Telerau ac amodau DVLA
Y Telerau ac Amodau hyn sy'n llywodraethu eich defnydd chi o wefan Trwyddedu Cerbydau ar-lein DVLA a'ch perthynas chi â'r wefan hon. Darllenwch hwy'n ofalus os gwelwch yn dda gan y gallent effeithio ar eich hawliau a'ch atebolrwydd dan y gyfraith. Os nad ydych yn cytuno â'r Telerau ac amodau hyn, peidiwch â defnyddio'r wefan hon.
Defnyddio'r Wefan honMae DVLA yn gwneud ei orau glas i sicrhau bod y wybodaeth sydd ar y wefan hon yn gywir. Fodd bynnag, ni all DVLA dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb na chynnwys y wefan hon. Mae ymwelwyr sy'n dibynnu'n llwyr ar y wybodaeth hon yn gwneud hynny yn ôl eu dewis hwy eu hunain.
Ni allwn sicrhau fod popeth yn y gwasanaeth hwn yn berffaith. Os ydych yn dod ar draws unrhyw nam, dylech ffonio'r llinell ymholiadau ar 0300 123 4321 a'n hysbysu ohono, fel y gallwn ni ei gywiro cyn gynted â phosib.
Defnyddio dolennuMae'n bolisi gennym gael caniatâd cyn cynnig dolen i wefannau eraill. Nid yw DVLA yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau y ceir dolenni iddynt ac nid yw o anghenraid yn cefnogi'r farn a fynegir ynddynt. Nid yw'r ffaith eu bod wedi'u rhestru yma yn unrhyw fath o gymeradwyaeth. Ni allwn sicrhau y bydd y dolenni hyn yn gweithio trwy'r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y tudalennau yn y dolenni.
Diogelu rhag FirysauMae DVLA yn gwneud ei orau glas i wirio a phrofi deunyddiau ym mhob cam o'u cynhyrchu. Mae'n syniad da i bob defnyddiwr redeg rhaglen gwrth-firws ar yr holl ddeunydd sy'n cael ei lawrlwytho o'r we.
Nid yw DVLA yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddata sy'n mynd ar goll, yn cael ei amharu arno neu cael ei ddifrodi, nac am unrhyw ddifrod i system eich cyfrifiadur, tra'n defnyddio deunydd ar wefan DVLA.
Cardiau taluGallwch dalu drwy ddefnyddio cardiau debyd neu gardiau credyd ar y wefan hon. Caiff gwybodaeth o gerdyn ei throsglwyddo yn unol a'n datganiad gwarchodaeth a'I chadw yn unol a'n datganiad preifatrwydd.
Ddeddfwriaeth BerthnasolCaiff y Telerau ac Amodau hyn eu rheoli a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr a dim ond yn llysoedd Lloegr y caiff unrhyw anghydfod ei ddatrys.
Diwygio'r Telerau ac AmodauMae'n bosib y byddwn yn diweddaru'r Telerau ac Amodau o bryd i'w gilydd. Os ydych yn parhau i ddefnyddio'r wefan ar ôl i newidiadau gael eu rhoi ar waith, mae'r ffaith eich bod yn defnyddio'r wefan yn dangos eich bod yn cytuno i lynu wrth y Telerau ac Amodau newydd.