarnu ar sail pa mor dda rydych wedi bodloni'r amcanion hynny.
Gall arfarnu eich swydd helpu eich perfformiad yn y gwaith drwy nodi eich cryfderau a’ch gwendidau, a gall eich helpu i ddatblygu eich gyrfa. Gall arfarnu eich swydd hefyd helpu i amlygu unrhyw broblemau y gallech fod yn eu cael gyda’ch gwaith, a fyddai, o bosib, yn eich atal rhag symud ymlaen.
Dylai eich cwmni gael system apelio. Dylai rheolwr uwch na’r unigolyn a wnaeth eich arfarniad ddelio â’ch apêl. Mae gennych chi’r hawl i gael cymorth gan gynrychiolydd undeb neu unigolyn o’ch dewis chi; nid oes yn rhaid iddo fod yn rhywun o’r gwaith.
I gael gwybod mwy am broses apelio eich cwmni, dylech siarad â’ch adran Adnoddau Dynol. Os nad oes gan eich cwmni adran Adnoddau Dynol, gallwch geisio cyngor annibynnol gan Acas.