Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Os oes gennych Fenthyciad Datblygu Gyrfa yn barod

Ni allwch wneud cais am Fenthyciadau Datblygu Gyrfa mwyach: maent wedi cael eu disodli gan Fenthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa. Os oes gennych Fenthyciad Datblygu Gyrfa yn barod, bydd yn dal yn rhaid i chi dalu'r arian yr ydych wedi'i fenthyg yn ôl.

Beth sydd wedi digwydd i Fenthyciadau Datblygu Gyrfa?

Mae Benthyciadau Datblygu Gyrfa wedi cael eu disodli gan Fenthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa.

Benthyciadau banc yw Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa – yn yr un modd â Benthyciadau Datblygu Gyrfa – a gellir eu defnyddio i helpu i dalu am gwrs dysgu. Fodd bynnag, mae amodau'r benthyciad yn wahanol.

Os ydych wedi cael Benthyciad Datblygu Gyrfa, bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl

Ni chewch wneud cais am Fenthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa os oes gennych eisoes Fenthyciad Datblygu Gyrfa ar gyfer yr un cwrs.

Os ydych wedi llofnodi cytundeb credyd gyda banc i gael Benthyciad Datblygu Gyrfa, bydd yn dal yn rhaid i chi dalu'r benthyciad yn ôl dan y telerau y gwnaethoch gytuno arnynt gyda'r banc.

Ond, gallwch wneud cais am Fenthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa os byddwch yn dechrau cwrs newydd – os ydych wedi talu'ch Benthyciad Datblygu Gyrfa yn ôl.

Efallai y bydd yn dal yn bosib i chi gynyddu eich Benthyciad Datblygu Gyrfa

Os bydd angen rhagor o arian arnoch, mae'n bosib y bydd eich banc yn fodlon cynyddu eich Benthyciad Datblygu Gyrfa. Cysylltwch â'r banc i gael gwybod mwy.

Y swm mwyaf y gallwch ei fenthyg drwy Fenthyciad Datblygu Gyrfa yw £8,000, ac ni allwch newid i Fenthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa er mwyn benthyg mwy o arian.

Additional links

Eich cwestiynau wedi’u hateb

Derbyn cyngor diduedd am ddim ar Fenthyciadau Datblygiad Gyrfa. Ffoniwch ymgynghorydd ar 0800 585 505

Meithrin gwell sgiliau

Allweddumynediad llywodraeth y DU