Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd llawer o afiechydon meddwl yn cael eu trin drwy weld eich meddyg, eich nyrs neu weithiwr/wraig gofal arall yn eich cartref eich hun neu yn eich meddygfa. Mae’n bosib byddwch hefyd yn cael eich trin fel claf allanol yn eich ysbyty lleol, lle nid ydych yn aros yn yr ysbyty ond yr ydych yn mynd am eich apwyntiad yn unig.
Mae nifer fawr o wasanaethau ar gael yn y gymuned a ddarperir i fod yn gefn i'ch gofal meddygol - bydd eich gweithiwr/wraig iechyd yn gallu dweud wrthych a ydych chi'n gymwys ai peidio.
Efallai y bydd rhaid i chi dalu am rai o'r gwasanaethau hyn, neu gyfrannu tuag atynt. Pennir hyn drwy wneud 'prawf modd'. Bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn gofyn cwestiynau i chi am eich incwm a'ch cyfalaf i weld a ddylech eu talu ai peidio.
Gall gweithwyr gofal yn y gymuned roi cyngor i chi am:
Yn aml iawn, bydd y canolfannau hyn yn cael eu rhedeg gan fudiadau gwirfoddol ac maen nhw'n cynnig cefnogaeth a gweithgareddau cymdeithasol. Mae'n bosib y bydd eich meddyg teulu neu'ch cydlynydd gofal yn eich cyfeirio ar ôl asesiad neu bydd rhai llefydd yn gadael i chi 'ddod yno ar eich liwt eich hun'. Fe elwir hyn yn hunangyfeirio.
Caiff gwasanaethau cyfeillio eu rhedeg gan fudiadau gwirfoddol, lle bydd gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant arbennig i gynnig cymorth a chyfeillgarwch ar sail un-ac-un. Cewch ofyn am fod yn rhan o'r cynllun, does dim rhaid i chi gael eich cyfeirio.
Gall cynghorau lleol ddarparu gwasanaethau megis gwasanaeth golchi dillad, pryd ar glud a chymorth cartref os yw'r gwasanaethau cymdeithasol o'r farn y bydd hynny'n help i chi aros yn eich cartref neu yn eich cymuned. Bydd rhaid i chi gael asesiad gofal yn y gymuned i fod yn gymwys ar gyfer y gwasanaethau hyn.
Y Rhaglen Cefnogi Pobl
Mae’r Rhaglen Cefnogi Pobl yn rhoi cefnogaeth a chyngor ynghylch gwasanaethau sy’n ei wneud yn haws i aros yn eich cartref eich hun, fel coginio, talu biliau neu gyllidebu.
Tai â chefnogaeth a chartrefi grŵp
Bydd y cynlluniau hyn yn darparu tai wedi’u dodrefnu i’r rheini sy’n gallu byw yn annibynnol ond byddai’n elwa o gael mynediad i weithwyr cefnogi.
Rhaid i chi gael asesiad gofal yn y gymuned i gael lle mewn un o’r cynlluniau hyn, ac mae’n bosib bydd rhaid i chi dalu (mae prawf modd ar gyfer hyn).
Bydd y cymunedau hyn yn rhannu tŷ lle bydd pobl fel arfer yn aros am gyfnod y cytunir arno. Bydd y cymdogion hyn yn gallu gweld therapydd preswyl a chael cefnogaeth drwy gydol y cyfnod adsefydlu.
Rhaid i chi gael asesiad gofal yn y gymuned i gael lle mewn cymuned therapiwtig, ac mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu (mae prawf modd ar gyfer hyn).
Bydd hosteli'n cynnig cartref dros dro gyda'r nod o'ch annog i fod yn annibynnol tra'n rhoi cymorth i chi gyda'ch anghenion. Mae'r gweithwyr yn cynnwys nyrsys, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr cymorth iechyd meddwl.
Rhaid i chi gael asesiad gofal yn y gymuned i gael lle mewn hostel a gall fod rhaid i chi dalu (mae prawf modd ar gyfer hyn).
Gellir darparu gofal 24-awr gan weithwyr cymdeithasol preswyl, nyrsys a gweithwyr cymorth iechyd meddwl. Mae hyn ar gyfer pobl sydd ag angen lefel uchel o ofal ac sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi yn eu cartref eu hunain, er gwaetha'r cynlluniau gofal cymunedol eraill sydd ar gael.
Rhaid i chi gael asesiad gofal yn y gymuned i gael lle mewn cartref gofal, ac mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu (mae prawf modd ar gyfer hyn).