Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd meddwl

Mae'n bosib bod llawer o bobl yn ymwneud â'ch gofal - gan gynnwys pobl broffesiynol feddygol sy'n darparu meddyginiaeth a therapi ar eich cyfer. Hefyd, ceir gweithwyr cymorth sy'n gallu'ch helpu gyda thasgau bob dydd i'ch helpu i aros yn eich cartref neu'ch cymuned.

Eich meddyg teulu

Gall eich meddyg gynnig amrywiaeth o wasanaethau ar eich cyfer gan gynnwys:

  • sgwrsio am broblemau
  • darparu meddyginiaeth, pan fo'r galw
  • eich cyfeirio at rywun arall lle bo angen, er enghraifft cwnselydd neu seiciatrydd, bod angen i chi eu gweld

Cysylltwch â'ch meddyg ar unwaith os ydych chi'n poeni am eich iechyd corfforol neu feddyliol.

Timau Iechyd meddwl cymunedol

Gall timau iechyd meddwl cymunedol helpu pobl sydd ag afiechyd meddwl i fyw yn y gymuned gyda chymorth. Gallai hyn fod yn gymorth o ddydd i ddydd neu'n gymorth wrth i'r angen godi. Fe allai'r timau hyn gynnwys:

  • gweithiwr/wraig cymdeithasol
  • nyrs iechyd meddwl gymunedol
  • therapydd galwedigaethol
  • seiciatrydd
  • seicolegydd
  • cwnselydd
  • gweithwyr cymorth yn y gymuned (fel cymorth cartref)

Gall timau iechyd meddwl cymunedol ofalu am eich anghenion iechyd a chymdeithasol.

Cydlynwyr gofal

Os oes gwahanol elfennau i'ch gofal, er enghraifft, eich bod yn gweld seiciatrydd, cwnselydd, meddyg a gweithiwr cymdeithasol, mae'n bosib y bydd gennych gydlynydd gofal (a elwir weithiau'n weithiwr allweddol neu'n rheolwr achos). Bydd y person hwn yn sgwrsio â'r holl bobl broffesiynol wahanol a bydd yn un person i chi siarad ag ef/hi ac a fydd yn gefn i chi.

Bydd cydlynwyr gofal yn aelod o'r tîm iechyd meddwl cymunedol a bydd yn llunio cynllun gofal gyda chi - dylech gael copi o'ch cynllun gofal.

Nyrs iechyd meddwl gymunedol

Nyrsys cofrestredig yw nyrsys iechyd meddwl cymunedol, ac maen nhw wedi'u hyfforddi ym maes iechyd meddwl. Fe allan nhw:

  • siarad â chi am sut i ymdopi
  • rhoi cymorth hirdymor i chi yn y gymuned
  • rhoi rhywfaint o feddyginiaeth i chi

Weithiau, bydd nyrsys iechyd meddwl cymunedol yn arbenigo ym maes gweithio gyda phobl hwn, plant neu bobl â phroblemau cyffuriau neu alcohol.

Cwnselydd

Bydd cwnselwyr yn darparu 'therapi sgwrsio' lle cewch chi'ch gwahodd i sgwrsio am eich meddyliau a'ch teimladau. Yna, bydd y cwnselydd yn trafod gyda chi sut y gallech chi ymdopi â'r rhain. Mae'n bosib y bydd y canlynol hefyd yn darparu gwasanaeth cwnsela:

  • nyrsys iechyd meddwl cymunedol
  • seicotherapyddion
  • seicolegwyr
  • gweithwyr cymdeithasol
  • therapyddion galwedigaethol

Gan amlaf, bydd rhestr aros ar gyfer gwasanaethau cwnsela ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond mae 'na fudiadau gwirfoddol sydd hefyd yn cynnig triniaethau sgwrsio - holwch eich meddyg teulu neu'ch tîm iechyd meddwl cymunedol am fanylion. Mae triniaethau preifat ar gael hefyd. Gallwch gysylltu â Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain i gael manylion therapyddion proffesiynol.

Ymwelydd iechyd

Nyrsys cymwysedig yw ymwelwyr iechyd. Maen nhw wedi cael hyfforddiant arbennig ac maen nhw'n gweithio yn y gymuned. Maen nhw'n helpu pobl sydd ag afiechyd meddwl i aros yn eu cartref. Gall ymwelwyr iechyd

  • eich helpu i aros yn iach drwy sgwrsio â chi am eich deiet ac am ymarfer corff
  • bod yn rhywun i siarad â nhw
  • cynnig cyngor ymarferol am fwyd, hylendid a bywyd beunyddiol
  • dweud wrthych am wasanaethau eraill a all fod yn ddefnyddiol i chi. Er enghraifft, mae'n bosib y byddan nhw'n gallu dweud wrthych am grup lleol yn eich cymuned y gallech ymuno ag ef

Seiciatryddion a seicolegwyr

Gan amlaf, bydd seiciatrydd yn ymdrin ag agwedd gorfforol iechyd meddwl, er enghraifft therapi cyffuriau.

Bydd seiciatryddion yn aml yn gweithio'n glos gyda seicolegwyr a chwnselwyr, ac fe all drafod eich meddyliau a'ch teimladau gyda chi a thrafod strategaethau ymdopi.

Gweithiwr cymdeithasol

Gall gweithwyr cymdeithasol gynnig cyngor i chi am faterion ymarferol megis llety, a chymorth ariannol megis budd-daliadau.

Mae rhai gweithwyr cymdeithasol wedi'u hyfforddi'n arbennig ym maes iechyd meddwl ac fe allan nhw gynnig gwasanaeth cwnsela.

Gweithwyr iechyd meddwl cymeradwy

Mae gweithiwr iechyd meddwl cymeradwy yn weithiwr iechyd meddwl sydd wedi derbyn hyfforddiant arbennig i ddarparu help a rhoi cymorth i bobl sy’n cael eu trin o dan Ddeddf Iechyd Meddwl (1983). Gallant fod yn nyrsys seiciatrig cymunedol, therapydd galwedigaethol, gweithwyr cymdeithasol neu seicolegwyr. Gall eu swyddogaethau gynnwys helpu i asesu os oes angen i berson gael ei gadw’n ormodol yn yr ysbyty fel rhan o’i driniaeth.

Mae gan weithiwr iechyd meddwl ddyletswydd benodol hefyd i sicrhau bod hawliau dynol a sifil person sy’n cael ei gadw’n ormodol yn yr ysbyty yn cael eu parchu a’u cynnal.

Additional links

Gweler hefyd...

Cyngor iechyd meddwl gan yr NHS

Mae’r wefan NHS choices yn cynnig cymorth a chyngor ar ddementia ac iselder

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU