Cymorth

Sut ydydch chi'n gwirio Yswiriant, Tystysgrif MOT a Thystysgrif Prawf Cerbyd Nwyddau (GVT)? Pan fyddwch yn gwneud cais am ddisg treth ar-lein neu wrth ddefnyddio ein gwasanaeth ffôn, bydd ysiwiriant y cerbyd yn cael ei wirio'n electronaidd gyda'r Basdata Yswiriant Moduro Swyddfa Yswiriant Moduron (MIB) Agor ffenestr newydd Bydd tystysgrif MOT a GVT hefyd yn cael eu gwirio'n electronaidd gyda'r Basdata MOT. Dim on cwsmeriaid sydd â Thystysgrif MOT neu GVT steil newydd sydd â'r hawl i ddefnyddio gwasanaeth hwn.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y tystysgrifau MOT steil newydd drwy fynd i wefan Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) Agor ffenestr newydd .
Pam y codir tâl ychwanegol am ddefnyddio cerdyn credyd? Mae'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn cynyddu'r modd y gall cwsmeriaid o dalu treth.Gall unrhyw un sy'n trethu ar-lein neu dros y ffôn yn awr dalu â cherdyn credyd.
Bydd y tâl a godir gan gwmniau cerdyn credyd am y cyfleuster hwn yn cael ei drosglwyddo i'r cwsmer. Yn dilyn ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar nifer o opsiynau gwahonol, dewiswyd tal cyfardd unffurf am daliadau cerdyn credyd. Bydd y tâl a godir o £2.50 yn cynnwys y costau'r Asiantaeth am ddarparu'r gwasanaeth hwn. Bydd taliadau credyn debyd yn dal i fod yn rhad ac am ddim.
Bydd dulliau eraill o dalu megis gydag arian parod, siec neu gerdyn debyd ar gyfer y rhai sy'n gwneud cais drwy Swyddfa'r Post® a swyddfa leol y DVLA yn dal ar gael a hynny'n dal yn rhad ac am ddim.
I ba gyfeiriad mae'r disg treth neu'r cadarnhad HOS yn cael ei anfon? Anfonir y disg treth a'r dderbynneb i gyfeiriad y ceidwad cofrestredig fydd ar gofrestr y DVLA ar y pryd a dylai gyrraedd drwy'r post o fewn 5 niwrnod gwaith.
Os wnewch chi HOS ar ein gwefan, gallwch argraffu'r tudalen cadarnhad a'i ddefnyddio fel cadarnhad. Hefyd, os byddwch yn darparu eich cyfeiriad ebost ar y wefan byddwch yn derbyn ebost yn cadarnhau'r trafodyn. Bydd llythyr cadarnhad ddim yn cael ei hanfon.
Peidiwch â defnyddio'r gwasanaeth hwn os ydych chi wedi symud ty yn ddiweddar ac heb dderbyn y Dystysgrif Cofrestru â'ch cyfeiriad newydd arni.
Beth os yw fy ngherbyd wedi'i eithrio rhag treth? Pan wnewch gais am ddisg treth ar lein neu drwy ddefnyddio gwasanaeth dros y ffôn, gallwn wirio eich tystysgrif eithrio anabl yn electronig gyda Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) Agor ffenestr newydd a Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog (SPVA) Agor ffenestr newydd .
Rhaid i'ch cerbyd fod wedi'i gofrestru yn barod yn y dosbarth treth Anabl.
Os na fydd hynny wedi'i wneud, yna chewch chi ddim defnyddio'r gwasanaeth ar-lein neu dros y ffôn, a bydd angen i chi newid dosbarth treth eich cerbyd drwy fynd i unrhyw gangen o Swyddfa'r Post sy'n dosbarthu disgiau treth neu i swyddfa leol y DVLA. bydd hyn yn dibynnu ar y rheswm eich bod wedi eithrio rhag talu treth.
Mae cais am ddisg treth neu ddatganiad HOS ar gael ar ein gwefan neu drwy ddefnyddio ein gwasanaeth ffôn ar gyfer rhai dosbarthiadau sydd wedi'u heitrhio rhag treth. Ar gyfer y dosbarth treth i'r anabl rydym yn gallu gwirio eich tystysgrif eithrio i bobl anabl yn electronaidd gyda gyda Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) Agor ffenestr newydd a Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog (SPVA) Agor ffenestr newydd .
Beth yw HOS? Mae Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol (HOS) yn golygu y dylai'r DVLA gael gwybod, yn ôl y gyfraith, pan nad yw ceidwad cerbyd yn trethu cerbyd oherwydd nad yw'n cael ei ddefnyddio na'i gadw ar ffordd gyhoeddus. Bydd HOS yn ddilys am 12 mis onibai eich bod yn gwerthu, trethu, yn allforio'n barhaol neu'n sgrapio'r cerbyd cyn i'r 12 mis ddod i ben. Y ddeddfwriaeth sy'n cwmpasu HOS yw Rheoliadau Cerbydau'r Ffordd (Cofrestru a Thrwyddedu) 2002.
Cais am Drwydded Cerbyd/Datganiad HOS Mae'r ffurflen atgoffa (V11W) yn cael ei chyhoeddi gan DVLA cyn y diwrnod i'r ddisg treth neu ddatganiad HOS ddod i ben. Mae'r rhif cyfeirnod sydd ar flaen y ffurflen V11W yn yr adran werdd yn un unigryw. Bydd hwn yn eich galluogi i wneud cais am ddisg treth neu ddatgan HOS naill ai ar lein neu drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn DVLA.
Cais am Drwydded Cerbyd steil newydd/Datganiad HOSCais am Drwydded Cerbyd/Datganiad HOS math newydd
Y Dystysgrif Gofrestru Tystysgrif Cofrestru Cerbyd yw'r V5C. Mae
  • yn dangos pwy yw ceidwad cofrestredig y cerbyd (dyma'r person neu'r cwmni sy'n cadw cerbyd, nid perchennog cyfreithlon y cerbyd o anghenriad).
  • yn rhoi enw a chyfeiriad y ceidwad, rhif cofrestru'r cerbyd a gwybodaeth arall am y cerbyd; a chaiff ei dosbarthu bob tro y byddwn yn diweddaru ein cofnodion ar ôl i fanylion newid.
Fersiwn Newydd Cais am Drwydded Cerbyd steil newydd/Datganiad HOS Fersiwn Flaenorol
Rydw i'n credu bod cyfeiriad y ceidwad cofrestredig a/neu fanylion y cerbyd gan y DVLA yn anghywir Os yw cyfeiriad y ceidwad cofrestredig a/neu fanylion cerbyd yn anghywir gan y DVLA, ni allwch wneud cais am ddisg dreth na datgan HOS gan ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Am wybodaeth ar sut i roi gwybod am newid cyfeririad a gwneud cais am ddig treth neu ddatgan HOS ewch i Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) Agor ffenestr newydd a'r Asiantaeth Personel Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog (SPVA) Sut i drethu'ch cerbyd gyda ffurflen atgoffa Agor ffenestr newydd .
Beth yw Rhif Cyfeirnod Mae'r rhif cyfeirnod sydd ar flaen y ffurflen V11W yn yr adran werdd yn un unigryw. Bydd hwn yn eich galluogi i wneud cais am ddisg treth neu ddatgan HOS naill ai ar lein neu drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn DVLA.
Cais am Drwydded Cerbyd steil newydd/Datganiad HOS
Dangoswch i mi lle mae Rhif Cyfeirnod y Ddogfen. Gallwch ddod o hyd i rif cyferinod y ddogfen ar Dystysgrif Cofrestru'r Cerbyd.
Tystysgrif Cofrestru Steil Newydd
Fersiwn Newydd Cais am Drwydded Cerbyd steil newydd/Datganiad HOS Fersiwn Flaenorol
Rhif Cofrestru'r Cerbyd Rhif Cofrestru'r Cerbyd yw'r fformat rhif a llythren unigryw a arddangosir ar du blaen a chefn eich cerbyd.
Gellir dod o hyd i'r Rhif Cofrestru ar eich Tystysgrif/DogfenCofrestru.
Rhif y Cerdyn Rhif y cerdyn yw'r rhif hir, wedi'i godi ar y tu blaen yng nghanol y cerdyn talu. Mae'r rhif hwn yn tueddu i fod yn 15 i 19 digid o hyd. Gellir talu drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd. Rydym yn derbyn cardiau debyd UK Maestro, VISA Debit ac Electron a chardiau credyd VISA a Mastercard.
Y Cod Diogelwch Nodwedd diogelwch newydd pwysig yw'r cod diogelwch sydd yn awr yn ymddangos ar gefn y rhan fwyaf o gardiau credyd a debyd. Rhif tri digid ydyw sy'n darparu gwiriad o'r wybodaeth sydd wedi'i boglynnu ar y cerdyn.
Mae'r Côd Diogelwch yn helpu i ddilysu body y cerdyn talu mewn gwirionedd ym meddiant y cwsmer a bod cyfrif y cerdyn talu yn gyfreithlon. Dim ond ar y cerdyn y mae'r cod wedi'i argraffu ac nid yw'n cael ei gynnwys yn y wybodaeth strip magnetaidd nac ychwaith ar dderbynebau gwerthiant na chyfriflennu bilio - rhiad i chi fod â'r cerdyn yn eich meddiant er mwyn defnyddio'r cod hwn. Nodwedd diogelwch newydd pwysig yw'r cod diogelwch sydd yn awr yn ymddangos ar gefn y rhan fwyaf o gardiau credyd a debyd. Rhif tri digid ydyw, sy'n darpau gwiriad cryptograffegol o'r wybodaeth sydd wedi boglynnu ar y cerdyn.Llun Cod Diogelwch
Cyfeiriad Ebost Anfonir cadarnahd bod y cais hwn wedi'i dderbyn drwy ebost, os rhoddir cyfeiriad ebost.
Rhif Ffôn Symudol Rhowch rif eich ffôn symudol drwy ddefnyddio a nodau + a - yn unig.
Sut ydw i'n gwybod ym mha ddosbarth y dylwn i drwyddedu fy ngherbyd? Trethir cerbydau newyddau yn ôl eu "Pwysau Refeniw". Dyma'r pwysau mwyaf a gadarnhawyd (h.y. pwysau gros neu bwysau gros trên) ar gyfer cerbydau y mae'n rhaid eu platio a'u profi. Ar gyfer cerbydau nad ose rhaid eu profi, y pwysau fydd y pwysau mwyaf y gall cerbyd weithredu'n gyfreithlon dan gyfyngiadau adeiladu a defnydd (h.y. pwysau'r dyluniad).
Rhaid bodloni'r Rheoliadau Adeiladu a Defnydd a Rheoliadau Cerbydau'r Ffordd (Pwysau Awdurdodedig). Yr unig eithriad yw pan wneir Orchynmyn Adran 14 gan yr Ysgrifennydd Gwladol fydd yn rhoi gollyngiad cyffredinol neu benodol oddi wrth anghenion adeiladu a defnydd.
Am wybodaeth bellach am y strwythur bandio dylech drio at y daflen 'Cyfraddau Treth Cerbyd' (V149W).