Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Argyfwng iechyd meddwl

Os bydd cyflwr meddyliol neu emosiynol person yn dirywio'n gyflym, gellir galw hyn yn argyfwng iechyd meddwl neu'n achos brys iechyd meddwl. Yn y sefyllfa hon, mae'n bwysig cael help yn gyflym.

Eich cynllun gofal

Os oes gennych chi gynllun gofal, bydd yn cynnwys enwau a rhifau i'w ffonio mewn argyfwng. Os ydych chi'n cael triniaeth am salwch meddwl, neu wedi derbyn triniaeth o'r fath, dylai fod gennych chi gynllun gofal.

Lle i fynd am gymorth

Os nad oes gennych chi gynllun gofal, neu os na allwch ei ganfod, gallech:

  • wneud apwyntiad brys gyda'ch meddyg neu ffonio gwasanaeth y tu allan i oriau eich meddygfa os bydd yr argyfwng yn digwydd gyda'r nos neu ar y penwythnos
  • ffonio eich gweithiwr iechyd meddwl neu gydlynydd gofal os oes gennych chi un
  • ffonio eich tîm argyfwng iechyd meddwl lleol
  • mynd i adran damweiniau ac achosion brys eich ysbyty lleol

Tîm argyfwng iechyd meddwl

Mae gan y rhan fwyaf o ardaloedd dîm argyfwng iechyd meddwl. Mae'r timau hyn yn cynnwys nyrsys seiciatrig, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr cynnal, ac maent:

  • ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos
  • yn ymateb i argyfwng o fewn pedair awr lle bynnag y bo'n bosibl
  • yn cynnal asesiadau dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (1983)
  • yn darparu cefnogaeth a chymorth tymor byr nes y bydd tîm arall ar gael neu nad oes angen help mwyach

Mae timau argyfwng iechyd meddwl yn rhan o'r gwasanaethau cymdeithasol, a gallwch ganfod eu manylion cyswllt drwy eich cyngor lleol.

Os ydych yn gofalu am rywun

Os ydych chi'n teimlo bod rhywun yn berygl iddo'i hun neu i bobl eraill, ffoniwch dîm gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol. Os oes perygl ar unwaith, ffoniwch yr heddlu ar 999.

Os oes arnoch angen siarad â rhywun

Os hoffech ffonio rhywun i ddweud sut rydych chi'n teimlo, neu sut y byddwch yn ymdrin ag ymddygiad rhywun arall, gallech gysylltu ag NHS Direct neu'r Samariaid.

NHS Direct

Ffôn: 0845 46 47

Ffôn testun: 0845 606 46 47

Gall nyrsys hyfforddedig roi cymorth a chefnogaeth i chi 24 awr y diwrnod.

Y Samariaid

Ffôn: 08457 90 90 90

Ffôn testun: 08457 90 91 92

Mae'r Samariaid yn cynnig llinell gymorth gyfrinachol 24-awr dros y ffôn. Gallwch hefyd gysylltu â hwy drwy e-bost neu ysgrifennu atynt.

Additional links

Gweler hefyd...

Cyngor iechyd meddwl gan yr NHS

Mae’r wefan NHS choices yn cynnig cymorth a chyngor ar ddementia ac iselder

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU