Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'n bosib y dewiswch chi beidio â thrafod eich anghenion iechyd gyda'ch rheolwr neu'ch cydweithwyr, ond efallai y bydd angen rhywfaint o gymorth arnoch wrth eich gwaith.
Mae nifer o bobl yn meddwl am addasiadau rhesymol fel rhai corfforol - er enghraifft, gosod ramp ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn - ond mae nifer o fathau gwahanol o addasu. Does dim rheolau pendant ynghylch beth sy'n addasiad 'rhesymol'. Mae'n bosib bod rhywbeth sy'n rhesymol i un cwmni yn afresymol i gwmni arall. Dyma ambell enghraifft y gellid eu hystyried:
Bydd rhai cwmnïau mwy o faint yn cynnig gwasanaethau megis cwnsela i weithwyr, a hynny'n rhad ac am ddim. Yn aml iawn, cwmni o'r tu allan fydd yn darparu'r sesiynau hyn a all fod yn sesiynau cwnsela wyneb-yn-wyneb neu dros y ffôn. Bydd pob sgwrs neu alwad yn gyfrinachol. Chaiff eich cyflogwr ddim gofyn i'r cwmni cwnsela am gynnwys eich sgwrs na holi pa mor aml y byddwch chi'n sgwrsio â nhw.
Bydd gan gwmnïau sy'n darparu'r gwasanaeth hwn wahanol drefniadau ar gyfer ceisio help o'r fath. I gael rhagor o wybodaeth, holwch eich adran Adnoddau Dynol (AD), eich cynrychiolydd undeb neu gydweithiwr rydych chi'n ymddiried ynddo.
Bydd gan rai adrannau AD bobl sydd wedi'u hyfforddi i wrando ar weithwyr fel cwnselydd. Os nad oes gennych chi adran AD, byddai eich meddyg teulu'n gallu'ch cynghori ynghylch y gwasanaethau cwnsela sydd ar gael yn eich ardal.
Mae gan rai cwmnïau mwy o faint gynlluniau mentora. Ystyr hyn yw eich bod yn cael eich partneru â rhywun, fel arfer, uwch aelod o staff o ran arall o'r cwmni, a fydd yn gallu sgwrsio â chi am agweddau ar eich gwaith.
Mae gan gwmnïau wahanol ffyrdd o wneud hyn, ond mae'n bosib y byddwch chi'n cyfarfod â'ch mentor unwaith y mis ac yn sgwrsio am unrhyw broblemau neu faterion sy'n codi gyda staff, patrymau gweithio neu'r baich gwaith. Fel arfer, bydd y mentor yn gallu'ch cynghori ynghylch sut i ddelio â'r materion hyn heb ymwneud â'r peth yn uniongyrchol.
Mae'n bosib y cewch chi gyfarfodydd 'rhannu gwybodaeth' neu adolygu gyda'ch rheolwr. Fe allech ddefnyddio'r amser hwn i sgwrsio am unrhyw anawsterau rydych chi'n eu hwynebu yn y gwaith.
Mae’n bosib y byddwch yn ei chael hi’n ddefnyddiol i siarad â’ch teulu a’ch ffrindiau am eich problemau yn y gwaith. Efallai y byddan nhw'n gallu cynnig atebion ymarferol.
Os byddwch chi'n absennol o'r gwaith, cadwch mewn cysylltiad â'ch cyflogwr, neu gofynnwch i rywun arall wneud hynny drosoch chi. Rhowch wybod iddyn nhw am faint rydych chi'n debygol o fod yn absennol o'r gwaith. Mae'n bosib y bydd rhai o'r awgrymiadau uchod o help i chi ond pan fyddwch chi'n barod i ddychwelyd i'r gwaith, fe allech hefyd ofyn i'ch cyflogwr a gewch chi:
Os teimlwch fod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd problem iechyd meddwl, mae'n bosib bod gennych achos dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.