Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallai Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa eich helpu i dalu am gwrs sy'n gwella eich sgiliau gwaith neu'ch rhagolygon gyrfa. Benthyciad banc yw Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa, felly bydd yn rhaid i chi dalu'r arian yn ôl ar ôl i chi adael eich cwrs. Ond, ni fyddwch yn talu llog ar gyfer y cyfnod y byddwch yn astudio.
Ydych chi'n meddwl y byddai mynd yn ôl i astudio yn rhoi hwb i'ch rhagolygon gyrfa? Ydych chi'n bwriadu newid gyrfa ond bod angen i chi ailhyfforddi? Ydych chi eisoes yn astudio ond bod arnoch eisiau datblygu eich sgiliau ymhellach drwy ddilyn cwrs ychwanegol?
Gallai Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa eich helpu i dalu am gwrs sy'n gwella eich rhagolygon gyrfa.
Mae'r Cyngor Dysgu a Sgiliau yn talu'r llog ar eich benthyciad tra byddwch yn astudio Benthyciad banc yw'r Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa. Byddwch yn gwneud cytundeb gyda banc sy'n rhan o'r cynllun i fenthyg swm rhwng £300 a £10,000. Ar ôl i'ch cwrs ddod i ben, byddwch yn talu'r arian yn ôl yn y ffordd arferol.
Y gwahaniaeth gyda Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa yw bod y Cyngor Dysgu a Sgiliau yn talu'r llog ar y benthyciad tra byddwch yn astudio – ac am fis ar ôl hynny.
Ar ôl hyn, byddwch yn talu llog ar y gyfradd a bennwyd pan drefnwyd y benthyciad. Caiff cyfraddau llog ar y benthyciadau eu pennu fel eu bod yn gystadleuol â benthyciadau personol 'heb eu gwarantu' eraill sydd ar gael yn fasnachol.
Ar hyn o bryd, mae banciau yn cynnig Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa ar gyfradd is i gwsmeriaid o 9.9% y flwyddyn, sy’n gyfatebol i gyfradd ganrannol flynyddol o 5.6% dros oes y benthyciad. Fodd bynnag, gall cyfraddau llog amrywio o fanc i fanc. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r banciau sy’n cymryd rhan.
Peidiwch ag anghofio nad yw Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa i bawb a bod mathau eraill o gymorth ariannol ar gael. Gweler ‘Cymorth gyda chostau dysgu: cyflwyniad’ am fanylion.
Dyma'r cyrsiau y gallwch gael Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa ar eu cyfer
Gall Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa helpu i ariannu ystod eang o gyrsiau sy'n para hyd at ddwy flynedd (neu dair blynedd os yw'r cwrs yn cynnwys blwyddyn o brofiad gwaith).
Nid oes rhaid i'r cwrs arwain at gymhwyster, ond rhaid iddo fod o fudd i'ch gyrfa. Cewch wybodaeth fanwl yn y pecyn cais, ond yn gyffredinol gallai Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa fod yn opsiwn ar gyfer:
Costau y gallwch ddefnyddio Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa ar eu cyfer
Gallwch ddefnyddio Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa ar gyfer:
Pethau na chewch ddefnyddio Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa ar eu cyfer
Bwriad Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa yw eich helpu gyda chostau nad yw ffynonellau eraill o arian cyhoeddus yn talu amdanynt.
Er enghraifft, ni allech gael benthyciad os ydych yn bwriadu astudio ar sail amser llawn am radd dosbarth cyntaf (oherwydd mae pecyn ar wahân o Fenthyciadau Myfyrwyr ar gael).
Fodd bynnag, os ydych chi'n cael cyfraniad at eich costau efallai y bydd modd i chi Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa i dalu am y gweddill. Er enghraifft, os ydych chi'n cael grant ar gyfer ffioedd y cwrs, gallech wneud cais am fenthyciad i gael help gyda'ch costau byw.
Ceir amodau eraill hefyd. Er enghraifft, ni allwch ddefnyddio Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa i helpu i dalu am y canlynol:
Felly, darllenwch y manylion yn y pecyn cais, a gofynnwch am gyngor os ydych yn ansicr a yw'ch cwrs yn gymwys.
Angen rhywun i siarad â nhw?
I gael cyngor ar eich cais, ffoniwch 0800 585 505. Gallwch hefyd gael cynghorydd i'ch ffonio yn ôl am ddim, neu gallwch gysylltu drwy neges e-bost.
I fod yn gymwys bydd angen i chi fod:
Mae 'ymgartrefu' yn golygu naill ai 'caniatâd amhenodol' i ddod i'r DU neu i aros yn y DU, neu fod â'r hawl i breswylio yn y DU.
Cofiwch: hyd yn oed os byddwch yn bodloni'r amodau hyn, y banc fydd yn dal i benderfynu a fu eich cais yn llwyddiannus ai peidio. Bydd penderfyniad y banc yn dibynnu ar i ba raddau yr ydych yn bodloni eu meini prawf penodol ar gyfer rhoi benthyg arian.
Cael y ffeithiau am ad-dalu Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa
Gallwch fenthyg unrhyw swm rhwng £300 a £10,000.
Bydd angen i chi gytuno â'r banc ar faint y benthyciad cyn i chi wneud cais. Mae'n hollbwysig i chi fod yn realistig, ac i beidio â benthyg mwy nag y gallwch fforddio ei dalu'n ôl.
Cofiwch nad yw Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa yn iawn i bawb: gweler 'Sut i wneud cais am Fenthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa' i gael mwy o awgrymiadau ar beth y dylech ei ystyried.