Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar bobl unrhyw bryd ac mewn gwahanol ffyrdd. Gall y problemau hyn gynnwys pryder, iselder, sgitsoffrenia, niweidio'ch hun a demensia.
Os oes gan rywun broblemau iechyd meddwl sy'n effeithio'n hirdymor ar eu gallu i fyw bywyd bob dydd, yna mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd yn ystyried hyn yn anabledd.
Diffinnir 'hirdymor' fel anhwylder sydd wedi para, neu'n debygol o bara, o leiaf 12 mis.
Os ydych chi'n poeni am eich iechyd meddwl, neu am iechyd meddwl ffrind neu berthynas agos, dylech gysylltu â'ch meddyg. Gallan nhw gynnig cyngor i chi neu'ch cyfeirio at wasanaethau arbenigol.
Bydd gan bob meddyg lleol dimau o bobl broffesiynol at eu gwasanaeth a staff cymorth sy'n gallu cynnig amrywiaeth o sgiliau a gwahanol ffyrdd o helpu. Fel arfer, bydd y tîm yn cynnwys:
Lle bo angen, bydd y rhain yn cydweithio'n glòs i ddarparu cymorth a gwasanaethau.
Os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus gyda'ch meddyg, fe ddylech allu:
Yn aml iawn, bydd ffrindiau a pherthnasau'n sylwi ar newidiadau ynoch chi ac yn poeni amdanoch, felly fe allai siarad â nhw dawelu eu meddwl nhw a'ch helpu chithau hefyd. Fe allwch chi ofyn i rywun fynd gyda chi i'ch apwyntiad gyda'r meddyg os ydych chi'n poeni am ymweld â'r meddyg ar eich pen eich hun.
Mae'n bosib y bydd eich meddyg yn eich cyfeirio at arbenigwr megis seiciatrydd, seicotherapydd, nyrs seiciatrig gymunedol neu gwnselydd. Bydd y bobl broffesiynol hyn yn gweithio gyda chi i'ch helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ddelio â'ch problemau.
Ceisiwch siarad â'ch rhiant/rhieni neu â rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant drosoch. Gallech hefyd siarad ag athro, gweithiwr ieuenctid neu feddyg neu ffonio ChildLine. Cewch ffonio ChildLine am ddim, a does dim rhaid i chi roi eich enw os nad ydych chi yn dymuno gwneud hynny.
Mae'n bosib bod gan eich coleg neu'ch prifysgol gwnselydd y gallech siarad ag ef/hi. Fe allai'r cwnselydd:
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch adran gwasanaethau i fyfyrwyr yn eich coleg neu'ch prifysgol.
Gwasanaeth cymorth cyfrinachol dros y ffôn sy'n cael ei redeg gan fyfyrwyr, ac ar gyfer myfyrwyr yw Nightline. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau Nightline yn eich ardal chi ar wefan genedlaethol Nightline.
Pobl eraill a allai eich helpu yw ymwelwyr iechyd, elusennau a grwpiau hunan-gymorth. Mae tudalen cysylltiadau iechyd meddwl yn rhestru nifer o sefydliadau sy'n cynnig cyngor a gwybodaeth ar faterion amrywiol sy'n ymwneud ag iechyd meddwl.