Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut i wneud cais am Fenthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa

Os hoffech gael pecyn cais ar gyfer Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa, y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ffonio 0800 585 505. Ond cyn i chi wneud cais, mae'n bwysig eich bod yn siŵr mai Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa yw'r ffordd orau i chi gael help i dalu am gwrs dysgu sy'n arwain at waith.

Cael pecyn cais

Ffoniwch 0800 585 505 i gael pecyn cais

Ffoniwch 0800 585 505 i gael pecyn cais, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa. Gallwch hefyd drefnu i gynghorydd eich ffonio'n ôl yn rhad ac am ddim, neu gysylltu dros yr e-bost.

Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen dylech ei hanfon i'r banc yr ydych wedi penderfynu gwneud cais iddo.

A yw Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa yn addas i chi?

Cyn i chi wneud cais, mae'n bwysig ystyried ai Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa yw'r dewis iawn i chi. Dylai'r camau isod eich helpu i benderfynu.

Cam un: gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried eich holl opsiynau cyllid

Nid yw Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa yn addas i bawb: gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried yr holl opsiynau cyllid.

Efallai y gallech gael cymorth ariannol nad oes yn rhaid i chi ei dalu'n ôl – y Grant Dysgu i Oedolion er enghraifft, neu gronfeydd cefnogi dewisol ar gyfer dysgwyr (sydd ar gael gan eich coleg o bosib).

Cam dau: ydych chi'n gymwys?

Er mwyn bod yn gymwys, mae angen i chi a'ch cwrs fodloni rhai amodau. Mae'r rhain yn seiliedig ar y math o gwrs y mae arnoch eisiau ei wneud, eich statws preswylio ac ar ychydig o ffactorau eraill. Gweler 'Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa: beth ydyn nhw?' i gael manylion.

Cam tri: gwnewch yn siŵr bod y cwrs yn addas i chi

Gan y bydd yn rhaid i chi dalu'ch benthyciad yn ôl hyd yn oed os na fyddwch yn cwblhau'ch cwrs, mae'n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn barod i ymrwymo iddo.

Cam pedwar: gwnewch yn siŵr eich bod wedi holi ynghylch y darparwr dysgu

Gofynnwch i'ch darparwr dysgu a ydynt ar y Gofrestr Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa ar gyfer darparwyr dysgu (neu a ydynt yn fodlon cofrestru ar gyfer y Gofrestr). Dylai darparwyr dysgu ffonio 0845 000 0045 i gael mwy o wybodaeth am gofrestru.

Ond mae'n bwysig cofio mai helpu i weinyddu'r benthyciadau yw pwrpas y gofrestr – nid yw'r ffaith bod darparwr dysgu wedi'i gynnwys ar y gofrestr yn gwarantu ansawdd na sefydlogrwydd ariannol.

Os na fyddwch chi'n cwblhau'r cwrs, bydd yn dal yn rhaid i chi dalu'r benthyciad yn ôl. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os byddwch yn gadael y cwrs oherwydd eich bod yn anfodlon â'i ansawdd, neu os bydd darparwr y cwrs yn mynd i'r wal.

Felly cyn i chi ddewis darparwr dysgu, mae'n werth gofyn ychydig o gwestiynau amdanynt. Gallai’r rhain gynnwys:

  • os mae cymwysterau yn cael eu cynnig, a ydynt yn rhai cydnabyddedig?
  • beth yw polisi'r darparwr dysgu ar ad-daliadau (rhag ofn y bydd eich amgylchiadau'n newid ac y bydd angen i chi adael y cwrs – dros dro neu'n barhaol)?
  • a gynigir lefel benodol o gefnogaeth gan diwtoriaid – ac a yw'r gefnogaeth yn cael ei darparu wyneb-yn-wyneb, dros yr e-bost ynteu dros y ffôn?
  • a ydynt yn fodlon anfon rhai enghreifftiau o'u deunyddiau dysgu i chi?
  • a ydynt yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â phobl sydd wedi cwblhau'r cwrs?

Cam pump: gwnewch yn siŵr y gallwch fforddio'r ad-daliadau

Cyfrifwch faint y byddai angen i chi ei fenthyg, a beth fyddai'r ad-daliadau ar ôl i chi adael y cwrs. Gwnewch yn siŵr y bydd gennych ddigon o arian ar ôl o'ch cyllideb fisol i wneud yr ad-daliadau.

Mae hefyd yn werth meddwl i ba raddau yr ydych yn disgwyl i'r cwrs wella'ch rhagolygon gyrfa er mwyn cyfiawnhau'r swm y mae arnoch eisiau ei fenthyg. Os byddwch angen trafod eich opsiynau gyrfa, mae digonedd o gyngor ar gael.

Os ydych yn cael budd-daliadau

Os ydych yn cael budd-daliadau, gallai Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa newid yr hyn y mae gennych hawl iddo. Felly cyn i chi wneud cais, cysylltwch â'r swyddfa budd-daliadau berthnasol i gael gwybod sut y bydd yn effeithio ar eich hawliad.

Pryd i wneud cais

Fel arfer, bydd y banc yn cymryd rhwng chwe wythnos a thri mis i brosesu eich cais – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno'ch cais mewn da bryd.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y banc yn anfon cytundeb credyd atoch. Bydd angen i chi a'ch darparwr dysgu lofnodi hwn, felly bydd angen i chi wneud yn siŵr eu bod ar y Gofrestr Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa ar gyfer darparwyr dysgu (neu eu bod yn fodlon cofrestru ar gyfer y gofrestr).

Os caiff eich cais ei wrthod, gallwch wneud cais i un o'r banciau eraill sy'n rhan o'r cynllun.

Os oes gennych Fenthyciad Datblygu Gyrfa yn barod

Os ydych wedi cael un o'r Benthyciadau Datblygu Gyrfa a oedd ar gael tan fis Mehefin 2009, ni allwch gael Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa ar gyfer yr un cwrs.

Additional links

Eich cwestiynau wedi’u hateb

Derbyn cyngor diduedd am ddim ar Fenthyciadau Datblygiad Gyrfa. Ffoniwch ymgynghorydd ar 0800 585 505

Meithrin gwell sgiliau

Allweddumynediad llywodraeth y DU