Datgan HOS (Cymryd eich cerbyd oddi ar y ffordd)
Darllenwch y wybodaeth ganlynol yn ofalus.
I ddatgan HOS, a geir ei alw yn Hysbysiad Oddi ar y ffordd Statudol, bydd angen y nodyn atgoffa arnoch, a geir ei alw yn
cais am drwydded gerbyd neu ddatganiad HOS
, a hefyd ei enwi'r V11W, neu'r
ddogfen neu dystysgrif cofrestru
, a geir hefyd ei alw'r llyfr log.
Ar ôl datgan HOS am gerbyd, rhaid i'r ceidwad cofrestredig sicrhau nad yw'n cael ei ddefnyddio na'i gadw ar ffordd gyhoeddus hyd nes y cyflwynir trwydded newydd. Bydd y datganiad yn ddilys am 12 mis oni bai fod y cerbyd yn cael ei ail-drwyddedu, ei werthu, ei allforio'n barhaol neu ei sgrapio.
Cyn mynd ymlaen byddwch yn ymwybodol ddylech ddim datgan HOS os yw'r cerbyd wedi ei werthu, ei allforio'n barhaol neu ei sgrapio.
Cadarnhad HOS
Bydd sgrîn yn ymddangos ar ôl i chi gwblhau eich trafodyn HOS. Os ydych chi wedi darparu cyfeiriad ebost dilys byddwch yn derbyn ebost cadarnhau. Os nad ydych wedi gwneud hyn, efallai yr hoffech argraffu'r sgrîn cadarnhad hon neu wneud nodyn o'r cyfeirnod. Ni fydd DVLA yn anfon llythyr cydnabod atoch.
A fyddech cystal â datgan eich bod yn cytuno i'r uchod ac eich bod am barhau i ddatgan HOS drwy ddewis 'Nesaf'.