Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle
Ewch i'r cynnwys
Moduro Directgov
English/Saesneg
Testun y dudalen rhy fach?
Map o'r wefan
Gwasanaeth darparwyd gan DVLA:
Gwneud cais am ddisg treth
Darllenwch a chadarnhewch y datganiadau canlynol os gwelwch yn dda:
Ydyw'r dystysgrif cofrestru V5CW yn dangos eich cyfeiriad cyfredol? Sylwch os gwelwch yn dda, nid yw'r gwasanaeth hwn yn medru newid eich cyfeiriad
Ydw
Nac ydw
Mae tystysgrif prawf MoT/GVT gan y cerbyd sy'n ddilys ar y dyddiad mae'r disg yn cychwyn. Mae'r cerbyd o dan 3 blwydd oed neu wedi ei eithrio o brawf MoT/GVT. Bydd hyn yn cael ei gwirio'n electronig.
Oes
Nac oes
Rwy'n cadarnhau fod yswiriant dilys yn gorchuddio defnydd y cerbyd hwn pan fydd y disg treth yn dechrau a bod daliwr y polisi wedi rhoi caniatâd iddo gael ei wirio'n electronig.
Ydw
Nac ydw
Rwy'n ymwybodol os ddewisaf dalu gyda cherdyn credyd, fe godwyd tal ychwanegol o £2.50. Does dim tal am ddefnyddio cerdyn debyd. Noder, ni ellir defnyddio cerdyn credyd yn Swyddfa'r Post i brynu disg treth (ddylai cwsmeriaid sy'n trethu cerbyd heb angen talu treth ddewis ie hefyd).
Ydw
Nac ydw
Rwy'n deall fydd uchafswm o 5 diwrnod gwaith cyn bydd y ddisg dreth yn cyrraedd trwy'r post.
Ydw
Nac ydw
Efallai fydd y dolennau sy'n dilyn yn ddefnyddiol ichi:
Mae'r Data-bas Yswiriant Moduro (MID) yn cynnwys manylion yswiriant cerbydau. Gallwch wirio os yw eich cerbyd ar y gronfa ddata heddiw wrth ymweld a'r gronfa ddata ar lein yn
Swyddfa Yswiriant Moduron
. Sylwch os gwelwch yn dda, rhaid bod yswiriant dilys ar y data-bas ar y dydd mae'r dreth newydd yn dod i rym er mwyn cwblhau trafodaeth ail-drwyddedu.
Mae Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) yn cadw data-bas holl ganlyniadau prawf MOT. Gallwch wirio os yw eich cerbyd ar y gronfa ddata wrth ymweld ar lein yn
Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA)
. Sylwch os gwelwch yn dda, rhaid bod MOT dilys gennych ar y dydd cyntaf mae'r disg treth newydd yn dod i rym er mwyn cwblhau trafodaeth ail-drwyddedu.
Unwaith fyddwch wedi ateb pob cwestiwn, cliciwch nesaf i barhau.