Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y driniaeth fwyaf priodol, mae'n bosib y cewch chi asesiad iechyd meddwl. Gall asesiadau amrywio o sgwrsio â'ch meddyg yn eu meddygfa neu gartref, i apwyntiad gydag arbenigwr yn yr ysbyty. Bydd y math o asesiad yn dibynnu ar y math o ofal iechyd meddwl sydd ei angen arnoch.
Fel arfer, bydd pob asesiad yn cychwyn gyda'ch meddyg. Bydd eich meddyg yn gwneud diagnosis ac yn ystyried unrhyw feddyginiaeth a fyddai'n briodol ar eich cyfer. Gallai'r meddyg hefyd eich cyfeirio at arbenigwr - er enghraifft, cwnselydd - a fyddai'n gwneud asesiad pellach i weld pa therapïau a allai fod o help.
Mae eich ymweliad yn gyfrinachol - ni fydd y meddyg yn dweud wrth unrhyw aelod o'ch teulu, wrth eich ffrindiau nac wrth neb arall am y sgwrs.
Os ydych chi mewn perygl o niweidio'ch hun neu rywun arall a chithau'n gwrthod triniaeth, fe all fod angen cynnal asesiad brys. Bydd hyn yn digwydd pan fydd dau feddyg a gweithiwr iechyd meddwl cymeradwy yn gwneud yr asesiad.
Gall yr asesiad arwain at eich derbyn i'r ysbyty yn erbyn eich ewyllys, dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Yn Saesneg, gelwir hyn yn aml yn 'being sectioned'). Mae’n bwysig nodi mai anaml y bydd hyn yn digwydd.
Mae tair prif ffordd o gael asesiad brys:
Nid eich cael chi i'r ysbyty yw pwrpas y math hwn o asesiad. Yn hytrach, ffordd o sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth a'r gofal sydd ei hangen arnoch yw hyn.
Cynhelir adolygiad dri mis ar ôl i chi gael eich derbyn yn y lle cyntaf. Os oes rhaid, gofynnir am eich caniatâd i'r driniaeth barhau. Os byddwch chi'n gwrthod rhoi caniatâd, gofynnir i ail feddyg annibynnol (a elwir yn feddyg a benodir i roi ail farn) gadarnhau y dylai'r gofal barhau yn erbyn eich ewyllys.
Unwaith y cewch chi'ch rhyddhau o'r ysbyty, mae nifer o gynlluniau gofal yn y gymuned gwahanol ar gael.