Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Data personol: beth y gall eich cyflogwr ei gadw

Mae angen i bob cyflogwr gadw rhai cofnodion penodol amdanoch. Mae rhai o’r rhain yn ofynnol yn ôl y gyfraith, ac mae rhai at ddibenion eich cyflogwr. Yma, cewch wybod pa wybodaeth sydd wedi ei chadw amdanoch chi a chewch wybod am eich hawl i’w gweld.

Pa wybodaeth sy’n cael ei chadw ar gofnod

Dylai pob cyflogwr gadw manylion personol pob gweithiwr, sy’n cynnwys y canlynol:

  • enw
  • cyfeiriad
  • dyddiad geni
  • rhyw
  • addysg a chymwysterau
  • profiad gwaith
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • cod treth
  • manylion unrhyw anabledd
  • manylion cyswllt mewn argyfwng

Bydd cyflogwr hefyd yn cadw manylion megis:

  • hanes eich cyflogaeth gyda'r sefydliad
  • telerau ac amodau eich cyflogaeth – cyflog, oriau gwaith, gwyliau, budd-daliadau
  • manylion eich absenoldeb
  • manylion unrhyw ddamweiniau sy’n gysylltiedig â’r gwaith
  • manylion unrhyw hyfforddiant a gawsoch
  • manylion unrhyw gamau disgyblu

Rhesymau pam y cedwir cofnodion personél

Dylai eich cyflogwr roi gwybod i chi:

  • pa gofnodion a gedwir a sut cânt eu defnyddio
  • cyfrinachedd cofnodion adnoddau dynol a chofnodion personol
  • sut y gall y cofnodion hyn helpu eich hyfforddiant a’ch datblygiad

Bydd cyflogwr yn cadw gwybodaeth bersonél amdanoch oherwydd bydd yn ei alluogi i wneud y canlynol:

  • sicrhau eich bod yn cael y cyflog, y gwyliau, a’r pensiwn cywir, yn ogystal â hawliau a budd-daliadau eraill y dylech eu cael
  • gwneud penderfyniadau wedi’u seilio ar ffaith yn hytrach na'u gwneud drwy ddyfalu
  • cadw cofnod o absenoldebau, salwch a chamau disgyblu
  • gwybod pa adnoddau sydd ar gael iddo

Bydd cofnodion personél cywir hefyd yn helpu wrth recriwtio, hyfforddi a datblygu, a dyrchafu.

Cael gweld yr wybodaeth a gedwir amdanoch chi

Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn rhoi'r hawl i chi gael gwybod pa wybodaeth sy'n cael ei chadw amdanoch.

Mae’r Ddeddf yn sicrhau bod gwybodaeth bersonol a gedwir gan gyflogwyr:

  • yn ddiogel
  • yn cael ei chadw’n deg ac yn gyfreithlon
  • yn gywir ac yn gyfoes
  • yn cael ei chadw at ddibenion cyfyngedig
  • ddim yn cael ei chadw am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol

Er mwyn cael gwybod pa wybodaeth bersonol amdanoch chi sy'n cael ei chadw, dylech siarad â'ch cyflogwr. Bydd gan eich cyflogwr 40 diwrnod calendr i ddarparu copi o'ch gwybodaeth i chi.

Os oes gennych chi gŵyn am sut y deliwyd â’ch gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef awdurdod annibynnol wedi’i sefydlu er mwyn diogelu gwybodaeth bersonol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU