Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Benthyciad banc yw Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa, a byddwch yn talu'r arian yn ôl ar ôl i chi adael eich cwrs. Mae'n bwysig gwneud yn siŵr cyn gwneud cais y byddwch yn gallu fforddio'r ad-daliadau.
Byddwch yn dechrau talu'r benthyciad yn ôl ar ôl i chi adael eich cwrs. Pan fyddwch yn trefnu'r benthyciad, byddwch yn cytuno ar amserlen o ad-daliadau misol gyda'r banc.
Cofiwch ddweud wrth y banc os bydd eich manylion personol neu'ch amgylchiadau ariannol yn newid.
Bydd y Cyngor Dysgu a Sgiliau yn talu'r llog ar eich Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa tra byddwch yn astudio – ac am fis ar ôl i chi adael eich cwrs.
Ar ôl hyn, byddwch chi'n talu'r llog ar y gyfradd a bennwyd wrth drefnu'r benthyciad yn y lle cyntaf. Caiff cyfraddau llog ar y benthyciadau eu pennu fel eu bod yn gystadleuol â benthyciadau personol eraill sydd 'heb eu gwarantu' ac sydd ar gael yn fasnachol.
Ar hyn o bryd, mae banciau yn cynnig Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa ar gyfradd is i gwsmeriaid o 9.9% y flwyddyn, sy’n gyfatebol i gyfradd ganrannol flynyddol o 5.6% dros oes y benthyciad. Fodd bynnag, gall cyfraddau llog amrywio o fanc i fanc. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r banciau sy’n cymryd rhan.
Mae'n hollbwysig eich bod yn meddwl yn ofalus faint mae angen i chi ei fenthyg a faint y gallwch fforddio ei dalu'n ôl.
Casglwch fanylion eich incwm a'ch gwariant tebygol ar ôl i chi orffen eich cwrs, a'u defnyddio i lunio cyllideb. Byddwch yn realistig ynghylch faint o arian fydd gennych dros ben bob mis i wneud ad-daliadau.
Mae cyfryngau rhyngweithiol ar gael yn 'Cyllidebu' i'ch helpu i lunio cyllideb.
Os ydych chi'n meddwl y bydd yn anodd i chi ad-dalu'r Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa (neu un o'r Benthyciadau Datblygu Gyrfa a oedd ar gael tan fis Mehefin 2009), mae'n bwysig eich bod yn siarad â'ch banc cyn gynted â phosib.
Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, mae'n bosib y bydd y banc yn fodlon gadael i chi ohirio'ch ad-daliadau – ond bydd angen i chi a'r banc gytuno ar hyn cyn y byddwch yn dechrau ad-dalu'r benthyciad.
Byddwch yn dal yn gyfrifol am dalu'r benthyciad yn ôl hyd yn oed os na fyddwch yn cwblhau'ch cwrs. Mae hyn yn berthnasol beth bynnag yw'ch rheswm dros beidio â chwblhau'r cwrs, hyd yn oed nad chi wnaeth y penderfyniad (er enghraifft, oherwydd bod darparwr y cwrs wedi mynd i'r wal).
Felly, mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod y cwrs yn addas i chi, a chanfod pwy yw darparwr y cwrs.
Gweler 'Sut i wneud cais am Fenthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa' i gael help i benderfynu a yw Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa yn addas i chi.