Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi wedi cael eich trin fel claf allanol gan y gwasanaethau seiciatrig - sef pan fyddwch chi'n mynd i'r ysbyty i gadw apwyntiad yn unig - gan uned seiciatrig fel claf mewnol - sef pan fyddwch chi'n aros yn yr ysbyty am gyfnod - neu gan dîm iechyd meddwl yn y gymuned, mae'n bosib y cynigir asesiad Dull Rhaglen Gofal i chi.
Dull o gydlynu gwasanaethau iechyd cymuned i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yw hyn. Unwaith y bydd gennych asesiad sy'n esbonio'ch anghenion, mae'n golygu y gall un person gydlynu pob agwedd o'ch gofal. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys eich gofal meddygol a chymdeithasol, a'r gwasanaethau cymunedol sydd ar gael i chi. Cydlynydd gofal a fydd yn cynnal yr asesiad. Weithiau, caiff cydlynwyr gofal eu galw'n weithwyr allweddol neu'n rheolwyr achos.
Fe allai'r asesiad gynnwys:
Bydd y cydlynydd gofal sy'n gwneud yr asesiad yn ysgrifennu cynllun gofal y byddwch chi'n ei lofnodi wedyn os byddwch chi'n cytuno ag ef. Cewch drafod unrhyw newidiadau yr hoffech eu gwneud.
Bydd y cynllun ysgrifenedig yn cynnwys:
Bydd eich cynllun gofal yn rhoi enw rhywun y gallwch gysylltu â nhw os bydd angen rhywbeth arnoch, a pha un o'r gwasanaethau a gynigir gan y tîm iechyd meddwl cymunedol y gallwch eu defnyddio, a phwy y dylech chi eu gweld.
Os byddwch chi'n cael eich rhyddhau o'r ysbyty, mae'n bosib y byddwch chi'n cael 'cyfarfod cynllunio'r rhyddhau'. Bydd asesiad Dull Rhaglen Gofal ac asesiad gofal yn y gymuned yn cael eu gwneud ar yr un pryd, gan roi sylw i iechyd ac i ofal cymdeithasol.