Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae llawer o bobl yn meddwl bod anhwylder corfforol neu nam ar un o'r synhwyrau'n anabledd, ond eto, nid ydynt yn meddwl bod anhwylder meddyliol yn anabledd. Ond os oes gennych broblem iechyd meddwl mae'n bosib bod y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn eich gwarchod.
Os caiff eich salwch meddwl effaith sylweddol, hirdymor er gwaeth ar eich gallu i wneud pethau cyffredin bob dydd, yna, mae'n debyg bod y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn eich gwarchod. Mae'r Ddeddf hon hefyd yn gwarchod pobl sydd wedi bod ag anabledd yn y gorffennol.
Nid yw'r Ddeddf yn cynnig rhestr o'r anhwylderau hyn, ond yn hytrach, mae'n ystyried effeithiau'r anhwylder ar unigolyn.
Er enghraifft, mae'n bosib na fydd pobl sy'n dioddef o ychydig o iselder ac nad yw hynny'n cael effaith fawr arnynt yn dod o dan y Ddeddf, tra bydd pobl ag iselder difrifol a hynny'n effeithio'n sylweddol ar eu bywyd beunyddiol, yn debygol o gael eu hystyried yn bobl anabl dan y Ddeddf.
Bydd llawer o bobl sydd â chyflwr iechyd meddwl yn ei chael hi'n anodd ystyried eu hunain yn 'anabl' - ond mae'n bosib y bydd ganddynt hawliau dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.
Ceir sawl gwahanol fath o gyflwr iechyd meddwl a all arwain at anabledd, gan gynnwys:
Nid yw hon yn rhestr gyflawn ac mae'r cyflyrau'n amrywio o ran eu difrifoldeb. Mae gan elusen Mind daflenni ffeithiau ar amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl yn eu cyfres 'Deall'.
Nod y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yw rhoi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn pobl anabl mewn amrywiaeth o amgylchiadau, gan gynnwys ym maes cyflogaeth, addysg a darparu nwyddau a gwasanaethau. Er enghraifft, os bydd myfyrwraig ag anhwylder personoliaeth yn cael gwrthod lle ar y sail y gallai ei hanabledd olygu ei bod yn tarfu ar bobl eraill, fe allai hyn olygu bod y coleg yn gwahaniaethu'n anghyfreithlon ar sail anabledd, oni ellir cyfiawnhau'r honiad.