Cwestiynau cyffredin
Cwestiynau eraill
Cwestiynau cyffredin
I ba gyfeiriad y caiff y ddisg dreth a'r dderbynneb eu hanfon?
Anfonir y ddisg dreth a'r dderbynneb i gyfeiriad ceidwad cofrestredig fydd ar gofrestr y DVLA ar y pryd a dylai gyrraedd drwy'r post o fewn 5 diwrnod gwaith. Peidiwch â defnyddio'r gwasanaeth hwn os ydych chi wedi symud tŷ yn ddiweddar a heb dderbyn y dystysgrif cofrestru â'ch cyfeiriad newydd arni.
Nôl i ddechraur dudalen
A fyddaf yn derbyn cadarnhad fy mod wedi gwneud cais am HOS?
Os fyddwch yn gwneud HOS ar ein gwefan, gall y dudalen gadarnhad gael ei hargraffu a'i defnyddio fel cadarnhad. Hefyd, os ydych yn darparu eich cyfeiriad ebost ar y wefan, byddwch yn derbyn ebost cadarnhad o'r trafodyn. Ni chaiff lythyr cydnabod ei anfon.
Nôl i ddechraur dudalen
Alla i newid fy nghyfeiriad pan fydda i'n defnyddio'r gwasanaeth ar-lein neu dros y ffôn y DVLA?
Ni allwch, rhaid i chi roi manylion eich cyfeiriad yn adran 6 eich tystysgrif cofrestru ac anfon y dystysgrif cofrestru gyfan i DVLA, Abertawe, SA99 1BA.
Nôl i ddechraur dudalen
Sut ydy'r DVLA yn gwirio yswiriant, tystysgrif MoT electronig a thystysgrifau Prawf Cerbyd Nwyddau (GVT)?
Pan fyddwch yn gwneud cais am ddisg dreth ar-lein neu dros y ffôn DVLA, bydd yswiriant y cerbyd yn cael ei wirio'n electronig gyda'r Basdata Yswiriant Moduro (MID). Bydd tystysgrifau MOT a GVT hefyd yn cael eu gwirio'n electronig gyda'r Basdata MoT. Dim ond cwsmeriaid sydd â thystysgrif MoT neu dystysgrif Profi Cerbydau Nwyddau (GVT) sydd â'r hawl i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y tystysgrifau MoT newydd drwy fynd i wefan
Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA)
.
Nôl i ddechraur dudalen
Beth os oes gennyf dystysgrif eithrio i bobl anabl?
Pan wnewch gais am ddisg dreth ar-lein neu drwy ddefnyddio gwasanaeth dros y ffôn DVLA, gall y DVLA wirio eich tystysgrif eithrio anabl yn electronig gyda
Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
a
Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog
.
Rhaid i'ch cerbyd fod wedi'i gofrestru yn barod yn y dosbarth treth anabl.
Os na fydd hynny wedi'i wneud, yna chwech chi ddim defnyddio gwasanaethau ar-lein neu dros y wasanaeth ffôn y DVLA, a bydd angen i chi newid dosbarth treth eich cerbyd drwy fynd i unrhyw gangen o Swyddfa'r Post® sy'n rhoi disgiau treth neu i swyddfa leol y DVLA.
Nôl i ddechraur dudalen
Beth yw'r cyfeirnod?
Mae'r rhif cyfeirnod sydd ar flaen y ffurflen V11W yn yr adran werdd yn un unigryw. Bydd hwn yn eich galluogi i wneud cais am ddisg treth neu ddatgan HOS, naill ai ar lein neu drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn DVLA.
Nôl i ddechraur dudalen
Os oes gen i broblem, sut alla i gysylltu â DVLA?
Trowch at y dudalen Cysylltu â DVLA am fanylion cyswllt.
Nôl i ddechraur dudalen
Nid wyf wedi derbyn y ddisg dreth. Beth ddylwn i wneud?
Os na fydd y disg treth wedi cyrraedd ar ôl 5 niwrnod gwaith, ffoniwch DVLA rhwng 8.00yb a 8.30yh ar ddydd Llun i ddydd Gwener, a 8.00yb a 5.30yh ar ddydd Sadywrn ar 0300 123 4321. Pan fyddwch yn rhoi galwad, gofalwch fod eich rhif cyfeirnod yn gael a dewiswch opsiwn 4 ac yna opsiwn 1.
Nôl i ddechraur dudalen
Nid wyf wedi derbyn y ddisg dreth. A alla i ddefnyddio'r cerbyd heb arddangos y ddisg dreth?
Pan fyddwch wedi gwneud cais am ddisg dreth ar-lein neu drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn y DVLA, gallwch yn gyfreithlon ddal i yrru eich cerbyd am hyd at 5 niwrnod ar ôl i'r disg dreth ddod i ben tra byddwch yn aros i'r un newydd gyrraedd. Fydd hyn ond yn gallu digwydd os byddwch wedi gwneud cais am ddisg dreth newydd cyn i'r un cyfredol ddod i ben. Dylech ddal i arddangos y ddisg dreth a ddaeth i ben, nes bydd yr un newydd wedi cyrraedd.
Nôl i ddechraur dudalen
A yw Trwyddedu cerbyd ar-lein yn safle diogel?
Mae'r DVLA yn cymryd diogelwch wirioneddol o ddifri. Cafodd gwefan Trwyddedu cerbydau ar-lein ei ffurfweddu i drosglwyddo data gan ddefnyddio'r Haen Socedi Diogel (SSL), un o'r systemau diogelwch cryfaf i ddiogelu eich cyfathrebiadau â DVLA. Pa bryd bynnag byddwch yn rhoi eich manylion eich cerdyn debyd, bydd yn cael ei ddiogelu'n awtomatig drwy ddefnyddio'r SSL gyda did amgryptiadl 128.
Nôl i ddechraur dudalen
Pam fod yna dâl ychwanegol ar gardiau credyd?
Mae'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn cynyddu'r modd y gall cwsmeriaid dalu treth. Gall unrhyw un sy'n trethu ar lein neu dros y ffôn yn awr dalu â cherdyn credyd.
Bydd y tâl a godir gan gwmnïau cerdyn credyd am y cyfleuster hwn yn cael ei drosgwyddo i'r cwsmer. Yn dilyn ymarfer ymgynhori cyhoeddus ar nifer o opsiynau gwahanol, dewiswyd tâl cyfradd unffurf am daliadau cerdyn credyd. Bydd y tâl o godir o £2.50 yn cynnwys costau'r Asiantaeth am ddarparu'r gwasanaeth hwn. Bydd taliadau cerdyn debyd yn dal i fod yn rhad ac am ddim.
Bydd dulliau eraill o dalu megis gydag arian parod, siec neu gerdyn debyd ar gyfer rhai sy'n gwneud cais drwy Swyddfa'r Post® a swyddfa leol y DVLA yn dal ar gael a hynny'n dal yn rhad ac am ddim.
Nôl i ddechraur dudalen
Oes gan Trwyddedu cerbyd ar-lein cyfeiriad e-bost?
Nac oes, ond os ydych am gynnig adborth ar y gwasanaeth, gallwch wneud hynny drwy drio at y dudalen Cael dweud eich dweud neu os oes gennych ymholiad cyffredinol, ewch i'r dudalen Cysylltu â DVLA am fanylion cyswllt.
Nôl i ddechraur dudalen
Pryd mae'r gwasanaeth ail-drwyddedu a'r gwasanaeth HOS ar agor?
Gallwch wneud cais am ddisg dreth neu HOS gan ddefnyddio'r ffôn neu'r wefan hon, 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos.
Nôl i ddechraur dudalen