Datganiad gwarchodaeth a phreifatrwydd DVLA

GwarchodaethRydym yn ystyried gwarchodaeth yn fater pwysig iawn. Lluniwyd y wefan i drosglwyddo data trwy gyfrwng yr Haen Socedi Diogel (Secure Sockets Layer), sef un o'r systemau diogelwch gorau ar gyfer gwarchod eich gohebiaeth chi â ni. Pan fyddwch yn rhoi eich manylion personol, megis rhif eich cerdyn debyd, caiff ei warchod yn awtomatig drwy SSL gyda chôd 128 bit. Dyma sut mae SSL yn gweithio:
1. Ni ellir ei ddynwared - rydych yn gwybod eich bod yn defnyddio gwefan SSL dilys pan fo symbol clo yn ymddangos ar waelod y sgrin.
2. Mae'n amgryptio data - yn syth ar ôl i'ch cyfrifiadur adnabod ein cyfrifiadur ni maent yn amgryptio yr holl wybodaeth sy'n llifo rhyngddynt. Mae amgryptio data yn golygu na all neb ddarllen neu newid eich gwybodaeth wrth iddi deithio drwy'r Rhyngrwyd.
3. Ni ellir ei sgramblo - Mae SSL yn defnyddio Côd Dilysu Neges sy'n atal unrhyw un rhag ymyrryd â'n gwefan. Bydd eich cyfrifiadur bob amser yn gwirio'r côd hwn cyn derbyn neges gennym ni. Mae hyn yn golygu os oes unrhyw un yn ceisio ymyrryd â neges, ni fydd eich cyfrifiadur yn adnabod y côd ac fe fydd yn tynnu eich sylw at hyn.
Datganiad Preifatrwydd trwyddedu cerbydau ar-leinMae'r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch yn dibynnu ar y gwasanaethau ar-lein yr ydych yn eu defnyddio. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth yr ydych yn rhoi i ni i wella unrhyw fusnes trwyddedu gyrwyr neu gerbydau. Mae'n bosib y byddwn yn gwirio'r wybodaeth yr ydych yn ei darparu i ni i weld sut y mae'n cymharu â'r wybodaeth sydd gennym yn barod (er enghraifft, efallai y byddwn yn gofyn am eich enw, dyddiad geni a chyfeiriad er mwyn i ni allu dod o hyd i'ch cofnod).
Gallwn hefyd gael gwybodaeth amdanoch wrth drydydd parti penodol, neu roi gwybodaeth iddynt i wirio cywirdeb yr wybodaeth. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth ar gyfer:
  • amcanion trwyddedu gyrwyr a cherbydau
  • gorfodi'r gyfraith berthnasol
  • diogelwch ar y ffyrdd
  • cynorthwyo'r heddlu gydag atal trosedd
  • gwella ein gwasanaeth
Ni fyddwn yn datgelu gwybodaeth amdanoch chi i unrhyw un y tu allan i'r DVLA oni bai y mae'r gyfraith yn ein caniatáu neu os ydych chi wedi rhoi eich caniatâd.
Nid yw ein gwefan yn galluogi ein hymwelwyr i gyfathrebu ag ymwelwyr eraill neu'n eu galluogi i roi gwybodaeth i bobl eraill a ellir eu gweld gan eraill. DVLA yw'r Rheolydd Data ar gyfer pwrpas y Ddeddf Diogelu Data. Gallwch ddefnyddio'r wefan hwn i weld yr wybodaeth sydd gennym amdanoch.
Pa wybodaeth yr ydym yn ei gasglu?
Rydym yn casglu dau fath o wybodaeth gan ymwelwyr i'r wefan hwn: adborth (drwy ymwelwyr yn llenwi holiaduron adborth neu'n anfon e-byst i ni) a gwybodaeth ynghylch defnydd o'r safle, drwy dagio cwcis a thudalennau.
Deddf Diogelu Data 1998Mae gofyniad dan y Ddeddf yn golygu bod rhaid i ni eich hysbysu y gallai neges gadarnhau drwy'r e-bost gynnwys gwybodaeth amdanoch (gelwir hwn yn 'ddata personol' yn y Ddeddf) ac, at ddibenion y Ddeddf, mai ni yw'r 'rheolwr data'.
Byddwn yn prosesu unrhyw sylwadau yr anfonwch atom ni am y wefan hon. Dim ond er mwyn gwella'r wefan y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth.
Efallai y byddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth a gawn i unrhyw berson neu fudiad at y dibenion y'i casglwyd ar eu cyfer neu pan fo'r Ddeddf yn caniatáu i ni ei datgelu.
Fel y person y cedwir gwybodaeth amdanoch, mae gennych chi hawl i ofyn am gopi o'r data a gofyn am gael cywiro unrhyw gamgymeriadau.
Gwybodaeth am Ddefnyddio'r SafleMae ffeiliau log yn ein galluogi i gofnodi sut mae pobl yn defnyddio'r wefan. Defnyddiwn y rhain i wella golwg y wefan a'r wybodaeth sydd arni, yn seiliedig ar y ffordd mae defnyddwyr yn llywio o'i chwmpas. Nid yw ffeiliau log yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi.
Diwygiadau i'r Datganiad Gwarchodaeth a PhreifatrwyddOs yw'r polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn cynnwys y fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon. Drwy gadw golwg ar y dudalen hon rydych bob amser yn gwybod pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau (os o gwbl) y byddwn ni'n ei rhannu gyda phartïon eraill.
Polisi cwcis trwyddedu cerbydau ar-leinPan fyddwn yn darparu gwasanaethau, rydym eisiau eu gwneud yn hawdd, defnyddiol ac yn ddibynadwy. Ble y defnyddir gwasanaethau ar y rhyngrwyd, mae hyn weithiau'n cynnwys rhoi ychydig o wybodaeth ar eich dyfais, er enghraifft, cyfrifiadur neu ffôn symudol. Mae'r rhain yn cynnwys ffeiliau bychan a elwir yn gwcis. Ni allant gael eu defnyddio i'ch adnabod yn bersonol.
Defnyddir y darnau bach hyn o wybodaeth i wella gwasanaethau i chi, drwy, er enghraifft:
  • galluogi gwasanaeth i adnabod eich dyfais fel nad oes angen i chi rhoi'r un wybodaeth sawl gwaith yn ystod un dasg
  • adnabod eich bod o bosib wedi rhoi eich enw defnyddiwr a chyfrinair yn barod, fel nad oes angen i chi eu rhoi am bob tudalen y we yr ydych yn eu defnyddio
  • cael gwybod faint o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, fel y gellir eu gwneud yn haws i'w defnyddio a bod digon o le o ran cynnwys ar gael i sicrhau eu bod yn gyflym
Gallwch reoli'r ffeiliau bychan hyn eich hun a dysgu mwy amdanynt drwy 'Cwcis porwr y rhyngrwyd - beth ydynt a sut i'w rheoli' .
Ein defnydd o gwcisAr hyn o bryd, yr unig gwci sydd ar ein Gwasanaeth Trethu Ar-lein' yw 'cwci sesiwn' sy'n ffeiliau cwcis dros dro ac yn cael eu dileu pan fyddwch yn cau'ch porwr.
Math o gwci: Sesiwn
Y budd: Unwaith i chi fewngofnodi â'r rhif cyfeirnod o'ch ffurflen atgoffa treth neu'r rhif cyfeirnod a'r rhif cofrestru cerbyd o'ch Dystysgrif V5C (llyfr llog), ni fydd angen i chi ei wneud am bob tudalen y We yr ydych yn defnyddio o'n gwasanaeth.
Pan fyddwch yn ailddechrau eich porwr a mynd yn ôl i'r safle a greodd y cwci, ni fydd y wefan yn eich adnabod chi. Bydd angen i chi ailfewngofnodi. Caiff cwci sesiwn newydd ei gynhyrchu, a fydd yn arbed eich gwybodaeth pori ac yn weithredol hyd nes i chi adael y safle a chau'r porwr.